Rydym ni'n monitro canllawiau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth y DU yn ofalus mewn perthynas ag ymlediad y coronafeirws ac efallai y byddwn yn addasu'r gweithdrefnau monitro cyfranogiad hyn yn ystod y flwyddyn academaidd wrth i amgylchiadau a pholisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol newid. Argymhellwn i chi wirio'r tudalennau hyn yn rheolaidd i ddilyn y diweddaraf. Byddwn hefyd yn diweddaru myfyrwyr am newidiadau drwy-e-bost.
Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir
Monitro Presenoldeb Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe
Dolenni Cyflym
- Adolygwch eich data ymgysylltu yn y system FyMhresenoldeb
- Os oes angen i chi gysylltu â rhywun am eich cyfranogiad, defnyddiwch Gysylltiadau'r Gyfadran
- Darllenwch y Polisi Monitro Ymgysylltu llawn ar gyfer Myfyrwyr a Addysgir
Canllaw Cyflym i Fonitro Cyfranogiad: Myfyrwyr a Addysgir
Arweiniad yw hwn i fonitro cyfranogiad ar gyfer myfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn ystod rhan a addysgir eu rhaglenni.
Beth yw Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr?
Mae'r Brifysgol yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data i gynrychioli cyfranogiad mewn astudiaethau i fonitro cyfranogiad myfyrwyr.
Pam mae'n angenrheidiol?
Mae cydberthynas rhwng ymrwymiad a pherfformiad. Po fwyaf byddwch yn ymrwymo, gorau y byddwch chi'n gwneud. Yn ogystal, mae'r cyrff sy'n ariannu ac yn noddi myfyrwyr yn mynnu bod y Brifysgol yn casglu data am gyfranogiad . Mae'r broses monitro cyfranogiad yn rhoi rhybudd i ni am fyfyrwyr y gallai fod angen help arnynt.
Sut y caiff cyfranogiad ei fonitro?
Caiff cyfranogiad ei fonitro’n bennaf drwy ddata eich cerdyn o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb. Caiff hyn ei ategu gan sesiynau dysgu rhithwyr ac wyneb yn wyneb a grwpiau astudio a gweithgarwch yn Canvas er mwyn nodi'r adnoddau yr edrychwyd arnynt a'r e-adnoddau o'r llyfrgell a gyrchwyd.
Beth os yw fy nghyfranogiad yn fy astudiaethau'n isel?
Os yw eich cyfranogiad yn y categorïau 'isel iawn' neu 'isel' am gyfnod estynedig, neu mae eich cyfranogiad yn dangos patrymau sy'n destun pryder, bydd eich Cyfadran/Ysgol yn cysylltu â chi i gynnig help.
Beth os na fyddaf yn cymryd unrhyw ran o gwbl yn fy astudiaethau?
Os nad ydych wedi cyfranogi wyneb yn wyneb am 7 niwrnod yn barhaus, bydd y broses monitro cyfranogiad ffurfiol yn dechrau. Yn yr achos hwn, bydd rhywun yn cysylltu â chi i gynnig cymorth; ond, yn ogystal, ,cewch eich rhybuddio y gellir gofyn i chi dynnu'n ôl o'r Brifysgol os ydych yn parhau i golli sesiynau dysgu.
Os nad ydych wedi cyfranogi wyneb yn wyneb am 14 diwrnod yn barhaus, byddwn yn cysylltu â chi eto i gynnig cefnogaeth ac fe'ch hanogir yn gryf i gysylltu â'ch Cyfadran/Ysgol i gael cyngor a chefnogaeth.
Os nad ydych wedi cyfranogi wyneb yn wyneb am 21 diwrnod yn barhaus, bydd yn rhaid i chi fynd i gyfarfod gorfodol wyneb yn wyneb neu rithwir yn eich Cyfadran/Ysgol. Diben y cyfarfod hwn fydd trafod eich rhesymau am beidio ag ymrwymo a bydd y Gyfadran/Ysgol yn ystyried a ydych chi'n gallu parhau â'ch astudiaethau yn y Brifysgol.
Os oes gennych fisa Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt), mae’r broses fel a ddisgrifir uchod ond bydd yn rhaid i chi gwrdd ag aelod o’r Tîm Monitro Cyfranogiad yn y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr i drafod eich rhesymau dros ddiffyg cyfranogiad.
