Sut gallwn ni eich helpu?
Mae gwasanaethau MyUniHub wedi’u haddasu eleni. Er mwyn bodloni’r newidiadau o ran galw am ein gwasanaethau ar-lein rydyn ni’n lleihau oriau agor ein desg gymorth.
O ddydd Llun, 12fed Ebrill, bydd y tîm ar gael yn bersonol ar Gampws Parc Singleton bob dydd Llun a dydd Iau.
Ar Gampws y Bae bydd y tîmargael bob dydd Mawrth a dydd Gwener.
Oriau agor ein desg gymorth yw 10:00 tan 16:00. Dylech chi wirio bod ein desgiau cymorth ar agor cyn ceisio ymweld â ni.
Cofiwch, gallwch chi gysylltu â MyUniHub rhwng 08:30 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener trwy ffonio 01792 606000, Sgwrs Fyw a thrwy e-bostio MyUniHub@abertawe.ac.uk
Yn ôl yr arfer, byddwn ni’n parhau i adolygu canllawiau Llywodraeth Cymru ac addasu ein gwasanaethau yn unol â hyn.