CYRSIAU SY’N GYSYLLTIEDIG AG IECHYD A DIOGELWCH A CHYNALIADWYEDD

Mae ein timoedd Iechyd a Diogelwch a Chynaliadwyedd yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddiant i staff a myfyrwyr ôl-raddedig. Gan ddibynnu ar eich rôl, efallai y bydd sawl cwrs hyfforddiant ar gael i’ch helpu yn eich swydd neu fel datblygiad proffesiynol parhaus i chi.

Cymerwch gipolwg ar yr amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant sydd ar gael i chi isod.

Gall staff gadw lle ar gyrsiau ar ABW, a gall myfyrwyr ôl-raddedig e-bostio’r tîm i gadw lle.

Defnyddiwch yr ehangydd i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dyddiadau cyrsiau, hyd a lleoliad.