Ar hyn o bryd rydym ni’n adolygu gweithdrefnau monitro presenoldeb ar gyfer blwyddyn academaidd 20/21 yn sgil yr amgylchiadau newidiol ynghylch pandemig Covid-19. Byddwn ni’n diweddaru’r wybodaeth ar y dudalen hon unwaith y caiff y gweithdrefnau newydd eu cadarnhau.

Lleoliadau Gwaith, Astudio Dramor a Rhaglenni Cydweithiol

  • Os yw myfyrwyr yn astudio y tu allan i gampysau Prifysgol Abertawe, gan gynnwys lleoliadau astudio dramor a gwaith, neu ar raglenni cydweithredol mewn sefydliad arall, bydd yn ofynnol iddyn nhw hefyd lynu wrth y Polisi ar Fonitro Presenoldeb Myfyrwyr a Addysgir ac, yn achos myfyrwyr Haen 4, y Polisi ar Fonitro Presenoldeb Myfyrwyr Haen 4 a Noddir.
  • Caiff y myfyrwyr hyn eu monitro bob mis gan eu Coleg.Cyfrifoldeb y myfyriwr fydd cysylltu â'r Coleg. Bydd Colegau'n gyfrifol am hysbysu myfyrwyr am y gofyniad hwn ac am y broses ar gyfer cysylltu.

Bydd yn ofynnol i'r myfyriwr gysylltu â'i Coleg unwaith y mis i gadarnhau ei fod yn parhau i gyfranogi yn ei raglen.

ColegE-bost
Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau  COAHAttendanceMonitoring@swansea.ac.uk
Y Coleg Perianneg engoffice@swansea.ac.uk
Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd MyCHHSPlacements@swansea.ac.uk
Ysgol y Gyfraith HRC law@swansea.ac.uk
Yr Ysgol Reolaeth SOMPlacements@swansea.ac.uk
Yr Ysgol Feddygaeth MedEducation.Unit@swansea.ac.uk
Y Coleg Gwyddoniaeth s.j.toomey@swansea.ac.uk
  • Mae myfyrwyr Haen 4 sydd ar leoliad gwaith neu'n astudio dramor yn destun y gofynion ychwanegol a nodir ym mharagraff 3.2 y Polisi ar Fonitro Presenoldeb Myfyrwyr Haen 4 a Noddir.
  • Bydd myfyrwyr sy'n methu cydymffurfio â gofynion eu rhaglen neu sydd â phresenoldeb anfoddhaol yn cael eu hystyried gan y Coleg, a bydd camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd.

Am rhagor o wybodaeth yngylch lleoliadau heb chredyd cysylltwch â; EmploymentZone@swansea.ac.uk