LLEISIO’CH BARN
Pynciau yn cynwysedig o:
- Opsiynau ar gyfer hyd y flwyddyn academaidd
- Datblygiadau campws
- Defnydd o dechnoleg yn y darlithfeydd
- Sicrhai bod gan fyfyrwyr digon o le i astudio a chymdaethasu
Pynciau yn cynwysedig o:
Mae Panel Barn y Myfyrwyr yn gyfle gwych i ymwneud â'r Brifysgol a dweud eich dweud am gynigion a syniadau a fydd yn pennu cyfeiriad Prifysgol Abertawe am y degawd nesaf!
Os ydych yn cofrestru ar gyfer y panel, byddwn yn cysylltu â chi bedwar neu bum gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd i'ch gwahodd chi i weithdai a thrafod syniadau am amrywiaeth o themâu. Byddwn yn cynnig bwyd yn y sesiynau hyn i ddiolch ichi, a byddwch hefyd yn cael bag o roddion rhad ac am ddim o hanfodol bywyd myfyriwr.
Mae bron 200 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyfer y panel hyd yn hyn, ond rydym bob amser yn chwilio am ragor.
Os ydych yn credu bod eich barn yn bwysig a hoffech ei rhannu â ni, yr unig beth y mae angen ichi ei wneud yw anfon eich enw a'ch cyfeiriad e-bost, yn ogystal â manylion am eich cwrs a'ch blwyddyn i spes@abertawe.ac.uk