Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol
Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu
1. Rhagair
Mae'r Brifysgol yn cydnabod y gall ystod o ffactorau, gan gynnwys amgylchiadau esgusodol, effeithio ar astudio a pharatoadau myfyriwr ar gyfer asesiad ar adegau, ac weithiau ni fydd myfyrwyr yn gallu cwblhau asesiadau.
Mae gan y polisi canlynol ddau brif bwrpas: sicrhau bod myfyrwyr sydd â hawl dilys o ran amgylchiadau esgusodol yn cael eu trin yn deg ac yn gyson; a diogelu safon cymwysterau'r Brifysgol.
Mae'r polisi hwn yn ddilys ar gyfer pob myfyriwr yn y Brifysgol sy'n dilyn rhaglen a addysgir neu elfen hyfforddi gradd ymchwil, ac yn caniatáu ystyried amgylchiadau esgusodol yn ymwneud ag arholiadau a gwaith cwrs.
2. Egwyddorion Sylfaenol
Seilir Polisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol ar yr egwyddorion canlynol:
i) Pwrpas unrhyw asesiad yw mesur cyflawniad, nid potensial (h.y. yr hyn y mae myfyriwr wedi'i wneud, nid yr hyn y mae ganddo'r potensial i'w wneud).
ii) Mae gan bob myfyriwr gyfrifoldeb unigol am gyflwyno gwaith cwrs ar amser, bod yn bresennol ar yr amser ac yn y man priodol ar gyfer asesiadau sydd wedi'u hamserlennu (gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, arholiadau/asesiadau ar-lein, arddangosiadau, cyflwyniadau ac arholiadau ymarferol neu arholiadau yn y labordy) ac am roi gwybod i'w Goleg academaidd am unrhyw amgylchiadau esgusodol drwy gyflwyno gwybodaeth a dogfennaeth am amgylchiadau o'r fath.
Cyfrifoldeb y myfyriwr yw datgan unrhyw amgylchiadau esgusodol mewn modd amserol (fel arfer CYN y dyddiad cau/dyddiad yr arholiad) i ganiatáu cyfle i'r Brifysgol ymateb mewn modd priodol i'r amgylchiadau hynny. Dylai myfyriwr sy'n poeni na fydd yn gallu sefyll asesiad a/neu gyflwyno gwaith erbyn y dyddiad cyflwyno gysylltu â'i Gyfadran/Ysgol i gael cyngor.
iii) Bydd y Cyfadrannau/Ysgolion academaidd yn ystyried ffyrdd o gynorthwyo myfyrwyr yn ddifrifol er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i oresgyn amgylchiadau a allai fel arall effeithio'n andwyol ar asesiadau.
iv) Bydd y Brifysgol yn ymateb mewn modd teg a chyfiawn i unrhyw amgylchiadau esgusodol nad oes modd eu datrys yn ddigonol cyn yr asesiad perthnasol.
vi) Nid ystyrir bod amgylchiadau esgusodol yn sail i newid marciau a ddyfernir ar gyfer asesiadau sydd eisoes wedi'u cwblhau.
vii) Ni fydd y Brifysgol yn cyfyngu nifer y gweithiau y gall myfyrwyr gyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol ar gyfer arholiad neu asesiad penodol. Caiff pob cais ei ystyried ar sail y ffeithiau unigol ac ni chaiff cais ei wrthod fel arfer dim ond oherwydd bod y myfyrwyr wedi cael cyfanswm nifer yr ymgeisiau a ganiateir yn unol â'r rheoliadau am arholiad neu asesiad neu wedi cyrraedd y cyfnod cofrestriad arferol hiraf am ei gwrs. Fodd bynnag, yn eithriadol, efallai y bydd achosion lle bydd y Brifysgol yn nodi bod amgylchiadau myfyriwr yn gymhellol ond yn penderfynu peidio â chymeradwyo'r cais oherwydd nad yw'n credu bod rhagolygon realistig y bydd y myfyriwr yn cwblhau ei raglen neu'n llwyddo i ennill dyfarniad ymadael (os yw'n berthnasol ar gyfer y rhaglen honno).
Er enghraifft, efallai y bydd myfyriwr eisoes wedi cael sawl ymgais ar asesiad ond heb lwyddo nac ennill credydau, na gwneud unrhyw gynnydd academaidd, pan oedd yr holl opsiynau cefnogi rhesymol ar waith, neu efallai y bydd myfyriwr wedi cyrraedd y cyfnod cofrestru hiraf arferol ar gyfer ei gwrs, neu efallai na fydd unrhyw bosibilrwydd rhesymol o gwblhau'r cwrs o fewn yr amser hwnnw (na thebygrwydd o'i gwblhau os caniateir rhagor o amser) ym marn academaidd y darparwr, gan ystyried y cynnydd hyd at y dyddiad hwnnw.