Os nad ydych yn mynd i’r cyfarfod gyda’ch Cyfadran/Ysgol neu’r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr, efallai bydd yn rhaid i chi dynnu’n ôl, ac yn achos myfyrwyr Llwybr Myfyriwr noddedig (Haen 4 gynt) gall eich fisa gael ei chwtogi.
Os na allwch chi gynnig rhesymau boddhaol am eich diffyg cyfranogiad am 21 o ddiwrnodau yn ystod y cyfarfod gyda'ch Cyfadran/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyriwr, efallai y bydd angen i chi dynnu'n ôl ac, yn achos Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) a noddir, caiff eich fisa ei chwtogi.
Gwneir pob ymdrech i ystyried yr holl amgylchiadau esgusodol yn llawn wrth benderfynu a ddylid tynnu myfyriwr yn ôl o’r Brifysgol ac, yn achos myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn ystyried a yw’n addas parhau i noddi eich caniatâd i aros yn y DU.
Os caniateir i chi barhau, caiff cyfranogiad ei fonitro'n ofalus gan y Gyfadran/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr am 7 niwrnod.
Beth os ydw i'n cyrraedd yn hwyr?
Os ydych yn cyrraedd mwy na 15 munud ar ôl dechrau sesiwn wyneb yn wyneb, cofnodir eich bod yn hwyr. Os ydych yn ceisio sganio ar ôl diwedd sesiwn, ni chaiff eich presenoldeb ei gofnodi ar gyfer y sesiwn honno.
Disgwylir i fyfyrwyr ymuno â sesiynau dysgu rhithwir yn brydlon ar gyfer yr amser dechrau er mwyn elwa cymaint â phosib o'r sesiwn.
Beth os byddaf yn cyrraedd yn gynnar?
Caiff sweipio cardiau o sesiynau wyneb yn wyneb ei baru â'ch sesiwn am 15 munud cyn yr amser dechrau. Os byddwch chi'n sweipio'n gynt na hyn, ni chaiff eich sweip ei baru â'r sesiwn.
Disgwylir i fyfyrwyr ymuno â sesiynau dysgu rhithwir byw yn brydlon ar gyfer yr amser dechrau i elwa cymaint â phosib o'r sesiwn.
Beth os na allaf fynychu sesiynau dysgu wyneb-yn-wyneb?
Disgwylir i fyfyrwyr fynd i bob sesiwn ddysgu wyneb yn wyneb yn unol â'u hamserlen, oni bai eu bod yn cael eu hatal rhag gwneud hynny gan amgylchiadau fel hunan-ynysu neu salwch. Gallai Cyfadran/Ysgol gysylltu â myfyrwyr sydd â phatrwm o ddiffyg presenoldeb mewn sesiynau wyneb-yn-wyneb i ganfod y rhesymau dros beidio â bod yn bresennol. Bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cysylltu â myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) sydd yn y DU.
Beth os ydw i'n cael fy nhynnu'n ôl o'r Brifysgol oherwydd diffyg cyfranogiad?
Bydd eich Cyfadran/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost os ydych yn cael eich tynnu'n ôl o'r Brifysgol oherwydd diffyg cyfranogiad. Bydd gennych hawl i ofyn i’r penderfyniad hwn cael ei adolygu, gweler y Polisi Monitro Cyfranogiad i gael mwy o wybodaeth.
Rwy’n cael trafferth. I ble alla i fynd i gael help?
Rydym yn deall y bydd rhai myfyrwyr yn profi anawsterau sy'n effeithio ar eu presenoldeb o bryd i’w gilydd. Os ydych yn cael unrhyw anawsterau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, cysylltwch â'ch Mentor Academaidd, a fydd yn gallu eich cefnogi a'ch cynghori, neu eich cyfeirio at eraill a fydd yn gallu helpu. Gallwch hefyd ddewis ceisio cyngor a chymorth gan eich Swyddfa Coleg, MyUniHub neu Ganolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr.
Beth os ydw i ar raglen broffesiynol?
Mae gofynion proffesiynol ynghlwm wrth rai rhaglenni Meddygaeth a'r Gwyddorau Dynol ac Iechyd, sy'n golygu bod rhaid i chi fynd i bob sesiwn ddysgu. Yn achos y rhaglenni hyn, gallai'r broses ffurfiol ddechrau os ydych yn colli unrhyw sesiwn heb reswm. Bydd eich Coleg yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ofynion.
Sut byddwch yn cysylltu â mi?
