Rydym yn deall y bydd myfyrwyr yn pryderu am sut y gallai gweithredu diwydiannol effeithio ar eich astudiaethau. Byddwn yn ceisio lleihau unrhyw effaith bosibl ar y gweithredudiwydiannol ar fyfyrwyr a'ch dilyniant.
Er y gall streicio ar ddiwrnodau penodol arwain at ganslo darlithoedd penodol a gweithgareddau addysgu eraill, byddwn yn ymdrechu i sicrhau eich bod yn cael y cyfle i ddal i fyny â'ch dysgu, neu, mewn ychydig iawn o achosion, bod asesiadau'n cael eu haddasu i ystyried y gwaith a gollwyd. Felly, byddwn yn ymdrechu i sicrhau y gallwch gwblhau'r deilliannau dysgu a'r asesiad ar gyfer eich rhaglen.
Mae ffioedd dysgu hefyd yn cyfrannu at lawer o feysydd eraill o'ch profiad yn y Brifysgol, ochr yn ochr â dysgu ac addysgu, megis cyfleusterau, gwasanaethau, gan gynnwys y Llyfrgell, ystâd y Brifysgol, a darpariaeth fugeiliol ac allgyrsiol.
Yn unol â Phrifysgolion eraill ledled y DU, ni fyddwn felly'n ad-dalu ffioedd dysgu.