Iechyd a Diogelwch ym Mhrifysgol Abertawe

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cymryd ymagwedd synhwyrol at reoli iechyd a diogelwch.

Dan arweiniad ein Polisi Iechyd a Diogelwch Cynhwysfawr, rydym wedi ymrwymo i sicrhau y caiff rheolaeth iechyd a diogelwch ei gwreiddio yn y ffordd rydym yn rheoli ein gweithrediadau busnes o ddydd i ddydd.

Mae ein tîm o weithwyr iechyd a diogelwch ymroddedig yn gweithio gyda staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol i wreiddio diwylliant iechyd a diogelwch a gwella ein prosesau a’n gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â diwylliant iechyd a diogelwch yn barhaus er mwyn sicrhau y gall ein myfyrwyr a'n staff ymgymryd â'u hymchwil, gweithio ac astudio'n ddiogel.