Gallwch ddiweddaru'r manylion canlynol drwy fewngofnodi i'ch Cyfrif MyUni a mynd i'r fewnrwyd. O'r ddewislen ar y chwith, dewiswch 'Personal Details' ac ychwanegwch eich manylion.
- Cyfeiriad Cartref
- Cyfeiriad yn ystod y tymor
- Perthynas Agosaf/Cyswllt mewn argyfwng
- Enw o ddewis (cyfeirir at hyn hefyd fel enw 'a adnabyddir')
- Statws priodasol
- Nifer y dibynyddion
- Siaradwr Cymraeg
- Ethnigrwydd
- Cred Grefyddol
- Tueddfryd Rhywiol
- A yw eich hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â’ch rhywedd pan gawsoch eich geni?
- Ymgysylltu â'ch astudiaethau (ar y campws neu ar-lein)
I ddiweddaru manylion eraill, e-bostiwch MyUniHub: MyUniHub@abertawe.ac.uk.
Gallwn helpu gyda diweddaru eich enw cyfreithiol
Gall myfyrwyr sy'n dymuno newid eu henw'n gyfreithiol ac maen ganddyn nhw'r holl gofnodion a dogfennau wedi'u diweddaru'n ffurfiol wneud hynny. Bydd angen prawf o newid enw megis tystysgrif priodas neu weithred newid enw.
Defnyddir enw cyfreithiol myfyrwyr i greu eu cyfrif TG ac e-bost a gall ymddangos mewn systemau eraill. Caiff newidiadau i enw cyfreithiol eu hadlewyrchu yn ein holl gofnodion, trawsgrifiadau, datganiadau, tystysgrifau, gohebiaeth a cheisiadau. Dylai myfyrwyr sydd eisiau newid yr enw 'adnabyddir fel' fod yn ymwybodol y byddant yn cael eu cofrestru'n swyddogol o dan eu henwau cyfreithiol.
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, rhaid i'r enw cyfreithiol fod yn gyson rhwng eich pasbort a'ch fisa. I gael rhagor o gyngor, e-bostiwch International@CampusLife.
Gallwn helpu drwy sicrhau bod eich rhyw wedi'i nodi'n gywir
Nod y Brifysgol yw cydnabod pobl wrth y rhywedd y maent yn uniaethu ag ef. Gallwn newid rhywedd myfyriwr sydd wedi'i gofnodi ar ei gofnod myfyriwr ar gais. Nid oes angen tystiolaeth feddygol na dogfennaeth arall arnom.
Bydd y Brifysgol yn newid rhyw cyfreithiol a nodir ar gofnod unigolyn os yw wedi cael Tystysgrif Cydnabyddiaeth Rhywedd. Ni fyddwn yn gofyn i gael gweld y dystysgrif, ond efallai byddwn yn gofyn am ddogfennau fel tystiolaeth, megis tystysgrif geni neu basbort a ailgyhoeddwyd.
Bydd newidiadau o ran rhywedd neu ryw'n cael eu trin yn sensitif ac yn gwbl gyfrinachol.
Os oes angen cymorth neu gyngor ehangach arnoch, e-bostiwch BywydCampws am ragor o gymorth.