MAE ADRODD AM DDIGWYDDIADAU NIWEIDIOL YN BWYSIG

Rhoi Gwybod am Ddigwyddiad Niweidiol

Mae'n bwysig iawn bod staff, myfyrwyr ac ymwelwyr â'n campysau yn adrodd am unrhyw ddigwyddiadau niweidiol, er mwyn i ni roi mesurau ar waith i’w hatal rhag digwydd eto.

Caiff digwyddiadau niweidiol eu diffinio fel:

  • Damwain: digwyddiad sy'n arwain at anafiadau, salwch neu niweidio'r amgylchedd;
  • Digwyddiad:
    • Digwyddiadau o drwch blewyn: digwyddiad nad yw'n achosi niwed, ond sydd â'r potensial i achosi anafiadau, salwch (gan gynnwys digwyddiadau peryglus) neu niweidio'r amgylchedd;
    • Amgylchiadau annymunol: set o amodau neu amgylchiadau sydd â'r potensial i achosi anafiadau neu salwch neu niwed i'r amgylchedd. Er enghraifft, technegwyr labordy anghymwys yn ymdrin â chemegion.
  • Digwyddiad peryglus: un o nifer o ddigwyddiadau niweidiol penodol y gellir rhoi gwybod amdanynt,  fel y'u diffinnir yn Rheoliadau Rhoi Gwybod am  Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 1995 (RIDDOR)

Os ydych chi wedi profi digwyddiad niweidiol, cwblhewch y ffurflen isod.

Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â'n tîm iechyd a diogelwch pwrpasol.

Section A - About the adverse event
Section B - Who was involved in the adverse event
Status:
Has the adverse event resulted in an absence from work?
Reported By