Bydd y Brifysgol yn cysylltu â chi ynglŷn â'ch presenoldeb drwy anfon e-bost i'ch cyfrif myfyriwr. Defnyddir e-bost bron bob amser i gyfathrebu â myfyrwyr, felly mae'n bwysig darllen eich e-bost bob dydd. Dylech feddwl am ddarllen eich cyfrif e-bost myfyriwr bob dydd fel ymrwymiad proffesiynol.
A yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr rhyngwladol?
Mae angen i fyfyrwyr sy'n ddeiliaid fisa Haen 4/Llwybr Myfyrwyr ddangos lefelau uchel a chyson o gyfranogiad er mwyn cynnal eu statws fisa.
Bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cysylltu â myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) sydd heb gyfranogi mewn dysgu wyneb yn wyneb am 21 o ddiwrnodau'n barhaus a bydd yn rhaid i'r iddynt fynd i gyfarfod i drafod eu diffyg cyfranogiad
Mae’n ofynnol i’r Brifysgol roi gwybod am gyfnodau sylweddol o ddiffyg cyfranogiad i UKVI, a fydd yn ei dro’n cwtogi’r caniatâd i aros.
Rydym ni hefyd yn ymgymryd â Phwyntiau Gwirio Cyfranogiad Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) i adolygu cyfranogiad cyffredinol dros Floc Addysgu. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Tier4Attendance@abertawe.ac.uk
Beth os ydw i'n anghofio dod â'm cerdyn neu ei sganio?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod ag ef ac yn ei sganio yn y dyfodol. Ni fydd modd cofnodi eich presenoldeb ar ôl y sesiwn.
Allaf ofyn i’m Coleg gofnodi fy mhresenoldeb ar fy rhan os ydw i wedi anghofio fy ngherdyn?
Nid oes modd cofnodi’ch presenoldeb ar ôl y digwyddiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn sganio’ch cerdyn yn y sesiwn ddysgu gynlluniedig nesaf.
Beth os ydw i'n colli fy ngherdyn?
Rhowch wybod i'r Llyfrgell a gofynnwch am un newydd cyn gynted â phosib.
Beth os nad yw’r darllenydd cardiau yn gweithio?
Os nad yw’r darllenydd cardiau yn dangos eich enw ac/neu’n bipian pan yr ydych yn sweipio eich cerdyn, mae’n debygol bod yna broblem gyda’r darllenydd. Parhewch i sweipio eich cerdyn a chysylltwch â Swyddfa eich Cyfadran/Ysgol er mwyn adrodd am y diffyg.
Beth os na fyddaf yn gallu bod yn bresennol am reswm da?
Rydym yn deall y bydd rheswm da gan fyfyrwyr dros golli sesiynau dysgu ar adegau, ond os bydd hyn yn digwydd, mae'n rhaid i fyfyrwyr sicrhau eu bod yn dal i fyny gyda'u gwaith.Os oes angen i chi fod yn absennol am gyfnod estynedig - yn enwedig os bydd hyn yn dechrau'r broses absenoldeb a ddisgrifir uchod – cysylltwch â'ch Cyfadran/Ysgol cyn gynted â phosib. Fel rheol byddai absenoldeb dros 60 niwrnod yn golygu gohirio eich astudiaethau; mae'n anodd dal i fyny ar ôl absenoldeb hir, am unrhyw reswm. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa'ch Cyfadran/Ysgol.
Beth os byddaf yn defnyddio cerdyn rhywun arall?
Byddwch chi, (a pherchennog y cerdyn) yn euog o dorri Côd Ymddygiad y Brifysgol a byddwch yn wynebu camau disgyblu. Os ydych ar raglen broffesiynol, gallech wynebu ymchwiliad Addasrwydd i Ymarfer.
Beth os nad yw fy nghwrs yn cynnwys sesiynau dysgu ffurfiol?
Os ydych yn fyfyriwr ymchwil, yn fyfyriwr ôl-raddedig a addysgir sy'n gweithio ar eich traethawd hir, neu'n astudio rywle arall (dramor neu mewn diwydiant), caiff eich ymrwymiad i'ch dysgu ei fonitro drwy ffyrdd eraill. Mae’r polisi monitro presenoldeb ar gyfer myfyrwyr ymchwil ar gael yma.
Beth os byddaf angen rhagor o wybodaeth?
Os oes gennych gwestiynau, ewch i Swyddfa Wybodaeth eich Coleg neu HybMyfyrio.