viii) Ystyrir bod yr holl geisiadau amgylchiadau esgusodol yn gyfrinachol a chaiff gwybodaeth ei rhannu â'r aelodau hynny o staff y mae angen iddynt wneud penderfyniad yn unig. Pan fydd myfyriwr yn ystyried bod ei amgylchiadau o natur sensitif iawn, dylid nodi hyn ar y ffurflen gais a chaiff tystiolaeth o'r fath ei ystyried gan yr unigolyn sy'n penderfynu'n unig.
ix) Fel eithriad, gellir ystyried cais heb dystiolaeth ategol os gall myfyriwr ddarparu esboniad boddhaol am beidio â darparu tystiolaeth o'i bath. Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gyda chydymdeimlad.
x) Caiff amgylchiadau esgusodol eu hystyried gan Bwyllgor Amgylchiadau/pwyllgor priodol arbennig yn yr Ysgol/Cyfadran neu gan staff academaidd a/neu broffesiynol sy'n briodol gymwys a phrofiadol a ddirprwywyd i weithredu ar eu rhan.
3. Canllawiau ar 'Amgylchiadau Esgusodol'
Diffinnir Amgylchiadau Esgusodol fel problemau neu ddigwyddiadau difrifol neu sydyn, y tu hwnt i allu myfyriwr i'w rheoli neu eu rhagweld, a fyddai wedi gallu effeithio ar berfformiad y myfyriwr a/neu a fyddai wedi gallu effeithio ar allu myfyriwr i fynychu, cwblhau, neu gyflwyno asesiad ar amser. Yr unig amgylchiadau esgusodol perthnasol yw'r rhai sy'n codi amheuon am ddilysrwydd yr asesu fel mesur o gyflawniad. Dylai'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd gefnogi anableddau/cyflyrau iechyd tymor hir (gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â lles/iechyd meddwl), mewn ymgynghoriad â'r Gyfadran/Ysgol a'r myfyriwr (gweler y canllawiau i Gyfadrannau/Ysgolion ar gyfer ymdrin â myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol a/neu ofynion penodol).
3.1.1
Mae'r rhestr ganlynol yn rhestr, nad yw'n gyflawn, o amgylchiadau sydd yn annhebygol o gael eu derbyn gan y Brifysgol fel amgylchiadau esgusodol dilys:
- Mân anhwylderau neu afiechydon (a fyddai mewn sefyllfa waith yn annhebygol o arwain at absenoldeb o'r gwaith) sy'n effeithio ar waith paratoi'r myfyriwr ar gyfer asesiad. Gallai enghreifftiau gynnwys annwyd, pen tost, mân ddamwain neu fân anaf.
- Cyflwr meddygol honedig heb naill ai 1) tystiolaeth resymol (feddygol neu fel arall) i'w gefnogi neu 2) esboniad boddhaol o ran pam nad yw'r myfyriwr wedi gallu darparu tystiolaeth ategol annibynnol ar adeg cyflwyno'r cais.
- Problemau ariannol, gan gynnwys effaith cyflogaeth am dâl.
- Sgiliau rheoli amser gwael.
- Rhwymedigaethau cymdeithasol ac ymrwymiadau tebyg eraill y gellir eu hosgoi, er enghraifft: gwyliau, priodas, parti, apwyntiad meddygol rheolaidd.
- Ffactorau astudio y gellir eu hosgoi, megis methiant cyfrifiadurol, argraffydd ddim yn gweithio, gormod o derfynau amser ar yr un pryd, nodiadau coll.
- Gwyliau, symud tŷ neu ddigwyddiadau eraill a gynlluniwyd neu y gellid bod wedi'u disgwyl yn rhesymol.
- Ni chaiff materion sy'n ymwneud â fisâu eu derbyn fel arfer.
- Camddarllen yr amserlen arholiadau.
Mân-ddigwyddiadau bywyd oni bai bod yr amgylchiadau wedi cael effaith anghymesur ar y myfyriwr.
3.1.2
Mae'r rhestr ganlynol yn rhestr, nad yw'n gyflawn, o amgylchiadau y byddai'r Brifysgol yn tybio fel arfer eu bod yn amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar berfformiad:
- Salwch difrifol, damwain, neu broblem les sy'n analluogi’r myfyriwr, neu ddirywiad annisgwyl mewn problem hirdymor. Disgwylir i chi ddarparu ardystiad meddygol a ddylai fod yn amlwg yn berthnasol i'r cyfnod yn union cyn y dyddiad asesu.
- Mân glefyd neu anhwylder sy'n effeithio ar y myfyriwr ar ddiwrnod yr arholiad, neu'n syth cyn arholiad. Gallai enghreifftiau gynnwys mân-ddamweiniau neu fân-anafiadau. Fel arfer, disgwylir i chi ddarparu tystysgrif feddygol a dylai gyfeirio'n glir at y dyddiad asesu neu gyfnod byr cyn y dyddiad asesu.
- Pan na fydd myfyriwr yn gallu mynd i/sefyll asesiad oherwydd Covid-19, fel arfer, disgwylir i'r myfyriwr ddarparu ardystiad meddygol neu dystiolaeth o ganlyniad prawf positif a dylai fod yn berthnasol i ddyddiad yr asesiad neu gyfnod byr yn union cyn dyddiad asesiad.
