Gall MyUniHub roi tystiolaeth o’ch statws myfyriwr i gyflwyno cais i gael eich eithrio o Dreth y Cyngor. Sylwer, os gwelwch yn dda, nad oes angen Tystysgrif Treth y Cyngor ar fyfyrwyr sy'n byw yn llety'r Brifysgol.
Os oes angen Tystysgrif Treth y Cyngor arnoch, gallwch gael copi digidol o'ch cyfrif Gradintel.Os oes angen, gallwn ddarparu copi papur y gellir ei gasglu neu ei bostio atoch. Os ydych yn ei chasglu wyneb yn wyneb, bydd angen i chi gyflwyno dogfen adnabod (e.e. cerdyn myfyriwr).

  • Sylwer, rhaid i chi fod wedi cofrestru ar eich cwrs cyn cyflwyno cais am lythyr Treth y Cyngor.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n diweddaru eich cyfeiriad yn ystod y tymor cyn cyflwyno cais am ddatganiad prawf cofrestru drwy Gradintel neu drwy dîm MyUniHub. (d.s. Ceir ychydig o oedi rhwng diweddaru eich cyfeiriad ar eich cyfrif a'r diweddariad yn ymddangos ar eich llythyr yn Gradintel)

Anfonir rhestr o holl fyfyrwyr cofrestredig amser llawn Prifysgol Abertawe i Gyngor Dinas a Sir Abertawe yn rheolaidd, os bydd eu cyfeiriad tymor yn ardal Dinas a Sir Abertawe.

Fodd bynnag, bydd angen i chi ofyn am dystysgrif Treth y Cyngor gan MyUniHub yn yr achosion hyn:

  • Nid ydych yn byw yn ardal Abertawe (d.s. nodwch os bydd eich cyngor lleol yn gofyn am fanylion penodol a nodir yn y llythyron rydym yn eu darparu. Nid ydym bob amser yn gallu bodloni'r ceisiadau hyn).
  • Gallai fod angen tystiolaeth o'ch statws fel myfyriwr ar eich rhieni

Sylwer mai’r awdurdod lleol perthnasol sydd â’r gair olaf o ran y penderfyniad terfynol ar gyfer cael eich eithrio o Dreth y Cyngor. Ewch i dudalennau Cyngor Abertawe yma.

Mae 'Treth y Cyngor' yn dreth ar y cartref. Pennir swm y dreth gan gynghorau lleol, sy'n defnyddio'r arian ar gyfer y gwasanaethau y maent yn eu darparu. Ni chaiff pobl eu heithrio o'r dreth ond caiff rhai adeiladau eu heithrio. Mae hynny'n golygu na chaiff myfyrwyr eu heithrio, ond caiff llety lle nad oes neb ond myfyrwyr llawn amser yn byw ei eithrio. Yn achos llety lle mae rhai o'r preswylwyr yn fyfyrwyr ac eraill nad ydynt yn fyfyrwyr, ni chaiff y llety ei eithrio, ond mae'n bosibl y bydd lefel y dreth yn is, gan ddibynnu ar nifer yr oedolion sy'n byw yn y llety a sawl un sy’n fyfyriwr amser llawn.