GWYBODAETH A CHANLLAWIAU DIOGELWCH I FYFYRWYR ISRADDEDIG

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cymryd ymagwedd synhwyrol at reoli iechyd a diogelwch. 

Dan arweiniad ein Polisi Iechyd a Diogelwch Cynhwysfawr, rydym wedi ymrwymo i sicrhau y caiff rheolaeth iechyd a diogelwch ei gwreiddio yn y ffordd rydym yn rheoli ein gweithrediadau busnes o ddydd i ddydd. Mae ein tîm o weithwyr iechyd a diogelwch ymroddedig yn gweithio gyda staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol i wreiddio diwylliant iechyd a diogelwch a gwella ein prosesau a’n gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â diwylliant iechyd a diogelwch yn barhaus er mwyn sicrhau y gall ein myfyrwyr a'n staff ymgymryd â'u hymchwil, gweithio ac astudio'n ddiogel.

Mae diogelwch ein staff, ein myfyrwyr a'n hymwelwyr yn bwysig iawn i ni. Os ydych chi wedi cael profiad o ddigwyddiad niweidiol, a fyddech gystal â rhoi gwybod amdano gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein syml isod.

Canllawiau Covid-19 Iechyd a Diogelwch

Eicon glas Covid-19

Cysylltu â'r tîm

Iechyd a Diogelwch

Prifysgol Abertawe

Campws Parc Singleton

E-bostio'r Tîm