Ymprydio crefyddol sy'n effeithio ar iechyd mewn ffordd sylweddol ac sy'n atal myfyriwr rhag sefyll arholiad/asesiad. - Gorbryder neu straen â diagnosis/wedi'i asesu sy'n ymwneud ag arholiadau/asesiadau a gefnogir naill ai gan dystysgrif feddygol neu brofforma addasu. Dylai tystiolaeth gyfeirio'n glir at y dyddiad asesu neu'r cyfnod byr cyn y dyddiad asesu.
- Salwch hirdymor, anghenion penodol, anableddau sydd wedi'u datgelu a'u hasesu gan y Brifysgol. Caiff y profforma addasu ei dderbyn fel tystiolaeth gefnogi.
- Symptomau clefyd heintus a allai fod yn andwyol pe byddai'n cael ei drosglwyddo i eraill. Disgwylir i chi ddarparu ardystiad meddygol a ddylai fod yn amlwg yn berthnasol i'r dyddiad asesu neu gyfnod byr yn union cyn y dyddiad asesu.
- Marwolaeth neu salwch difrifol perthynas agos neu ffrind. Rhaid darparu tystiolaeth annibynnol ategol.
- Amgylchiadau personol/teulu andwyol o bwys – megis ysgariad, lladrad, tân, achos llys mawr, bod yn dyst i ddigwyddiad trawmatig neu gael profiad ohono, anawsterau ariannol y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr. Rhaid darparu tystiolaeth ategol annibynnol.
- Ffactorau eithriadol eraill sydd wedi effeithio'n sylweddol ar y myfyriwr. Rhaid darparu tystiolaeth annibynnol ategol.
- Myfyrwyr rhan-amser sy'n cael eu rhyddhau mewn blociau, neu fyfyrwyr dysgu o bell yn unig – newid sylweddol anrhagweledig ym mhatrwm eu cyflogaeth. Fel arfer, dylid darparu tystiolaeth ategol annibynnol .
- Argyfwng o ryw fath sy’n atal y myfyriwr rhag bod yn bresennol mewn arholiad neu gyrchu asesiad ar-lein. Fel arfer, dylid darparu tystiolaeth ategol annibynnol.
- Ymosodiad/trais rhywiol. Fel arfer, dylid darparu tystiolaeth ategol annibynnol.
- Argyfwng llety megis troi allan gorfodol neu gartref nad oes modd byw ynddo. Fel arfer, dylid darparu tystiolaeth ategol annibynnol.
- Materion sy'n ymwneud â fisâu. Fel arfer, dylid darparu tystiolaeth ategol annibynnol.
- Gwaharddiad a orchmynnwyd gan y Brifysgol
- Defodau crefyddol.
- Amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â gwaith grŵp nad ydynt eisoes wedi’u hystyried gan y Gyfadran/Ysgol (e.e. lle mae’r holl grŵp wedi bod yn destun amgylchiadau y tu allan i’w reolaeth, neu os bydd aelod o’r grŵp yn profi anawsterau ac felly nid oes modd iddo gyfrannu’n effeithiol.) Fel arfer, dylid darparu tystiolaeth ategol annibynnol.
- Cyflyrau sy’n ymwneud â beichiogrwydd a geni babi (gan gynnwys partner yn ystod geni babi). Fel arfer, dylid darparu tystiolaeth ategol annibynnol.
- Fel arfer, caiff methiant offer TG y Brifysgol ei dderbyn os bydd methiant y gellir ei wirio (ynghyd â thystiolaeth gadarn) sy'n effeithio ar system neu systemau, ac sy'n cyfyngu ar gyfle'r myfyriwr i gyflwyno, gan gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i:
o Fethiant gan y feddalwedd goruchwylio o bell
o Diffoddiad WiFi lleol heb ei gynllunio
o Amser segur heb ei gynllunio o'r Platfform Dysgu Digidol (neu elfennau ohono)
Gall tystiolaeth (lle mae'r amseroedd a'r dyddiadau'n weladwy iawn) fod ar ffurf sgrinluniau o aflonyddwch i wasanaethau, gwallau, tudalen darparwr rhwydwaith neu gyfathrebiadau sy'n amlinellu'r aflonyddwch, gan gynnwys postiadau cyfryngau cymdeithasol ac e-byst gan ddarparwyr neu systemau monitro. Er hynny, mae'n rhaid i fyfyrwyr gadw copi o'u gwaith wrth gefn a bod yn barod i'w gyflwyno erbyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd, gan drefnu amser wrth gefn ar gyfer problemau technegol posib ar y munud olaf a sicrhau eu bod yn rhoi gwybod am y mater i'r aelod(au) staff perthnasol cyn gynted â phosib. - Cyfrifoldebau gofalu neu anawsterau domestig sy'n effeithio ar allu myfyriwr i baratoi ar gyfer asesiadau neu eu sefyll. Caiff pasbort gofalwr ei dderbyn fel tystiolaeth. Fel arall, rhaid darparu tystiolaeth ategol annibynnol.
