Mae llawer o wasanaethau lles ar gael i ti ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym am dy gefnogi wrth i ti fanteisio i’r eithaf ar dy astudiaethau a dy fywyd personol, pan fyddi di yma ac ar ôl i ti raddio.

Os oes gennyt ti broblemau, mae'n bwysig i ti wybod bod llawer o opsiynau ar gael i ti. Nod y Gwasanaeth Lles ac Anabledd yw dy gefnogi di drwy roi’r adnoddau a’r sgiliau i ti wella dy iechyd meddwl a dy les, a dy helpu i geisio cymorth pan fydd ei angen arnat.

Rydym ni'n cynnig adnoddau, strategaethau hunangymorth, gwasanaethau ar-lein, sesiynau cymorth a chwnsela er mwyn dy helpu i reoli dy les.