Gall MyUniHub roi dogfen i chi sy’n cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gwrs ym Mhrifysgol Abertawe. Mae eich dogfen ar gael i chi ei lawrlwytho unwaith y byddwch chi wedi cofrestru o'ch cyfrif GradIntelligence Bydd y ddogfen yn diweddaru gyda newidiadau a wneir megis cyfeiriad newydd.

Os oes angen copi papur arnoch, dewch i'n gweld wrth ein desgiau. Cyn cyflwyno cais am brawf cofrestru, sicrhewch fod eich cyfeiriad cartref a’ch cyfeiriad yn ystod y tymor yn gywir. Gallwch newid y manylion hyn ar eich cyfrif ar y fewnrwyd.

Os bydd angen ychwanegu manylion pellach at dy lythyr, gallai hyn fod yn bosib dan amgylchiadau cyfyngedig. Dylid rhoi gwybod i dîm MyUniHub a fydd yn ystyried a yw’r cais yn addas. 

Llythyron gyda Dyddiadau Tymhorau i Ddeiliaid Fisa Llwybr Myfyrwyr 

Os yw eich darpar gyflogwr wedi gofyn i chi ddarparu llythyr gyda dyddiadau tymhorau, a wnewch chi lenwi'r ffurflen i ofyn am hyn. Rhaid eich bod wedi cofrestru’n llawn ac wedi darllen yr wybodaeth a ddarperir am weithio o fewn cyfyngiadau eich fisa. 

Bydd MyUniHub yn prosesu eich cais ac yn anfon copi PDF i’ch cyfeiriad e-bost myfyriwr o fewn 3 diwrnod gwaith.

SYLWER: Ar ôl eu dosbarthu, ni chaniateir addasu llythyron Tystiolaeth o Gofrestru mewn unrhyw ffordd. Mae cynhyrchu neu addasu dogfennaeth y Brifysgol, megis llythyron Tystiolaeth o Gofrestru, yn dwyllodrus yn dramgwydd disgyblu. 

Cwlbhau Ffurflen

Os oes angen llofnod arnoch gan y Brifysgol ar unrhyw ffurflenni swyddogol, dewch â nhw i MyUniHub a bydd y tîm yn gallu eich helpu.

Copïau ardystiedig

  • Oherwydd rhesymau diogelwch, ni ddarperir tystysgrifau gradd dyblyg. Os oes angen copïau ychwanegol o’ch tystysgrif arnoch, gall MyUniHub gyflwyno copïau ardystiedig i chi. Os hoffech gopi ardystiedig o’ch tystysgrif gradd, gallwch naill ai ddod â’ch tystysgrif i MyUniHub neu e-bostio copi o ansawdd da wedi’i sganio atom. Byddwn yna’n ardystio’r dystysgrif fel copi go iawn o’r dystysgrif wreiddiol. Codir £5 fesul copi (neu £10 am 5 copi) ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Ardystio:

  • Sylwer: nid yw'r Brifysgol yn gallu 'ardystio' eich tystysgrif gradd. Os oes angen y gwasanaeth hwn arnoch, bydd angen i chi gysylltu â Notari Cyhoeddus trwyddedig.