- Cyfnod cwarantin/hunanynysu: Os bydd cyfnod o gwarantin yn effeithio ar allu myfyriwr i gwblhau asesiad(au), dsgwylir i’r myfyriwr ddarparu gwybodaeth ar yr amgylchiadau yn ffurflen gais y Gyfadran/Ysgol. Os yw’r myfyriwr mewn cwarantin mewn llety’r Brifysgol, gellir derbyn copi o’r archeb lety ar gyfer cwarantin (ar gael o Myunisupport). Os ydynt yn hunanynysu, gofynnir i fyfyrwyr ddarparu copïau o e-bost a anfonir i’r Gyfadran/Ysgol/Prifysgol yn dweud am y cyfnod o hunanynysu. Caiff ceisiadau eu hystyried gyda chydymdeimlad.
3.2
Fel arfer, dylid darparu dogfennaeth annibynnol i gadarnhau unrhyw honiadau o amgylchiadau eithriadol. Rhaid darparu tystiolaeth o’r fath gyda dyddiad o fewn mis o’r asesiad/arholiad dan sylw, gan nodi sut mae’r amgylchiadau wedi effeithio ar berfformiad myfyriwr a/neu sut y gallant fod wedi bod yn rhwystr i’r myfyriwr wrth fynychu, cwblhau neu gyflwyno asesiad ar amser. Os na chaiff dogfennaeth ategol ei darparu, bydd y cais yn cael ei wrthod oni bai y gall y myfyriwr ddarparu esboniad boddhaol yn ei gais pam na fu modd iddo ddarparu tystiolaeth o'r fath.
3.2.1
Dyma restr anghyflawn o enghreifftiau o dystiolaeth briodol:
- Llythyr/tystysgrif gan Feddyg*/Gweithiwr Iechyd Proffesiynol sy'n cadarnhau'r salwch, gan nodi effaith debygol y salwch ac sy'n nodi'n glir y cyfnod amser o salwch sy'n cyfateb i'r cyfnod asesu y mae'r hawliad yn cael ei wneud ynddo. (*Dylai’r meddyg fod wedi cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, neu fod â statws cyfatebol. Lle nad yw’r meddyg teulu wedi cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, neu os nad oes ganddo statws cyfatebol, gellir gofyn am dystiolaeth bellach, fel y bo'n briodol).
- Yn achos myfyriwr sy'n mynd yn sâl yn ystod arholiad ar y safle sy'n cael ei oruchwylio, copi o adroddiad y goruchwyliwr. (Dylid darparu tystiolaeth feddygol ar y cyd â hyn pryd bynnag y bydd modd ). Rhaid i fyfyriwr sy’n mynd yn sâl yn ystod arholiad ar y safle hysbysu’r goruchwyliwr naill ai yn ystod yr arholiad neu’n uniongyrchol wedi hynny a chyn gadael lleoliad yr arholiad. Bydd y goruchwyliwr yn gwneud cofnod a chaiff y myfyriwr weld y cofnod hwnnw yn y Swyddfa Arholiadau. Mewn achos o'r fath, gellir defnyddio adroddiad y goruchwyliwr i gefnogi cais am ohirio, er y dylai myfyrwyr hefyd gasglu tystiolaeth feddygol os yw hynny'n bosibl.
- Llythyr derbyn a rhyddhau o'r ysbyty – i gadarnhau'r cyfnod yn yr ysbyty. Rhaid i'r llythyr gynnwys enw'r myfyriwr a bydd yn rhaid bodloni'r Gyfadran/Ysgol bod y llythyr yn ymwneud â'r myfyriwr.
- Llythyr gan wasanaeth sy'n cefnogi'r myfyriwr, e.e. Y Gwasanaeth Lles ac Anabledd, y Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO), y Ganolfan Atgyfeirio Achosion o Ymosodiadau Rhywiol (SARC), Cwnselydd, Canolfan Gyngor Prifysgol Abertawe (SUAC) neu asiantaeth arall a allai fod yn cefnogi'r myfyriwr, etc. (a ddarperir yn ôl disgresiwn y gwasanaeth cefnogi).
- Yn achos archwiliad o orbryder/straen â diagnosis/a nodir, bydd angen tystysgrif feddygol neu brofforma addasiadau.
- Yn achos cael eich gosod dan gwarantin, bydd angen copi o'r cwarantin (os ydych chi'n cael eich gosod dan gwarantin yn llety'r Brifysgol sydd ar gael drwy MyUniSupport).
- Yn achos hunanynysu, bydd angen copi o'r e-bost a anfonwyd gan y GIG/Brifysgol at y myfyriwr yn ei hysbysu am y cyfnod hunanynysu.
- Yn achos myfyrwyr gyda chyflyrau iechyd/anableddau sy'n gallu gwella a gwaethygu a gymeradwywyd gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd, bydd y profforma addasiadau yn cael ei dderbyn fel tystiolaeth.
