Bydd nifer fach o'n myfyrwyr wedi derbyn penderfyniadau am ddyfarniad y mae’r Boicot Marcio ac Asesu wedi effeithio arnynt yn anffodus. Mae'r Brifysgol wedi cyflwyno set o Reoliadau Asesu Eithriadol i sicrhau bod safonau academaidd yn cael eu cynnal a bod yr effaith ar fyfyrwyr cyn lleied â phosib. I'r myfyrwyr hynny mae hyn  wedi effeithio arnynt, bydd eich Cyfadran wedi cysylltu â chi ynghylch yr effaith. Rydym yn gwybod bod hon yn sefyllfa anodd sy'n peri gofid i'n myfyrwyr, ac roeddem am roi mwy o gyngor, cyd-destun a chymorth am oblygiadau’r penderfyniadau hyn, beth yw'r camau nesaf, a sut gall y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr eich helpu chi.

Mae'r categorïau isod yn esbonio'n fanylach beth yw ystyr pob penderfyniad ar y cam hwn.

Os ydych wedi derbyn;

Dyfarniadau Israddedig

Dyfarniadau Ôl-raddedig a Addysgir

Ymchwil Ôl-Raddedig

Mae'r holl benderfyniadau uchod yn golygu bod rhai o'ch marciau ar goll o'ch proffil*, nifer y marciau sydd ar goll a/neu oherwydd bod eich rhaglen wedi'i hachredu gan gorff proffesiynol, sy'n golygu i rai myfyrwyr, nid ydym wedi gallu cynnig dosbarthiad neu ganlyniad y dyfarniad ar y cam hwn.

*Mae marciau sy'n nodi FV/PV yn cynnwys marciau sydd ar goll a ddisodlwyd gan farc deilliadol ar yr adeg hon.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd penderfyniad eich dyfarniad terfynol yn cael ei gadarnhau unwaith byddwn wedi derbyn eich holl farciau a bydd y rhain wedi'u hystyried a'u cadarnhau mewn bwrdd dyfarnu. Oherwydd natur barhaus y boicot, mae'n anodd rhoi union amserlen ar gyfer cadarnhau dyfarniadau, ond byddwn yn gwneud ein gorau i gadarnhau dyfarniadau i fyfyrwyr cyn gynted â phosib.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin. Dylech gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon yn student-ia@abertawe.ac.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu chi.

Mae'r Brifysgol yn gwerthfawrogi ei bod hi'n sefyllfa anodd sy'n peri gofid i chi, ond hoffwn achub ar y cyfle hwn i'ch llongyfarch ar gwblhau eich rhaglen astudio a'ch canmol am eich gwaith caled a'ch ymrwymiad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Gallwn dawelu eich meddwl ein bod yn gweithio i'ch cefnogi gan sicrhau bod canlyniad eich dyfarniad wedi'i gadarnhau yn llawn cyn gynted â phosib.

Byddwn yn parhau i gyfathrebu â chi drwy eich cyfeiriadau e-bost myfyrwyr a fydd yn dal i fod yn hygyrch i fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf.