Ar hyn o bryd rydym ni’n adolygu gweithdrefnau monitro presenoldeb ar gyfer blwyddyn academaidd 20/21 yn sgil yr amgylchiadau newidiol ynghylch pandemig Covid-19. Byddwn ni’n diweddaru’r wybodaeth ar y dudalen hon unwaith y caiff y gweithdrefnau newydd eu cadarnhau.

Cyrsiau Addysgu Dwys

  • Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr lynu wrth y Polisi ar Fonitro Myfyrwyr a Addysgir.
  • Yn achos rhaglenni a addysgir yn ddwys dros gyfnodau o wythnos/pythefnos, bydd y broses monitro presenoldeb yn seiliedig ar gyfnodau o 2 ddiwrnod  bob wythnos pan fydd sesiynau dysgu cynlluniedig wedi'u hamserlennu. Bydd y Coleg yn darparu manylion am ddyddiadau'r cyfnodau hyn i'r myfyrwyr ar ddechrau’r  cwrs. Bydd myfyrwyr sy'n absennol yn ystod cyfnod 2 ddiwrnod yn destun proses uwchgyfeirio.
  • Sylwer bod gan rai rhaglenni ofynion presenoldeb uwch oherwydd achrediad proffesiynol.