- Naill ai tystysgrif marwolaeth neu Drefn Gwasanaeth neu Lythyr gan y Trefnwr Angladdau. Yn achos salwch difrifol a/neu farwolaeth perthynas agos (sy'n cael ei ddiffinio fel rhiant/prif ofalwr yr ymgeisydd, chwaer neu frawd, partner/partner priod, plentyn/dibynnydd yr ymgeisydd), bydd tystiolaeth o'r farwolaeth/salwch difrifol yn ddigonol a chymerir yn ganiataol fod y salwch/farwolaeth wedi effeithio ar y myfyriwr.
- Adroddiad yr heddlu – ni dderbynnir cyfeirnod y drosedd ar ei ben ei hun yn unig
- Erthygl newyddion sy'n cadarnhau anawsterau teithio annisgwyl.
- Yn achos cyfrifoldebau gofalu ac anawsterau domestig yn y tymor byr sy'n effeithio ar allu'r myfyriwr i baratoi ar gyfer asesiadau a'u cwblhau, datganiad gan aelod o'r teulu/ffrind.
Mewn achosion lle nad yw’n bosib/priodol i fyfyriwr gael tystiolaeth annibynnol am eu hamgylchiadau, gall y myfyriwr wneud datganiad yn fuan wedi’r digwyddiad a’i gyflwyno. Fodd bynnag, rhaid i fyfyriwr esbonio pam nad yw hi’n bosib cael tystiolaeth annibynnol.
Gall y Brifysgol gysylltu â darparwr tystiolaeth (e.e. meddyg teulu) i wirio tystiolaeth myfyriwr. Mewn achosion o’r fath, bydd y Brifysgol yn cael caniatâd y myfyriwr i gysylltu â darparwr y dystiolaeth.
3.2.2
Mae’r canlynol yn rhestr nad yw’n gynhwysfawr o enghreifftiau o dystiolaeth nad yw fel arfer yn cael ei derbyn:
- Hunan-ardystiad o amgylchiadau.
- Tystiolaeth gan barti nad yw'n annibynnol.
- Cyflwr meddygol wedi'i ategu gan dystiolaeth ôl-syllol.
- Llythyr gan riant, partner, aelod o'r teulu neu gyd-fyfyriwr sy'n dilysu amgylchiadau lle nad oes unrhyw dystiolaeth ategol annibynnol arall.
- Tystiolaeth mewn iaith heblaw Cymraeg/Saesneg, heb gyfieithiad ardystiedig i gyd-fynd â hi.
- Rhif cyfeirnod trosedd heb adroddiad atodol yr heddlu.
- Sgrinluniau o ddyfeisiau symudol yn dangos gwybodaeth gyfyngedig.
- Tystiolaeth nad yw'n ddarllenadwy, hynny yw, geiriau wedi pylu, wedi’i thocio, gwybodaeth wedi'i hepgor, heb ddyddiad, tystiolaeth wedi'i sganio'n wael.
4. Polisi Amgylchiadau Esgusodol
Polisi Prifysgol Abertawe yw mabwysiadu’r dybiaeth bod myfyrwyr sy’n sefyll asesiad mewn cyflwr priodol i wneud hynny. Bydd y marciau a ddyrennir yn adlewyrchiad cywir o’r perfformiad ac ni chânt eu newid yn hwyrach ar sail amgylchiadau esgusodol. Gellir rhoi cyfle ychwanegol i fyfyriwr nad yw'n gallu sefyll arholiad neu gwblhau aseiniad oherwydd amgylchiadau esgusodol ymgymryd ag asesiad, o bosibl heb ei gapio (yn amodol ar ddarparu'r dystiolaeth briodol).
Ystyrir bod myfyriwr sy’n mynd a/neu yn cwblhau asesiad ac nad yw’n cyflwyno hawliadau am amgylchiadau esgusodol o fewn 5 niwrnod gwaith o’r asesiad neu’r dyddiad cyflwyno a osodwyd gan y Gyfadran/Ysgol yn gyfrifol am ddarparu’r modiwl dan sylw wedi cadarnhau:
- nad oes rhesymau pam na ddylen nhw fod wedi ymgymryd â’r asesiad ar yr adeg honno;
- na fydd yn cyflwyno cais am gonsesiwn yn ddiweddarach oherwydd amgylchiadau esgusodol; a
- bod unrhyw geisiadau am ‘addasiadau rhesymol’ yn sgil anabledd, cyflwr iechyd, lles neu broblem iechyd meddwl neu ofynion penodol eraill eisoes wedi’u cyflwyno i’r Brifysgol.
Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd y Gyfadran/Ysgol yn rhoi estyniad i fyfyriwr mewn perthynas â chyflwyno amgylchiadau esgusodol/tystiolaeth ategol. Ni fydd myfyriwr sy’n ymgymryd ag asesiad gan wybod bod amgylchiadau eithriadol wedi effeithio arno fel arfer yn gallu cyflwyno cais llwyddiannus yn hwyrach.
