Rydym ni'n monitro canllawiau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth y DU yn ofalus mewn perthynas ag ymlediad y coronafeirws ac efallai y byddwn yn addasu'r gweithdrefnau monitro cyfranogiad hyn yn ystod y flwyddyn academaidd wrth i amgylchiadau a pholisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol newid. Argymhellwn i chi wirio'r tudalennau hyn yn rheolaidd i ddilyn y diweddaraf. Byddwn hefyd yn diweddaru myfyrwyr am newidiadau drwy-e-bost. 

Canllaw Cyflym i Fonitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil

Dyma ganllaw i fonitro cyfranogiad myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn ystod cyfnod ymchwil eu rhaglen.