Cymorth
Os oes gennyt ti anabledd tymor hir a/neu Anhawster Dysgu Penodol ac rwyt ti'n credu bod angen cymorth gan y Gwasanaeth Anabledd arnat, dylet ti gwblhau Holiadur Cymorth Myfyrwyr.
Ar ôl adolygu dy ffurflen, byddwn ni'n cysylltu â thi er mwyn rhoi gwybod am y camau nesaf.
Ymholiadau
Os oes ymholiad cyffredinol gennyt, gelli di anfon e-bost atom yn anabledd@abertawe.ac.uk.
Mae gennym wasanaeth sgwrs ar-lein hefyd ar ddydd Mercher rhwng 1pm a 3pm.
Wrth inni barhau i weithio gartref, ni chaiff ein llinell ffôn ei monitro.