GWYBODAETH A CHYNGOR AR DEITHIO

Bysus Arholiadau

Ewch i Gylchlythyr y Myfyrwyr am gyngor ar deithio i'ch arholiadau

AMSERAU EICH ARHOLIADAU

Sylwer, bydd holl arholiadau'r Brifysgol yn dechrau naill ai am 9:30AM neu am 2PM. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn y lleoliad a nodir ar eich amserlen mewn da bryd i ddechrau'ch arholiad.

Yn achos myfyrwyr sy'n derbyn darpariaeth ychwanegol ar gyfer eu harholiadau, dylech gyrraedd o leiaf 30 munud cyn amser dechrau'r arholiad.