Os ydych wedi colli tystysgrif Prifysgol Abertawe, gall MyUniHub eich cynorthwyo i gael tystysgrif newydd. Sylwer na fydd y dystysgrif wreiddiol bellach yn ddilys unwaith y bydd un newydd wedi’i chyflwyno, ac ni fydd modd i’r Brifysgol ei gwirio fel dogfen ddilys.

  • Codir £30 amdani os hoffech dystysgrif newydd.
  • Os yw eich tystysgrif wedi’i difrodi, cyflwynir un newydd yn rhad ac am ddim cyhyd â bod y dystysgrif sydd wedi’i difrodi’n cael ei dychwelyd i’r Brifysgol.
  • SYLWER: Os dyfarnwyd eich gradd gan Brifysgol Cymru, mae angen i chi gysylltu â Desg Gymorth Cofrestrfa Prifysgol Cymru.