3.7 Cam Tri – Penderfynu a gaiff achos ei drin gan y Gyfadran/Ysgol neu gan y Arweinydd Uniondeb Academaidd Prifysgol/Swyddog Achosion Uniondeb Academaidd y Brifysgol/ Pwyllgor Ymholi
Os yw Swyddog Uniondeb Academaidd Cyntaf y Gyfadran/Ysgol yn penderfynu bod achos prima facie o gamymddwyn academaidd, yna bydd yn penderfynu a oes modd clywed yr achos ar lefel y Gyfadran/Ysgol ynteu a ddylid ei gyfeirio at y Cyfarwyddwr Uniondeb Academaidd.
Bydd Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/Ysgol yn cysylltu â'r Gwasanaethau Academaidd i egluro a yw'r myfyriwr wedi tramgwyddo'n academaidd o'r blaen. Gellir ymdrin â honiadau cyntaf llai difrifol eu natur ar lefel y Gyfadran/yr Ysgol. Rhaid cyfeirio unrhyw honiad sy'n codi ar ôl i un tramgwydd gael ei gadarnhau at sylw'r Arweinydd Uniondeb Academaidd Prifysgol/Swyddog Achosion Uniondeb Academaidd y Brifysgol.
Dylai Cyfadrannau/Ysgolion hefyd archwilio unrhyw waith arall a gyflwynwyd o'r blaen gan y myfyriwr, (gan gynnwys gwaith a gyflwynwyd mewn Colegau neu feysydd pwnc eraill lle y mae’r myfyriwr wedi dilyn modiwlau), am enghreifftiau posibl eraill o gamymddygiad academaidd).
Bydd tîm cymorth y Gyfadran yn cysylltu â'r Gwasanaethau Academaidd i egluro a oes gan y myfyriwr unrhyw dramgwyddau blaenorol o gamymddygiad academaidd. Fel arfer, bydd y Swyddog Uniondeb Academaidd cyntaf yn cael ei hysbysu cyn dod i benderfyniad am y cyhuddiad dan ystyriaeth, neu unrhyw dystiolaeth o honiadau o gamymddygiad o ran uniondeb academaidd blaenorol. Fodd bynnag, dylid dweud wrth yr Ail Swyddog Uniondeb Academaidd cyn penderfynu ar y gosb mewn achosion priodol.
• Bydd yr achosion canlynol fel arfer yn cael eu trin ar lefel Ysgol
• llên-ladrad - Pob achos cyntaf ac ail achos myfyrwyr a addysgir* )
• cydgynllwynio - Pob achos cyntaf ac ail achos myfyrwyr a addysgir* )
*Ymdrinnir â'r holl ail achosion myfyrwyr a addysgir sy'n ymwneud â llên-ladrad/cydgynllwynio ar lefel Ysgol, waeth beth fo natur yr achos cyntaf.
Mae ffugio canlyniadau gwaith labordy, gwaith maes, neu unrhyw waith arall sy'n casglu ac yn dadansoddi data yn gamymddygiad academaidd hefyd.
Yn achos tramgwydd pellach o lên-ladrad neu gydgynllwynio, bydd Swyddog Uniondeb Academaidd yr Ysgol yn ystyried a yw'r achos o natur ddifrifol (h.y. a yw rhan sylweddol o'r asesiad wedi'i llên-ladrata neu a oes cydgynllwynio o bwys wedi bod). Dylai Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/Ysgol ystyried y canlynol wrth benderfynu a fyddai'n fwy priodol ymdrin â'r achos ar lefel y Gyfadran/Ysgol (yn unol â Chamau Pedwar i Chwech isod), neu gyfeirio'r achos at Arweinydd Uniondeb Academaidd/Swyddog Achos Uniondeb Academaidd y Brifysgol:
• swm y gwaith yr effeithiwyd arno
• pwysiad y gwaith cwrs o fewn y modiwl;
• difrifoldeb y drosedd;
• cyfanswm nifer y credydau yr effeithiwyd arnynt;
• lefel yr astudiaeth.
