Rydym ni'n monitro canllawiau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth y DU yn ofalus mewn perthynas ag ymlediad y coronafeirws ac efallai y byddwn yn addasu'r gweithdrefnau monitro cyfranogiad hyn yn ystod y flwyddyn academaidd wrth i amgylchiadau a pholisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol newid. Argymhellwn i chi wirio'r tudalennau hyn yn rheolaidd i ddilyn y diweddaraf. Byddwn hefyd yn diweddaru myfyrwyr am newidiadau drwy-e-bost. 

MONITRO PRESENOLDEB

Rydym yn ymrwymedig i wella profiad y myfyrwyr sy'n astudio yma ym Mhrifysgol Abertawe. Credwn y gall monitro presenoldeb ein helpu i sicrhau eich llesiant a'ch cefnogi i wneud cynnydd tuag at eich nodau academaidd a'u cyflawni. Yn ogystal, mae dyletswyddau arnom i ddarparu gwybodaeth am bresenoldeb i gyrff allanol pan ofynnir amdani, megis Student Finance England/Cyllid Myfyrwyr Cymru, UKVI a noddwyr allanol.

  • LLESIANT - Os nad ydych yn cyfranogi yn eich astudiaethau, mae'n rhaid i ni wybod fel y gallwn gynnig cyngor a chymorth i'ch helpu i ail-ddechrau cyfranogi a llwyddo yn eich astudiaethau.
  • Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr - Mae'n rhaid i ni gadarnhau i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr eich bod yn astudio bob tymor er mwyn rhyddhau eich taliadau cynhaliaeth.
  • UKVI - Os ydych yn astudio yma drwy Fisa Haen 4/Llwybr Myfyriwr, mae'n rhaid i ni ddweud wrth UKVI os nad ydych yn cyfranogi yn eich astudiaethau bellach
  • Cynnydd Academaidd - Mae eich Gyfadran/Ysgol yn defnyddio data am bresenoldeb, ar y cyd â'ch presenoldeb mewn cyfarfodydd gyda'ch Tiwtor Personol/Goruchwyliwr a data asesu, i sicrhau bod eich cynnydd academaidd ar y trywydd iawn ac i gynnig cymorth os bydd ei angen arnoch.

Mae ein dull monitro'n dibynnu ar eich dull astudio presennol

Cysylltwch â'ch Gyfadran/Ysgol i gael rhagor o wybodaeth am eich dull astudio.