Rydym yn gweithio'n agos gyda nifer o wasanaethau eraill ar draws y brifysgol i sicrhau bod myfyrwyr yn cael ystod o gyfleoedd, i wneud yn fawr o'u dysgu a'u profiadau yn Abertawe:

  • Mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau astudio academaidd er mwyn cyflawni eu nodau.  Mae llu o gyrsiau, gweithdai a thiwtorialau un i un ar gynnig i holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.

  • Mae Llyfrgelloedd ac Archifau Prifysgol Abertawe yn darparu gwasanaethau gwybodaeth o ansawdd uchel i staff a myfyrwyr, yn ogystal ag i'r cyhoedd, ac rydym yn datblygu'r gwasanaethau hyn yn gyson i gefnogi gweithgareddau dysgu, addysgu, ymchwil a chorfforaethol y Brifysgol. Mae'r Gwasanaethau llyfrgell cynhwysol wedi datblygu i ddiwallu anghenion amrywiol myfyrwyr y brifysgol. Mae llu o offer a gwasanaethau hygyrch ar gael i fyfyrwyr y mae angen cymorth ychwanegol arnynt.

  • Mae Prifysgol Abertawe wedi buddsoddi mewn Technoleg Gynorthwyol sy'n gallu helpu myfyrwyr i fod yn fwy cynhyrchiol yn eu hastudiaethau. Yn hanesyddol, mae technoleg gynorthwyol wedi canolbwyntio ar helpu myfyrwyr ag anableddau, ond mae'r cynhyrchion hyn yn cynnwys nifer o nodweddion a fydd o gymorth i'r holl fyfyrwyr.

  • Mae Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe yn wasanaeth trawsgrifio arbenigol sy'n darparu adnoddau dysgu hygyrch i fyfyrwyr ag anawsterau darllen print.

  • Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig ystod o opsiynau llety gwahanol i fyfyrwyr ar draws y campysau. Mae'r Tîm Gwasanaethau Preswyl ar gael i gynorthwyo gydag ymholiadau llety.Gofynnir i ymgeiswyr ag anghenion llety penodol gyflwyno cais cyn gynted â phosib ac ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud ag anabledd, dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Anableddau.

  • Mae Canolfan Iechyd y Brifysgol yn Ganolfan Feddygol Gyffredinol y GIG sydd wedi’i lleoli ar gampws y Brifysgol ac sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyfeillgar a chynhwysfawr gan ganolbwyntio ar anghenion myfyrwyr.

  • Mae'r Academi Iechyd a Lles (prosiect ar y cyd rhwng Ysgol Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe a Chydweithfa Iechyd Ranbarthol) yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau fforddiadwy a hyblyg i gefnogi cymunedau de-orllewin Cymru.

  • Mae Parcio yn y Brifysgol yn gyfyngedig ac yn gweithredu ar system hawlenni i staff yn unig. Rydym yn annog dulliau amgen o deithio e.e. cludiant cyhoeddus, cerdded, beicio pan fydd y rhain yn opsiynau addas.