Mae’r gweithdrefnau hyn ar gael i ymgeiswyr sydd wedi'u cofrestru yn y Brifysgol, gan gynnwys y rhai sy'n astudio neu’n byw dramor, y rhai sydd ar leoliad neu gyfnod dysgu yn y gweithle, ac ymgeiswyr sydd wedi gohirio eu hastudiaethau dros dro.
Mae'r gweithdrefnau hyn yn berthnasol hefyd i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sydd wedi tynnu'n ôl o'u rhaglen, neu sydd wedi cwblhau eu rhaglen, ar yr amod bod yr apêl yn cael ei chyflwyno o fewn 3 mis ar ôl derbyn penderfyniad y Bwrdd Arholiadau.
Mae’r gweithdrefnau apelio hyn yn berthnasol i ymgeiswyr sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Fwrdd Arholi yn y sefyllfaoedd canlynol:
- Ymgeiswyr sy’n cael eu rhwystro rhag parhau â’u hastudiaethau ar ganol lefel astudio neu ran o raglen.
- Ymgeiswyr sy’n methu cymhwyso i symud ymlaen i gam nesaf eu rhaglen ar ddiwedd lefel, ar ddiwedd rhan neu ar ddiwedd blwyddyn.
- Lle gallai goblygiadau’r penderfyniad ynghylch dilyniant a wnaed gan y Bwrdd Arholi gael effaith sylweddol ar ganlyniad cyffredinol y myfyriwr (e.e. capio marciau).
- Ymgeiswyr sydd wedi cwblhau eu rhaglen ond sy’n dymuno apelio yn erbyn y canlyniad, neu ymgeiswyr sy’n anfodlon ar ddyfarniad cymhwyster ymadael y Brifysgol.
2.1
Seiliau ar gyfer Apêl
2.2
Mae arholwyr yn defnyddio cyfuniad o brofiad a gwybodaeth am y myfyriwr, perfformiad y myfyriwr ac a yw wedi cyrraedd y safon academaidd ofynnol, ac ymwybyddiaeth o arfer gorau mewn addysg uwch i lunio barn academaidd ar allu myfyriwr. Barn academaidd yw penderfyniad y staff academaidd ar ansawdd gwaith academaidd neu'r meini prawf a ddefnyddir i farcio gwaith (yn hytrach na'r broses farcio weinyddol). Ni fydd apeliadau academaidd sy'n herio'r farn academaidd hon yn cael eu hystyried.
2.3
Ni fydd apeliadau yn erbyn penderfyniadau gan Bwyllgor Amgylchiadau Arbennig Cyfadrannau/Ysgolion (neu Bwyllgor priodol), neu Fwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd y Brifysgol (neu ei enwebai), mewn perthynas ag amgylchiadau esgusodol fel arfer yn cael eu hystyried.
2.4
Ni fydd y Brifysgol ond yn ystyried apeliadau academaidd sy'n seiliedig ar un neu fwy o’r seiliau canlynol:
2.4.1
Ni wnaeth y Bwrdd Arholi ystyried yr holl waith a oedd i’w gyflwyno, ac a gyflwynwyd yn gywir, i’w asesu.
2.4.2
Cafwyd tystiolaeth o wall cyfrifo neu wall gweinyddol wrth wneud y penderfyniad diwedd lefel/rhan.
2.4.3
Cafwyd tystiolaeth o ragfarn neu dueddfryd neu asesu annigonol, heb fod o natur academaidd, gan un neu fwy o’r arholwyr.
2.4.4
Cafwyd diffygion neu anghysondebau yn y modd y cynhaliwyd yr arholiad neu mewn cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu gyngor yn eu cylch sydd, oherwydd eu natur, yn peri amheuaeth resymol ynghylch a fyddai’r arholwyr wedi dod i’r un penderfyniad pe na baent wedi digwydd. Rhaid i ymgeiswyr ddarparu rheswm cymhellol dros beidio â thynnu sylw'r Gyfadran/Ysgol at y diffygion neu'r anghysondebau ar y pryd.
2.4.5
Roedd yr arholwyr yn ymwybodol o ddiffygion neu anghysondebau yn y modd y cynhaliwyd yr arholiad neu mewn cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu mewn cyngor yn eu cylch, lle gallai'r diffygion neu'r anghysondebau, ym marn yr ymgeisydd, fod wedi cael effaith niweidiol ar ei berfformiad ond ni wnaeth yr arholwyr roi ystyriaeth lawn i'r diffygion neu'r anghysondebau hyn.