Yn achos tarfu ar arholiadau neu broblemau gydag arholiad sy'n effeithio ar grŵp o fyfyrwyr, gall Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig y Gyfadran/Ysgol neu Bwyllgor addas argymell camau gweithredu priodol.
5. Cais am Amgylchiadau Esgusodol
Y Gyfadran/Ysgol sy’n gyfrifol am gyflwyno’r modiwl y mae’r asesiad yr effeithiwyd arno’n berthnasol iddo a fydd yn ystyried y cais am amgylchiadau esgusodol mewn perthynas ag asesiadau a addysgir (ar y safle/arholiadau o bell a/neu waith cwrs). Wrth ddod i benderfyniad, caiff Cyfadrannau/Ysgolion eu cyfarwyddo gan egwyddorion 2, 3 a 4 y polisi hwn. Caiff gweithdrefnau Cyfadran/Ysgol ar gyfer ystyried amgylchiadau esgusodol sy’n effeithio ar asesiadau eu cyhoeddi gan y Gyfadran/Ysgol. Bydd y gweithdrefnau'n cynnwys dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno amgylchiadau esgusodol, y gweithdrefnau a'r amserlen ar gyfer ystyried unrhyw gyflwyniadau gan y Gyfadran/Ysgol, a hysbysu'r myfyriwr am y canlyniad.
Rhaid i fyfyrwyr gwblhau’r ffurflen amgylchiadau esgusodol briodol a ddarperir gan y Gyfadran/Ysgol a’i chyflwyno wedi’i chwblhau, ynghyd â’r dystiolaeth annibynnol ategol erbyn y dyddiad cyflwyno a nodir gan y Gyfadran/Ysgol
5.1 Ceisiadau Gwaith Cwrs
Bydd Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig y Gyfadran/Ysgol neu'r Pwyllgor perthnasol yn penderfynu ar un o'r canlynol:
- mae cais dilys wedi'i wneud a chytunir ar un o'r opsiynau canlynol:
- Rhoi estyniad i’r dyddiad cau cyflwyno (yn berthnasol i waith cwrs)
- Cynnig cyfle arall (wedi’i gapio neu heb ei gapio, fel y bo’n briodol) ar yr adeg asesu briodol nesaf (yn berthnasol i waith cwrs ac arholiadau o bell)
Lle nad oes un o'r camau gweithredu uchod yn berthnasol oherwydd natur yr asesiad, gall Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig y Gyfadran/Ysgol neu'r Pwyllgor perthnasol:
- ganiatáu diystyru elfen fach o'r gwaith cwrs neu'r asesiad yn ystod y flwyddyn, gan ailgyfrif y marc(iau) terfynol yn seiliedig ar elfennau'r gwaith cwrs neu'r asesiad sy'n weddill yn ystod y flwyddyn; neu
- ymdrin â'r sefyllfaoedd hynny lle mae cydran o'r modiwl ar goll trwy ganiatáu i'r marc(iau) terfynol gael ei/eu (h)ailgyfrif o gydran/cydrannau'r modiwl sy'n weddill; neu
- argymell camau gweithredu eraill i'r Bwrdd Arholi;
- dod i'r casgliad nad oes unrhyw sail, neu nad oes sail ddigonol, i gais y myfyriwr.
Ymdrinnir ag amgylchiadau esgusodol sy'n effeithio ar gyflwyno'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, ar gyfer myfyrwyr meistr a addysgir, trwy weithdrefnau ar wahân.
5.2 Arholiadau ar y Safle/Arholiadau
Dylai myfyriwr â nam dros dro a allai olygu bod sefyll arholiad ar y safle yn anodd iddo gysylltu â Chydlynydd y Modiwl/Asesu neu’r Swyddog Arholiadau priodol a Swyddfa Arholiadau’r Brifysgol yn y Gwasanaethau Academaidd oherwydd y gallai fod yn briodol rhoi trefniadau arbennig ar waith i alluogi’r myfyriwr i sefyll yr arholiad. Gall hyn gynnwys caniatáu i'r myfyriwr sefyll yr asesiad mewn ystafell lai o faint, neu ddefnyddio ysgrifennydd (sgrifellwr), defnyddio cyfrifiadur, neu addasiadau priodol eraill.
Mewn achosion lle nad yw trefniadau arbennig o'r fath yn briodol, dylid defnyddio'r polisi amgylchiadau esgusodol yn lle.
Os bydd y Gyfadran/Ysgol yn derbyn yr amgylchiadau esgusodol fel rheswm dilys mewn perthynas ag arholiad ar y safle/o bell, caiff cyfle arall i sefyll yr arholiad ei gynnig ar yr adeg asesu priodol nesaf (Cyfnod Arholi Semester Un, y prif gyfnod asesu yn Semester Dau neu Gyfnod Asesu Atodol ar gyfer rhaglenni a addysgir). Os mai 'ymgais gyntaf' oedd yr arholiad, pan fyddwch yn cael cyfle arall i sefyll arholiad, caiff hynny ei ystyried yn achos gohirio ac ni chaiff y marciau eu capio’. Os oedd yr arholiad yr effeithiwyd arno'n arholiad ailsefyll, tybir bod y cyfle a ohirir yn arholiad ailsefyll hefyd a bydd y marc a ddyfernir wedi'i gapio (os yw capio'n berthnasol). Os bydd y myfyriwr wedi rhoi cynnig ar yr arholiad dan sylw cyn y caniateir gohiriad, ni roddir marc am y cais gwreiddiol.
