Mwy o Wybodaeth, Cymorth ac Arweiniad i Fyfyrwyr y mae’r Boicot Marcio ac Asesu wedi Effeithio Arnynt

Bydd nifer bach o'n myfyrwyr wedi derbyn penderfyniadau ar ddyfarniadau a dilyniant y mae’r Boicot Marcio ac Asesu wedi effeithio arnynt, yn anffodus. Mae'r Brifysgol wedi cyflwyno set o Reoliadau Asesu Eithriadol i sicrhau bod safonau academaidd yn cael eu cynnal a bod cyn lleied o effaith â phosib ar fyfyrwyr. Rydym yn gwybod bod hon yn sefyllfa anodd sy'n peri gofid i'n myfyrwyr, ac roeddem am roi mwy o gyngor, cyd-destun a chymorth am oblygiadau’r penderfyniadau hyn, beth yw'r camau nesaf, a sut gall y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr eich helpu chi.

Mae'r dolenni isod yn esbonio'n fanylach beth yw ystyr pob penderfyniad ar y cam hwn.

Os ydych wedi derbyn:

Dilyniant Israddedig

Mae'r holl benderfyniadau uchod yn golygu bod rhai o'ch marciau ar goll o'ch proffil*. Mae nifer y marciau sydd ar goll a/neu'r ffaith bod eich rhaglen wedi'i hachredu gan gorff proffesiynol yn golygu, gwaetha'r modd, nad ydym wedi gallu cynnig dosbarthiad neu ganlyniad y dyfarniad i rai myfyrwyr ar y cam hwn.

*Mae marciau sy'n nodi FV/PV yn cynnwys marciau sydd ar goll a ddisodlwyd gan farc deilliadol ar yr adeg hon.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd penderfyniad ar eich dyfarniad terfynol neu eich dilyniant yn cael ei gadarnhau unwaith byddwn wedi derbyn eich holl farciau a bydd y rhain wedi'u hystyried a'u cadarnhau mewn bwrdd dyfarnu. Oherwydd natur barhaus y boicot, mae'n anodd rhoi union amserlen ar gyfer cadarnhau dyfarniadau a dilyniant, ond byddwn yn gwneud ein gorau i gadarnhau penderfyniadau ar ddyfarniadau a dilyniant i fyfyrwyr cyn gynted â phosib.