Yn gyntaf oll, dylai'r Swyddog Uniondeb Academaidd ystyried y cyfarwyddyd a geir yng Nghôd Ymarfer y Brifysgol ar Gamymddwyn Academaidd, ond caiff geisio cyngor ychwanegol oddi wrth Wasanaethau Academaidd neu'r Arweinydd Uniondeb Academaidd/Swyddog Achos Uniondeb Academaidd y Brifysgoi benderfynu a ddylai'r Gyfadran/Ysgol drin yr achos, neu a ddylid ei gyfeirio at sylw Pwyllgor Ymholi'r Brifysgol.
3.8 Camymddygiad Academaidd yn ymwneud â deunydd a brynwyd o wefan/banc traethodau/system/asiantaeth arall
Ni chaiff achosion o'r fath eu hystyried ar lefel y Gyfadran/Ysgol a dylid eu hanfon at y Arweinydd Uniondeb Academaidd/Swyddog Achos Uniondeb Academaidd y Brifysgo (gweler rheoliad 5.0).
3.9 Cam Pedwar – Ymateb y Myfyriwr i'r Honiad
3.9.1
Os oes achos prima facie o gamymddwyn academaidd yn bodoli a bod y Swyddog Uniondeb Academaidd Cyntaf yn penderfynu y dylai'r achos gael ei drin ar lefel y Gyfadran/Ysgol, dylai (neu ei enwebai) roi gwybod i’r myfyriwr dan sylw yn ysgrifenedig am yr achos o gamymddwyn academaidd honedig. Bydd Swyddog Uniondeb Academaidd yr Ysgol naill ai: yn gwahodd y myfyriwr i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig (gan ddefnyddio'r templed Ffurflen Ymateb Myfyrwyr) neu; yn gwahodd y myfyriwr i gyfweliad.
Mewn amgylchiadau eithriadol a chyda chytundeb y myfyriwr, gellir ymdrin ag achosion o'r fath yn ysgrifenedig. Os bydd y myfyriwr yn nodi nad yw’n dymuno dod i'r cyfweliad, cynhelir y cyfweliad yn ei absenoldeb. Fel arfer, ni fydd myfyriwr yn cael anfon unigolyn arall i'r cyfweliad yn ei absenoldeb oni bai bod Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/yr Ysgol yn awdurdodi hyn cyn y cyfweliad. Os na cheir ymateb gan fyfyriwr, bydd yr achos yn mynd rhagddo yn ei absenoldeb ar ôl gwneud pob ymdrech resymol i gysylltu â’r myfyriwr. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir gohirio’r cyfweliad unwaith.
3.9.2
Pan wahoddir y myfyriwr i gyfweliad, bydd ganddo'r hawl i ddod â chyfaill neu gydweithiwr (sy'n aelod o'r Brifysgol) i'r cyfweliad, neu gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr. Rôl unrhyw unigolyn sy'n dod gyda'r myfyriwr fydd cefnogi'r myfyriwr hwnnw, ac fel arfer, ni chaniateir iddo ateb cwestiynau ar ran y myfyriwr.
Gall myfyriwr ddod â chyfieithydd gydag ef os teimlir na fydd yn gallu deall y trafodion yn llawn. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw trefnu cyfieithydd o’r fath a bydd hefyd yn gyfrifol am ei ffioedd (ac eithrio ar gyfer cyfieithu Cymraeg; gweler isod). Dylai’r myfyriwr roi enw’r cyfieithydd i’r Ysgol cyn y cyfarfod.
Bydd myfyriwr sy’n dymuno i'r gwrandawiad gael ei gynnal yn Gymraeg yn rhoi gwybod i’r Ysgol, wrth dderbyn dyddiad y gwrandawiad, er mwyn i Swyddfa Iaith Gymraeg y Brifysgol drefnu gwasanaeth cyfieithu. Darperir gwasanaethau o’r fath am ddim i’r myfyriwr.
Fel rheol byddai’r cyfweliad yn cynnwys o leiaf 2 aelod o staff, sef y Swyddog Uniondeb Academaidd Cyntaf ac un arall fel arfer. Gall yr ail aelod o staff fod yn Ail Swyddog Uniondeb Academaidd neu’n aelod arall o staff academaidd. Rhaid cadw cofnod o'r cyfarfod; gall hyn fod ar ffurf cofnodion ysgrifenedig a/neu recordiad sain/cyfryngau. Yn ôl disgresiwn yr Gyfadran/Ysgol , gellir enwebu trydydd aelod o staff er mwyn cofnodi/trawsgrifio'r cyfarfod.