5.3 Amserlen ar gyfer penderfyniadau
Caiff myfyrwyr eu hysbysu am ganlyniad cais amgylchiadau esgusodol gan y Gyfadran/Ysgol yn brydlon ac fel arfer o fewn 14 diwrnod gwaith o gyflwyno’r cais.
5.4 Hysbysiad am y canlyniad
Caiff myfyrwyr eu hysbysu o ganlyniad eu cais yn ysgrifenedig. Dylai’r Gyfadran/Ysgol hefyd gynnwys manylion am y rhesymau dros y penderfyniad a chyngor o ran â phwy y dylid cysylltu os bydd y myfyriwr yn profi anawsterau pellach mewn perthynas ag asesu.
5.5 Ceisiadau sy’n cael eu gwrthod
Os yw’r Gyfadran/Ysgol yn gwrthod cais amgylchiadau esgusodol mewn perthynas ag arholiad neu waith cwrs (yn unol â’r gweithdrefnau a amlinellwyd yn 5.1 a 5.2), caiff y camau canlynol eu cymryd:
- os na wnaed ymgais ar yr arholiad, cofnodir marc o 0% (absenoldeb heb awdurdod) ar gyfer yr arholiad a phenderfynir ar ganlyniad terfynol y myfyriwr yn unol â'r gweithdrefnau asesu ar gyfer y rhaglen astudio; neu
- os rhoddwyd cynnig ar yr arholiad, caiff y papur ei farcio, gwneir cofnod o'r marc a phenderfynir ar ganlyniad terfynol y myfyriwr yn unol â'r gweithdrefnau asesu ar gyfer y rhaglen astudio.
5.6 Amgylchiadau esgusodol sy’n effeithio ar y Cyfnod Asesu Atodol
Nid oes cyfle pellach i ymgymryd ag asesiadau rhwng y cyfnod Asesu Atodol a dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf. Gellir ystyried amgylchiadau esgusodol sy'n ymwneud â gwaith cwrs yn unol â 5.1 uchod. Fodd bynnag, nid oes modd gohirio cyfle arholi atodol. Felly, nid oes modd gohirio cyfle arholi atodol. Pan fydd myfyriwr yn destun amgylchiadau esgusodol yn ystod y cyfnod asesu atodol, dylai hysbysu ei Gyfadran/Ysgol gartref am yr amgylchiadau esgusodol:
cyn dyddiad yr asesu; neu o fewn 5 niwrnod gwaith o gynnal yr asesiad/erbyn y dyddiad a nodwyd gan y Gyfadran/Ysgol
Rhaid cyflwyno'r wybodaeth mewn ysgrifen gan ddefnyddio'r ffurflen benodedig ynghyd â thystiolaeth ddogfennol annibynnol ategol. Gellir ystyried y cais hwn heb dystiolaeth ategol annibynnol os gall y myfyrwyr roi esboniad boddhaol am y rheswm am beidio â gallu darparu tystiolaeth o’r fath. Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau â chydymdeimlad. Dylai'r myfyriwr gyflwyno'r ffurflen benodedig o fewn yr amserlen a amlygwyd uchod hyd yn oed os nad yw'r dystiolaeth ategol yn llawn/neu ran ohoni ar gael o fewn yr amserlen honno. Rhaid darparu unrhyw dystiolaeth ategol cyn gynted â phosib wedi hynny. Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd y Gyfadran/Ysgol yn rhoi estyniad i fyfyriwr i’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno amgylchiadau esgusodol/tystiolaeth ategol. Os yw’r ffurflen a ragnodwyd yn cael ei derbyn gan y Gyfadran/Ysgol heb yr holl dystiolaeth ategol/esboniad boddhaol am fethiant y myfyriwr i ddarparu tystiolaeth ategol annibynnol, bydd y Gyfadran/Ysgol yn rhoi dyddiad cyflwyno rhesymol (gan ystyried y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau lle caiff canlyniadau’r myfyriwr eu hystyried) i’r myfyriwr drwy ei gyfrif e-bost myfyriwr at ddibenion darparu tystiolaeth. Os na chaiff dyddiad cau darparu’r holl dystiolaeth ategol ei fodloni, caiff y cais ei ystyried (ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cais ac unrhyw dystiolaeth a ddarparwyd gyda’r cais pan gafodd ei gyflwyno) ac mae’n bosib y caiff ei wrthod.
Bydd y Gyfadran/Ysgol yn ystyried amgylchiadau esgusodol sy’n effeithio ar asesiadau atodol mis Awst gan benderfynu a yw’r cais am amgylchiadau esgusodol yn ddilys ai peidio.
