Dyma ap FyAbertawe, y lle i fynd ar gyfer popeth sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe! Bydd gennyt ti fynediad at yr holl hanfodion ar gyfer bywyd fel myfyriwr, i gyd yn yr un lle. Os wyt ti am drefnu dy fywyd yn y brifysgol yn haws, neu os oes angen i ti gael mynediad hwylus at wybodaeth bwysig rhwng darlithoedd, dyma'r ap i ti! 

BETH YW FYABERTAWE?

Mae ap FyAbertawe yn fenter newydd sy'n dod â'r holl hanfodion ar gyfer bywyd fel myfyriwr ynghyd mewn un lle y mae'n hawdd ei gyrchu.

Mae FyAbertawe yn rhoi mynediad uniongyrchol at lawer o nodweddion y mae myfyrwyr yn eu defnyddio bob dydd, megis e-byst, amserlenni a Canvas. Mae'r nodweddion eraill yn cynnwys mapiau o'r campysau, amserlenni bysiau, ap Uni Food Hub, ap SafeZone a llawer mwy!

Felly dyma'r ateb perffaith i bob myfyriwr sydd am wneud bywyd prysur yn y brifysgol ychydig yn haws.

SUT MAE DECHRAU ARNI?

Mae ap FyAbertawe yn hawdd ei ddefnyddio! A wnei di lawrlwytho'r ap, gan ddefnyddio'r botwm priodol isod. Neu gelli di chwilio am ‘MySwansea’ yn dy siop apiau berthnasol. Ar ôl ei lawrlwytho, defnyddia fanylion mewngofnodi dy gyfrif yn y brifysgol er mwyn dechrau arni.

LAWRLWYTHA AP FYABERTAWE HEDDIW!

Gelli di hefyd ddefnyddio fersiwn we o'r ap yma. Fodd bynnag, rydyn ni'n argymell lawrlwytho ap FyAbertawe i gael y profiad cyfan!

CYMORTH A GWYBODAETH YCHWANEGOL

Os wyt ti'n cael trafferthion wrth lawrlwytho, cyrchu a/neu ddefnyddio'r ap, a wnei di sicrhau bod meddalwedd weithredu dy ddyfais symudol yn gyfredol a defnyddia fersiwn ddiweddaraf yr ap bob amser. A wnei di sicrhau dy fod ti'n mewnbynnu manylion mewngofnodi dy gyfrif yn y brifysgol yn gywir.

Os wyt ti'n dal i gael trafferthion, gelli di roi gwybod am y broblem drwy'r Ddesg Gymorth TG.