Caiff cyfarfodydd eu cynnal yn electronig dros Zoom/Fideo-gynadleddu fel arfer, a disgwylir i bawb alluogi eu gwe-gamera.
Dylid rhoi copi o'r dystiolaeth i'r myfyriwr ac fel arfer bydd y dystiolaeth hon ar ffurf copi o’r traethawd gyda nodiadau arno a/neu’r adroddiad Turnitin, ffynonellau ayb.
Mewn achosion o gydgynllwynio, dylid anfon copïau o bob darn o waith sy’n destun ymchwilid at y myfyrwyr, neu ddetholiadau fel y bo’n briodol, ac unrhyw dystiolaeth a gyflwynwyd cyn y cyfweliad gan y myfyriwr arall/myfyrwyr eraill.
3.9.3
Dyma’r cylch gorchwyl ar gyfer y cyfweliad:
• ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd ynghylch yr honiad o gamymddwyn academaidd;
• gwneud argymhelliad o ran canlyniad yr achos (gan gynnwys, unrhyw gosb os cadarnheir yr honiad).
Mewn achosion lle bo’r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd yn bresennol yn y cyfweliad, bydd y cylch gorchwyl yn cynnwys:
• penderfynu a yw’r honiad wedi cael ei gadarnhau;
• pennu, mewn achosion priodol, y gosb y dylid ei gosod.
3.9.4
Bydd y weithdrefn yn ystod y cyfweliad fel a ganlyn:
Bydd y Swyddog Uniondeb Academaidd Cyntaf yn
• Cyflwyno ei hun ac unrhyw staff ychwanegol i’r myfyriwr;
• Rhoi gwybod i’r myfyrwyr y bydd ef a’r ail aelod staff yn holi’r myfyriwr, yn galw am dystion ac yn cyflwyno tystiolaeth fel y bo’n briodol;
• Amlinellu diben y cyfweliad a’r canlyniadau posibl;
• Rhoi cyfle i’r myfyriwr a/neu ei gynrychiolwyr ymateb i’r honiad ac amlinellu eu hachos;
• Galluogi’r myfyriwr i gyflwyno unrhyw dystiolaeth sydd ganddo megis drafftiau, ffynonellau;
• Asesu dealltwriaeth y myfyriwr o gywirdeb academaidd a chamymddwyn academaidd;
• Gofyn i’r myfyriwr, lle bo’n briodol, p’un a yw’n dymuno cyflwyno unrhyw amgylchiadau lliniarol, ac atgoffa’r myfyriwr y gallai fod wedi adrodd amgylchiadau o’r fath i’r Gyfadran/Ysgol cyn i’r penderfyniadau gael ei wneud. Ni ellir cyfeirio at yr amgylchiadau hynny yn ddiweddarach fel rheswm dros adolygiad;
• Rhoi gwybodaeth i’r myfyriwr am amserlen y penderfyniad a’i hawl i wneud apêl yn erbyn y penderfyniad;
• Cyfeirio’r myfyriwr, lle bo’n briodol, at help a chymorth ychwanegol, er enghraifft i’r Mentor Academaidd, Llyfrgellydd Pwnc neu’r Rhaglen Llwyddiant Academaidd;
• Cadw cofnod o’r cyfarfod.
3.9.5
Nid oes raid i Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/Ysgol ystyried bwriad, ac mewn perthynas â chyhuddiad o gamymddwyn academaidd, ni ellir amddiffyn achos trwy ddweud bod y tramgwydd wedi’i gyflawni’n anfwriadol neu drwy gamgymeriad. Fodd bynnag, gall y myfyriwr gyflwyno amgylchiadau o’r fath fel amgylchiadau lliniarol mewn perthynas â’r gosb a bennir.
3.9.6
Ar ôl ystyried y dystiolaeth ac unrhyw ymateb a ddarperir gan y myfyriwr, bydd y Swyddog Uniondeb Academaidd Cyntaf yn cyfeirio'r achos, yr holl dystiolaeth berthnasol, yr ymateb ysgrifenedig a gafwyd gan y myfyriwr ac unrhyw nodiadau o unrhyw gyfarfod a gynhaliwyd gyda'r myfyriwr i'r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd. Yn ogystal, bydd yn darparu’i argymhelliad o ran penderfyniad yr achos gan ddefnyddio’r ffurflen adrodd am achosion sydd ar gael gan y Gwasanaethau Academaidd.
