Rydym yn deall bod llawer o'n myfyrwyr yn pryderu am effaith cynnydd mewn costau byw ac rydym am sicrhau eich bod yn gwybod sut i gael cymorth os oes ei angen arnoch.

Rydym am greu amgylchedd ym Mhrifysgol Abertawe lle rydych yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi ac yn rhagori yn eich addysg. Mae gennym nifer o fentrau a gwasanaethau ar waith i'ch helpu gyda chostau byw ac rydym yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i gynllunio sut gallwn gynnig hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.

Rydym wedi creu'r dudalen hon i ddod â'r holl adnoddau ynghyd mewn un hyb cymorth cyfleus i'n myfyrwyr. 

Dod o hyd i swydd rhan amser

Students working in coffee shop

Efallai yr hoffech ddod o hyd i waith rhan-amser i'ch helpu wrth astudio. Cofrestrwch ar gyfer hysbysfwrdd y Parth Cyflogaeth i gael gwybod am y swyddi rhan-amser diweddaraf, bwrsariaethau cyflogaeth a gweithdai.

Parth Cyflogaeth

Mannau astudio ar y campws

Students in Library study pod

Efallai yr hoffech fanteisio ar ein mannau astudio neu labordai cyfrifiaduron ar y campws. Ar wahân i adeiladau'r llyfrgell, mae sawl lle ar gampysau'r Bae a Pharc Singleton y gallwch chi eu defnyddio at ddibenion astudio anffurfiol.

Lleoedd Astudio Anffurfiol

LOCERI GLINIADURON

Laptop with Swansea website on screen

Wyddech chi y gallwch fenthyg gliniadur o'r llyfrgell am ddim am hyd at bythefnos?

Lleolir ein Loceri Gliniaduron yn ein Llyfrgelloedd ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae.

Ble i ddod o hyd a sut i ddefnyddio ein loceri gliniaduron

BOD YN ACTIF

Four students kayaking in Swansea Bay

Mae Bod yn ACTIF yn cynnig amserlen wythnosol o sesiynau gweithgarwch fforddiadwy a hwyliog i'ch annog i symud mwy ar y campws. Cynigir rhai sesiynau am ddim, a dim ond £1.50 yw cost rhai eraill!

Ydych chi'n barod i fod yn actif?

Gwobrau am adborth

Students holding up speech bubble signs

Hoffech chi fod yn rhan o banel barn y myfyrwyr?

Byddwn yn darparu gwobrwyon i ddiolch i chi! Gallai’r rhain fod ar ffurf taleb rodd, bwyd neu fag llawn hanfodion bywyd myfyriwr!

Adnoddau defnyddiol