Gwasanaeth Galw Iechyd Cymru 111

FFONIWCH 111 OS OES ANGEN Y CANLYNOL ARNOCH:

  • Cymorth meddygol brys, ond nid yw’n argyfwng 999
  • Rydych chi'n meddwl bod angen i chi fynd i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys neu mae angen gwasanaeth gofal brys arall y GIG arnoch
  • Nid ydych chi’n gwybod pwy i'w ffonio neu nid oes gennych feddyg teulu y gallwch ei ffonio
  • Mae angen gwybodaeth iechyd neu sicrwydd am yr hyn i'w wneud nesaf

 

Gall ymgynghorwyr 111:

  • Roi cyngor meddygol
  • Eich cysylltu â meddyg teulu lleol sy'n darparu gwasanaeth y tu allan i oriau
  • Eich cyfeirio at ddeintydd brys
  • Eich cysylltu â gwasanaethau cymorth iechyd meddwl
  • Eich cyfeirio at adran damweiniau ac achosion brys – gallant hyd yn oed alw am ambiwlans ar eich rhan