3.10 Cam Pump – cadarnhau’r achos
Bydd Ail Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/Ysgol yn ystyried y dogfennau a'r argymhelliad a gafwyd gan y Swyddog Uniondeb Academaidd Cyntaf, ac yna'n penderfynu a yw'r honiad o gamymddwyn academaidd wedi'i brofi ar sail y dystiolaeth a dderbyniwyd. Bydd baich y profi (sef y ddyletswydd i brofi’r honiad) ar y Gyfadran/Ysgol , a dylai safon y prawf fod ar bwysau tebygolrwydd: sefydlir ffaith os yw’n fwy tebygol o fod wedi digwydd na pheidio.
Nid oes raid i’r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd ystyried bwriad, ac mewn perthynas â chyhuddiad o gamymddwyn academaidd, ni ellir amddiffyn achos trwy ddweud bod y tramgwydd wedi’i gyflawni’n anfwriadol neu drwy gamgymeriad. Fodd bynnag, gall y myfyriwr gyflwyno amgylchiadau o’r fath fel amgylchiadau lliniarol mewn perthynas â’r gosb a roddir.
Pan na fydd y safon prawf yn cael ei bodloni, dylid diystyru'r achos a chaiff y myfyriwr ei hysbysu am hyn yn ysgrifenedig.
Mewn achosion lle teimlir mai achos o arfer academaidd gwael yw hwn yn hytrach na chamymddygiad academaidd, ymdrinnir â'r achos yn unol â 3.6
Os yw'r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd yn canfod bod yr achos o gamymddwyn academaidd wedi'i brofi, bydd yn penderfynu ar y gosb sydd i'w gosod yn unol â Cham Chwech isod.
3.11 Cam Chwech – Achosion ar Lefel y Gyfadran/Ysgol – penderfynu ar gosbau
Er mwyn sicrhau cysondeb yn y defnydd o gosbau, mae’r Brifysgol yn rhoi cyfarwyddyd ar gosbau yn y Côd Ymarfer ar Gamymddwyn Academaidd.
Yn ogystal, yn yr achosion canlynol:
• Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd Ôl-raddedig a Addysgir
• Ail dramgwydd/tramgwydd bellach
dylai'r ail Swyddog Uniondeb Academaidd gysylltu â'r Gwasanaethau Academaidd Myfyrwyr i ddilysu'r gosb arfaethedig. Dylid anfon copi o'r adroddiad drafft am yr achos a dogfennaeth yr achos i Wasanaethau Academaidd Myfyrwyr ynghyd â manylion y gosb arfaethedig. Ni ddylai'r myfyriwr gael ei hysbysu am y gosb nes bod hon wedi cael ei chadarnhau gan Wasanaethau Academaidd Myfyrwyr.
Dylai’r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd ystyried Côd Ymarfer y Brifysgol ar Gamymddwyn Academaidd a gall ymgynghori â chyd-weithwyr wrth bennu’r gosb.
Bydd yr ail Swyddog Uniondeb Academaidd hefyd yn ystyried y canlynol
• difrifoldeb y tramgwydd
• goblygiadau'r gosb i'r myfyriwr
• hanes yr achos
• cofnod academaidd yr ymgeisydd (gan gynnwys unrhyw dramgwyddau blaenorol a brofwyd)
• bwriad
• unrhyw amgylchiadau lliniarol sy'n cael eu dwyn i'w sylw wrth benderfynu ar y gosb.
Dylai’r ail Swyddog Uniondeb Academaidd fod yn sicr bod gan unrhyw amgylchiadau lliniarol gyswllt uniongyrchol â’r achos ac, yn benodol, eu bod wedi dylanwadu ar weithred y myfyrwyr neu'r myfyrwyr dan sylw. Rhaid i ymgeiswyr sy'n cyflwyno amgylchiadau lliniarol ddarparu tystiolaeth i gefnogi'r amgylchiadau a darparu eglurdeb ar eu heffeithiau. Lle gall ymgeisydd fod wedi hysbysu'r Gyfadran/yr Ysgol am amgylchiadau o'r fath cyn i'r penderfyniad gael ei wneud, ni ellir cyfeirio at yr amgylchiadau hynny yn ddiweddarach fel rheswm dros adolygiad.