2.4.6
Amgylchiadau esgusodol (yn unol â'r diffiniad yn y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu) nad oedd yr Arholwyr yn ymwybodol ohonynt ac a effeithiodd yn niweidiol ar berfformiad academaidd yr ymgeisydd. Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddarparu esboniad, ynghyd â thystiolaeth ategol i ddangos:
- Roedd yr ymgeisydd dan amgylchiadau esgusodol ar adeg yr asesiad(au) yr effeithiwyd arnynt; a
- Chafodd yr amgylchiadau esgusodol effaith andwyol ar berfformiad academaidd yr ymgeisydd yn yr asesiad yr effeithiwyd arno; ac
- Mae'r ymgeisydd:
a) wedi methu â phenderfynu a oedd yn addas i gynnal yr asesiad ai peidio; a/neu
b) roedd â rheswm da dros beidio â hysbysu'r Gyfadran/Ysgol o'i amgylchiadau ar yr adeg berthnasol (gweler Adrannau 2.5 a 2.6).
2.5
Yn unol â rheoliadau'r Brifysgol, disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno cais i'w Cyfadran/Hysgol, ynghyd â thystiolaeth o unrhyw amgylchiadau personol a allai fod wedi cael effaith niweidiol ar eu hastudiaethau, yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu. Rhaid i gais o'r fath gael ei gyflwyno yn unol â pholisi'r Gyfadran/Ysgol ac erbyn y dyddiad cau a nodwyd gan y Gyfadran/yr Ysgol. Fel arfer, ni fydd apêl academaidd sy'n seiliedig ar "amgylchiadau esgusodol newydd", nad yw wedi cael ei chyflwyno i'r Gyfadran/ Ysgol yn unol â pholisi'r Gyfadran/yr Ysgol wrth gyflwyno ac erbyn y dyddiad cau a nodwyd gan y Gyfadran/yr Ysgol yn cael ei hystyried.
Disgwylir i ymgeiswyr sy'n astudio ar y rhaglenni canlynol gyflwyno ceisiadau amgylchiadau esgusodol i'w Cyfadran/Hysgol, yn unol â'r gweithdrefnau a'r terfynau amser a nodir yn llawlyfr eu Cyfadran/Hysgol; rhoddir blaenoriaeth i'r rhain dros Bolisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu ar gyfer y rhaglenni hyn:
- MBBCh Meddygaeth;
- Cwrs Ymarfer y Gyfraith;
- LLM - Rhaglen Meistr a Addysgir Hyblyg
Yn achos myfyrwyr ymchwil, disgwylir i ymgeiswyr hysbysu eu goruchwylwyr am amgylchiadau a allai effeithio ar eu hastudiaethau wrth iddynt godi er mwyn iddynt gael eu hystyried yn briodol a/neu er mwyn cymryd camau priodol. Lle bydd arholiad llafar (ymchwil) gan yr ymgeisydd, disgwylir i'r ymgeisydd hysbysu'r Bwrdd Arholi am unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar ei arholiad. Ni fydd apeliadau academaidd sy’n seiliedig ar amgylchiadau esgusodol y gellid bod wedi tynnu sylw’r Bwrdd Arholi atynt cyn yr arholiad llafar yn cael eu hystyried.
2.6
Rhagdybir na fyddai'r ymgeisydd wedi gallu penderfynu a oedd yn ddigon iach i ymgymryd â'r asesiad a/neu fod rheswm da dros beidio â hysbysu’r Gyfadran/Ysgol o’r sefyllfa ar yr adeg berthnasol lle bo ymgeisydd yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig briodol sy’n dangos:
(a) Bod unrhyw un o'r amgylchiadau esgusodol canlynol wedi effeithio arno:
- Iselder ysbryd difrifol;
- Problemau iechyd meddwl difrifol;
- Cyfnod fel claf mewn lleoliad seiciatrig;
- Marwolaeth perthynas agos (diffinnir hyn fel rhiant/prif ofalwr yr ymgeisydd, chwaer neu frawd/partner/priod, mab neu ferch);
- Ymosodiad rhywiol difrifol.
(b) Nad oedd yr amgylchiadau uchod wedi digwydd ynghynt na mis calendr cyn y dyddiad cyflwyno/arholi'r asesiad dan sylw.
Nid yw'r uchod yn rhwystro ymgeisydd rhag cyflwyno apêl sy'n seiliedig ar unrhyw fath o amgylchiadau esgusodol a gododd ynghynt na mis cyn dyddiad cyflwyno/arholi'r asesiad dan sylw ar yr amod y bodlonir y meini prawf yn Adran 2.4.6.
2.7
Fel arfer, ni chaiff ymgeiswyr y caniatawyd arholiadau atodol iddynt gyflwyno apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw.