Strwythur Newydd y Brifysgol

Er mwyn gwella cysondeb ar draws y Brifysgol a sicrhau profiad cyfartal i fyfyrwyr, rydym yn newid strwythur ein Prifysgol. Bydd y strwythur newydd yn cynnwys tair Cyfadran newydd yn lle'r wyth Coleg presennol.

1. Y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd
2. Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
3. Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Sylwer na fydd strwythur Y Coleg, Prifysgol Abertawe'n newid.
Our priority is to ensure the continuity of your learning experience, so we will not be making large changes. Byddwn yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr, Cynrychiolwyr Myfyrwyr a staff i sicrhau bod eich adborth yn cael ei ddefnyddio i barhau i ddatblygu'r strwythurau sydd newydd eu creu, gan adeiladu ar y meysydd rhagoriaeth sydd eisoes ar waith ar draws y Brifysgol.

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar fyfyrwyr, ni fydd newidiadau mawr i'ch addysgu, eich dysgu nac i'ch asesu a bydd y newidiadau y byddwch yn sylwi arnynt yn cynnwys gwasanaethau gwell mewn perthynas â'ch profiad fel myfyrwyr.

Y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd

Bydd y Gyfadran yn cynnwys yr Ysgolion canlynol: 

  • Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Yr Ysgol Seicoleg
  • Ysgol Feddygol
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Y Coleg

Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Bydd eich pwnc academaidd yn cadw'r un hunaniaeth a byddwch yn astudio'r un rhaglen gyda'r un myfyrwyr. Bydd y strwythur newydd yn caniatáu rhagor o gyfleoedd ar gyfer cydweithio ar draws ein meysydd pwnc, gan wneud pethau'n gyson waeth ble rydych chi'n astudio.  Bydd y strwythurau newydd yn symleiddio'r ffordd rydym yn gweithio, gan ymgorffori gweithgareddau addysgol ac ymchwil ar draws disgyblaethau academaidd cysylltiedig, gan gynnig rhagor o gyfleoedd ar gyfer cydweithio.  Byddwn yn galluogi myfyrwyr a staff i gydweithio mewn ffyrdd newydd ar draws ein Cyfadrannau. 

Rydym yn gweithio tuag at adolygu polisïau a phrosesau fel eu bod yn gyson ar draws ein holl Gyfadrannau a bydd hyn yn arwain at brofiad mwy cyfartal i'n holl fyfyrwyr. Byddwn yn adeiladu ar arfer gorau o ledled y Brifysgol er mwyn darparu'r profiad gorau posib i fyfyrwyr.

Bydd y Cyfadrannau newydd yn fyw am y flwyddyn academaidd nesaf, fodd bynnag bydd llawer o'r newidiadau rydym yn eu gwneud y tu ôl i'r llenni. Ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr ni fyddwch yn sylwi ar newid ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, er ei bod yn bosib y byddwch yn clywed pobl yn cyfeirio at y Cyfadrannau newydd yn lle eich Coleg blaenorol.