Amgylchiadau Esgusodol

Mae'r Brifysgol yn cydnabod y gallai amrywiaeth eang o anawsterau/amgylchiadau effeithio ar fyfyrwyr a allai arwain at anallu i baratoi am asesiadau neu ymgymryd â nhw.  Lluniwyd y canllaw hwn i’ch helpu i ddeall beth dylech ei wneud os ydych yn profi anawsterau personol neu amgylchiadau esgusodol y teimlwch eu bod yn effeithio ar eich astudiaethau.

Os ydych chi'n cael anawsterau yn bodloni unrhyw derfynau amser neu'n paratoi am aseiniadau neu’n eu cwblhau oherwydd amgylchiadau esgusodol, cysylltwch â'ch Cyfadran/Ysgol i ofyn am ffurflen gais Amgylchiadau Esgusodol y Gyfadran/Ysgol. Os yw eich Cyfadran/Ysgol yn cefnogi eich cais, y canlyniad mwyaf tebygol yw y byddwch chi’n cael y cyfle i ohirio asesiad neu i’w estyn.

 

Gohirio asesiad yw pan fydd yr asesiad yn cael ei ohirio i'r cyfnod asesu nesaf; er enghraifft, i fyfyrwyr ar raglenni sy'n dechrau ym mis Medi, bydd asesiad yn ystod mis Mai/Mehefin fel arfer yn cael ei ohirio tan y cyfnod asesu ym mis Awst.

Mae’n bwysig gadael i’ch Ysgol/Coleg wybod am amgylchiadau personol a all effeithio ar eich astudiaethau neu baratoad ar gyfer asesiad.