Gall yr Ail Swyddog Uniondeb Academaidd Ysgol gyflwyno un o'r cosbau canlynol:
Tramgwyddau asesu addysgir:
3.11.1
Rhoi cerydd ysgrifenedig i’r ymgeisydd ac anwybyddu’r testun wrth farcio, gan roi marc is;
3.11.2
Canslo marciau’r ymgeisydd am yr aseiniad;
3.11.3
Canslo marciau'r myfyriwr am y gydran o'r modiwl(au);
3.11.4
Canslo marc yr ymgeisydd am y modiwl dan sylw.
Y Bwrdd Arholi perthnasol fydd yn penderfynu a ganiateir i'r myfyriwr ailgyflwyno'r gwaith neu ailsefyll yr asesiad, yn unol â rheoliadau asesu'r rhaglen.
3.11.5
canslo marciau’r ymgeisydd ym mhob un o’r modiwlau ar gyfer y lefel astudio benodol
Tramgwyddau Traethodau Estynedig:
3.11.6
Methu traethawd estynedig, gyda'r hawl i ailgyflwyno
3.11.7
Methu traethawd estynedig, heb yr hawl i ailgyflwyno
Y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu perthnasol fydd yn penderfynu a ganiateir i'r myfyriwr ailgyflwyno'r gwaith neu ailsefyll yr asesiad, yn unol â rheoliadau asesu'r rhaglen. Fodd bynnag, yn sgil amgylchiadau esgusodol myfyriwr, gall Swyddog Uniondeb yr Ysgol gyflwyno argymhelliad gerbron y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau mewn perthynas ag ail-wneud y gwaith. Mewn achosion o'r fath, Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau fydd â'r awdurdod i dderbyn neu wrthod argymhelliad.
3.12 Adroddiad achos
Bydd Swyddog(ion) Uniondeb Academaidd y Gyfadran/Ysgol yn drafftio adroddiad am bob achos gan nodi a yw'r honiad wedi'i gadarnhau, unrhyw gosbau a weithredwyd, a'r rhesymau dros y penderfyniadau a wnaed (dylai templed fod ar gael o'r Gwasanaethau Academaidd). Caiff yr adroddiad, ynghyd â chopi o'r llythyr, ei anfon at Wasanaethau Academaidd lle cedwir cofnod parhaol. Gellir ystyried yr adroddiad mewn achosion o adolygiadau terfynol. Bydd y Gyfadran/Ysgol hefyd yn anfon copi o'r adroddiad at y myfyriwr (gweler 3.11 isod).
3.13 Hysbysu’r myfyriwr
Dylai'r Gyfadran/Ysgol roi gwybod i'r myfyriwr yn ysgrifenedig p'un a yw'r honiad wedi cael ei gadarnhau ac unrhyw gosb a weithredir (mae templed ar gael o'r Gwasanaethau Academaidd). Dylid rhoi copi o’r Adroddiad ar yr Achos i'r myfyriwr hefyd.
Hysbysir y myfyriwr hefyd am weithdrefnau Adolygiad Terfynol y Brifysgol. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr nodi y gallai adolygiad terfynol o'r canlyniad arwain at gosb fwy llym yn cael ei gosod (e.e. os caiff y canlyniad presennol ei ganslo a bod yr achos yn cael ei gyfeirio er mwyn cael penderfyniad newydd). Anfonir copi o'r llythyr i Wasanaethau Academaidd.
Lle y mae honiad wedi’i gadarnhau ac mae’r Gyfadran/Ysgol yn pryderu y gallai hyn effeithio ar addasrwydd y myfyriwr i ymarfer gallai’r achos hefyd gael ei gyfeirio y Deon Gweithredol (neu enwebai) yn unol â Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer y Brifysgol.
Lle cafodd honiad ei gadarnhau, ac mae’r myfyriwr eisoes wedi cofrestru’n broffesiynol â chorff proffesiynol, statudol neu reoleiddio (er enghraifft cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol), y myfyriwr sy’n gyfrifol am hysbysu’r corff proffesiynol o ganlyniad y Pwyllgor Ymchwilio.
3.14 Arolwg o gosbau
Er mwyn sicrhau cysondeb, gall y Gwasanaethau Academaidd Myfyrwyr gynnal arolwg o'r cosbau ac adrodd am unrhyw ganfyddiadau i'r pwyllgor priodol yn y Brifysgol.