Sut i wneud cais am drawsgrifiad academaidd

Myfyrwyr presennol

  • I lawrlwytho copi o’ch trawsgrifiad academaidd (rhad ac am ddim)
    • Mewngofnodwch i’r fewnrwyd
    • Dewiswch fanylion y cwrs o’r ddewislen ar yr ochr chwith
    • Ewch i’r ochr dde a byddwch yn gweld ‘Trawsgrifiad.’ Cliciwch arno a gallwch lawrlwytho PDF o’ch trawsgrifiad.
  • Os oes angen trawsgrifiad ar bapur sydd â phennawd swyddogol arno arnoch, sydd wedi’i lofnodi ag sydd â stamp ‘gwlyb,’ bydd angen i chi wneud cais amdano o MyUniHub. Codir £10 amdano a £5 am bob copi ychwanegol a archebir ar yr un pryd. Sylwer y bydd yn cymryd 2/3 diwrnod gwaith i’w gynhyrchu.

Cyn-fyfyrwyr

  • Efallai y byddwn yn gallu adfer eich cofnod a chreu trawsgrifiad ar eich cyfer – mae’n dibynnu pa mor hir yn ôl yr oeddech yn astudio yn Abertawe. Codir £10 am y copi cyntaf a £5 am bob copi ychwanegol a archebir ar yr un pryd o MyUniHub.
  • Mewn rhai amgylchiadau, nid ydym yn gallu cynhyrchu trawsgrifiad yn awtomatig, ac felly bydd angen cynhyrchu un â llaw. Fel arfer bydd yn cymryd o leiaf bythefnos i gynhyrchu trawsgrifiad â llaw. Codir £25 am y copi cyntaf a £5 am bob copi ychwanegol a archebir ar yr un pryd o MyUniHub. Bydd cais pellach yn cyfrif fel archeb newydd a chodir £10 am y trawsgrifiad cyntaf gan fod y gwaith paratoi eisoes wedi'i wneud. 
  • Efallai na fydd yn bosibl cyflawni cais os nad yw’r wybodaeth bellach ar gael mewn rhai amgylchiadau. Mewn achosion o’r fath, caiff yr holl arian a dalwyd ei ad-dalu i chi.

Post a olrheinir

Os hoffech i ni anfon unrhyw ddogfennau’r Brifysgol atoch chi neu drydydd parti, byddwn fel arfer yn gwneud hynny drwy bost safonol/post awyr heb godi tâl ychwanegol. Os ydym yn anfon dogfennau’n rhyngwladol a hoffech eu cael nhw drwy wasanaeth a olrheinir, gallwn wneud hynny am £25 bob pecyn. Cysylltwch â MyUniHub

Sylwer nad ydym yn gallu anfon dogfennau at gyfeiriad PO Box drwy’r gwasanaeth hwn.