EICH ARHOLIADAU
Yn Swyddfa Arholiadau Prifysgol Abertawe, rydym yn:
- Pennu ac yn rheoli'r prif gyfnodau arholiadau
- Llunio'r brif amserlen arholiadau, gan gydweithio'n agos â'r Ysgolion a'r Colegau
- Darparu cymorth ac yn gwneud trefniadau ar gyfer myfyrwyr sy’n derbyn darpariaeth ychwanegol ar gyfer eu harholiadau
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i chi sefyll yr arholiadau ar gyfer y modiwlau rydych wedi cofrestru arnynt yn unol â’r amserlen swyddogol. Cynhelir arholiadau'r brifysgol yn unol â rheolau llym a bennir gan y Brifysgol. Mae'r rhain yn cynnwys rheolau ar absenoldeb o arholiadau, ymddygiad yn ystod arholiad, a chamymddygiad academaidd.