Os yw’r Gyfadran/Ysgol yn penderfynu bod y cais yn ddilys, gall y Gyfadran/Ysgol gyflwyno argymhelliad i Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Bwrdd i’w ystyried yn sgil perfformiad cyffredinol y myfyriwr. Er enghraifft, gellid rhoi cyfle pellach i fyfyriwr ailadrodd y modiwl a fethwyd heb i'r marciau gael eu capio yn y sesiwn ddilynol yng ngoleuni'r amgylchiadau esgusodol. Fodd bynnag, ni chaiff myfyriwr symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf / rhan nesaf o'i astudiaethau na chymhwyso ar gyfer dyfarniad oherwydd cais am amgylchiadau esgusodol os na fydd wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer dilyniant neu ddyfarniad. Ym mhob achos, bydd y rheoliadau arferol ar gyfer dilyniant neu ddyfarniad yn weithredol.
5.7 Y Coleg, Prifysgol Abertawe – Penderfyniadau ynghylch gohirio
Caiff penderfyniadau ynghylch gohirio ar gyfer myfyrwyr y Coleg, Prifysgol Abertawe eu gwneud gan Bwyllgor Amgylchiadau Esgusodol y Coleg, Prifysgol Abertawe.
6. Amgylchiadau Esgusodol a Phenderfyniadau Dilyniant/Dyfarniad
Caiff penderfyniad a wnaed gan Bwyllgorau Amgylchiadau Arbennig Cyfadrannau/Ysgolion (neu bwyllgor perthnasol arall) neu Fwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd y Brifysgol (neu enwebai'r Bwrdd), mewn perthynas ag amgylchiadau esgusodol eu hanfon at y Bwrdd Arholi priodol fel argymhelliad. Bydd y Bwrdd Arholi'n ystyried unrhyw argymhelliad mewn perthynas â phroffil academaidd cyffredinol y myfyriwr a'r gweithdrefnau asesu. Fel arfer y rheoliadau asesu sydd â'r flaenoriaeth.
7. Camymddygiad Academaidd
Bydd unrhyw fyfyriwr sy'n cyflwyno tystiolaeth anghywir neu ffug i gefnogi cais am amgylchiadau esgusodol, a hynny'n fwriadol, yn agored i gamau disgyblu yn unol â Gweithdrefnau Camymddygiad Academaidd y Brifysgol.
8. Apeliadau
Ni fydd apeliadau yn erbyn penderfyniadau gan Bwyllgor Amgylchiadau Arbennig (neu Bwyllgor priodol arall), neu Fwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd y Brifysgol (neu enwebedigion y Bwrdd), mewn perthynas ag amgylchiadau esgusodol fel arfer yn cael eu hystyried.
Mewn achosion lle mae myfyriwr yn teimlo bod anghysondebau wedi bod wrth ddilyn y gweithdrefnau, dylai’r myfyrwyr gysylltu â’r Gyfadran/Ysgol yn y lle cyntaf.
Mewn achosion lle mae myfyriwr yn cynhyrchu tystiolaeth newydd sy’n berthnasol i gais a gyflwynwyd eisoes, gall y myfyriwr ailgyflwyno’r dystiolaeth newydd i’r Gyfadran/Ysgol i’w hailystyried, ar yr amod bod hyn o fewn y dyddiadau a nodwyd.
Dim ond mewn achosion lle mae'r dystiolaeth feddygol a gyflwynwyd yn cefnogi'r awgrym nad oedd y myfyriwr mewn sefyllfa i wybod a oedd yn ffit i ymgymryd ag asesiad neu i baratoi gwaith i'w asesu y bydd y Brifysgol yn derbyn cais am amgylchiadau esgusodol a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau. Dylid rheoli hawliadau o’r fath yn unol â'r Weithdrefn Apeliadau Academaidd. Gofynnir i’r Gyfadran/Ysgol ddarparu sylwadau mewn achosion o’r fath.
9. Cadw Cofnodion
Bydd Cyfadrannau/Ysgolion yn cadw cofnodion cywir a chymesur o geisiadau a chanlyniadau amgylchiadau esgusodol.
10. Monitro Amgylchiadau Esgusodol
Cyfrifoldeb y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd yw monitro'r data a gwneud argymhellion fel y bo'n briodol.
Bydd hefyd yn gyfrifoldeb y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd i adolygu’r polisi a’i effeithiolrwydd, gan wneud argymhellion i’w newid lle bo’n briodol, i’w hystyried gan y Senedd.
11. Diogelu Data
Bydd y Brifysgol yn parchu cyfrinachedd yr wybodaeth a ddarperir gan fyfyrwyr i gefnogi cais am Amgylchiadau Esgusodol. Drwy gyflwyno ffurflen amgylchiadau esgusodol, mae myfyriwr yn cytuno i’r Brifysgol ddal ei ddata personol at ddibenion prosesu cais am amgylchiadau esgusodol. Bydd y Brifysgol yn dal y data hyn yn unol â’i hysbysiad o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol a Chyfreithiau Diogelu Data eraill a Pholisi Dargadw Cofnodion y Brifysgol.