Gall chwilio am swyddi gymryd amser, p'un a ydych chi'n chwilio am swydd ran-amser, interniaeth neu rôl i raddedigion. Nid yw cydbwyso hyn â'r astudiaethau bob amser yn rhwydd.

Mae'n bwysig dechrau'r broses hon yn gynnar. Bydd y broses o hysbysebu llawer o gyfleoedd graddedig yn dechrau'n gynnar yn ystod eich blwyddyn derfynol o astudio. Os ydych chi eisiau cael lle ar raglen i raddedigion gyda recriwtiwr graddedigion sy'n gwmni adnabyddus iawn, gallwch chi ddisgwyl dechrau'r broses o gyflwyno cais yn gynnar ym mis Hydref eich blwyddyn derfynol.

Os nad ydych chi'n siŵr am y math o rôl, cyflogwr neu sector sydd o ddiddordeb i chi, rhowch gynnig ar yr uned 'Chwilio am Swydd a Rhwydweithio' yn y Cwrs Datblygu Gyrfa am ragor o wybodaeth ac arweiniad.

Ewch i'n tudalen Ble i ddod o hyd i swyddi am ragor o wybodaeth am chwilio am swydd.

Mentora

Mae mentora'n ffordd wych o ddatblygu rhwydwaith proffesiynol, datblygu sgiliau cyfathrebu a hyder. Gallant eich helpu i archwilio'r gwahanol opsiynau gyrfa a'ch helpu i ehangu eich rhwydwaith proffesiynol.

Fel arfer, bydd y mentor yn berson profiadol yn ei faes. Mae'n brofiad personol lle mae'r mentor yn rhannu gwybodaeth, arbenigedd ac arweiniad yn seiliedig ar ei brofiad personol ef â'r person sy'n derbyn mentora i'w helpu i ddatblygu.

Gallwn ni ddod o hyd i fentor i chi drwy Raglen Mentora Proffesiynol i Gyn-fyfyrwyr Abertawe!

Rhwydweithio

Gall datblygu rhwydwaith effeithiol eich helpu i gael blas ar yrfa mewn sefydliad neu ddiwydiant, sy'n gallu eich helpu i benderfynu a ydych chi am barhau â'ch syniadau gyrfa. Mae'n eich galluogi i gael rhagor o wybodaeth am y farchnad swyddi gudd, cyn y bydd swydd yn cael ei hysbysebu, a allai agor cyfleoedd profiad gwaith i chi.

Rydym ni'n cynnal sawl digwyddiad gyda chyflogwyr drwy gydol y flwyddyn, gan roi digonedd o gyfleoedd i chi gwrdd â chyflogwyr a rhwydweithio â nhw. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ddigwyddiadau.

Cofiwch y gallwch chi rwydweithio a meithrin perthnasoedd ar-lein yn ogystal ag wyneb yn wyneb. Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chyflogwyr. Gall Linkedin, Instagram a TikTok fod yn lleoedd gwych i gael rhagor o wybodaeth am ddiwylliant gwaith a gwerthoedd sefydliad, yn ogystal â'r digwyddiadau diweddaraf a newyddion gan y cwmni. Gall hyn fod yn wybodaeth wych y gallech chi ei defnyddio fel rhan o'r broses recriwtio.

Am ragor o wybodaeth am dda a drwg wrth rwydweithio, cwblhewch yr uned 'Chwilio am swyddi a rhwydweithio' ar y Cwrs Datblygu Gyrfa.