Mae gwneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i fod yn llwyddiannus ym Mhrifysgol Abertawe'n bwysig i ni. Yn ogystal â chyfathrebu electronig swyddogol drwy e-bost, mae gennym amrywiaeth o sianelau gwybodaeth i fyfyrwyr i sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf.

Cofiwch wirio eich cyfrif e-bost Outlook yn y Brifysgol yn rheolaidd i sicrhau na fyddwch yn colli unrhyw wybodaeth bwysig gan y Brifysgol!

Dyma sut rydym yn anfon y newyddion diweddaraf gan y Brifysgol, deunyddiau allweddol y bydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt, a dyma lle byddwch yn derbyn gwybodaeth gan eich Cyfadran a'r staff yn eich Ysgol.

Cylchlythyr Wythnosol i Fyfyrwyr

Laptop with a student newsletter email open on the screen

Rydym yn e-bostio cylchlythyr wythnosol o newyddion a digwyddiadau atoch gyda gwybodaeth o bob rhan o’r Brifysgol. Mae'r cylchlythyr yn cynnwys erthyglau ar agweddau amrywiol bywyd myfyrwyr, megis y newyddion diweddaraf am ddysgu ac addysgu yn y Brifysgol, sgiliau astudio, cyflogadwyedd, lles ac arian.

Darllen rhifynnau blaenorol yma

Blog Newyddion a Chalendr Digwyddiadau

Computer keyboard with the word blog on one of the keys

Os nad ydych am aros am e-bost wythnosol, gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan Cylchlythyr Myfyrwyr. Yn ogystal ag archif o hysbysiadau a diweddariadau i fyfyrwyr, gallwch hefyd weld y digwyddiadau diweddaraf wedi'u rhestru yma!

Cyfryngau Cymdeithasol Swyddogol

Social media icons being projected from mobile phone

Mae gennym nifer o sianelau cyfryngau cymdeithasol lle rydym yn postio gwybodaeth reolaidd am eitemau megis digwyddiadau, gyrfaoedd, cyngor ar deithio a gwasanaethau'r Brifysgol. Dilynwch ni a chadw ar flaen y gad gyda'r wybodaeth ddiweddaraf!

Ap FyAbertawe

Mobile phone displaying the app with the Bay Campus in the background

Mae FyAbertawe'n rhoi mynediad ar unwaith at lawer o bethau y mae myfyrwyr yn eu defnyddio'n ddyddiol, megis e-byst, amserlenni a Canvas. Byddwn hefyd yn anfon hysbysiadau brys a swyddogol drwy'r ap, megis pan fydd adeiladau ar gau neu hysbysiadau am iechyd a diogelwch.

Canvas

Student wearing headphones using a laptop

Canvas yw platfform dysgu ar-lein y Brifysgol ac mae'n cynnwys gwybodaeth am eich cwrs, cynnwys eich modiwl, cysylltiadau allweddol a diweddariadau gan eich Cyfadran a’ch Ysgol.

MyUni

Open laptop with the MyUni website displayed on screen

MyUni yw'r wefan ar gyfer myfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe. Gallwch gael mynediad at eich cyfrif, apiau, sgwrs fyw a'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gwblhau eich astudiaethau. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am asesiadau, gwasanaethau'r campws, cysylltiadau’r Cyfadrannau, rheoliadau a llawer mwy.

Eich Cyfrifoldebau

Wrth i chi gofrestru, byddwch wedi llofnodi’r Siarter Myfyrwyr lle rydych yn cytuno i rai cyfrifoldebau cyfathrebu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn yr egwyddorion y cytunwyd iddynt.

Eich Cyfrifoldebau:

Rhaid i chi sicrhau bod eich cofnod myfyriwr yn gyfoes ar bob adeg fel y gall y Brifysgol gysylltu â chi.  Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich cyfeiriad cartref ac yn ystod y tymor yn gywir ar eich cofnod academaidd. I ddiweddaru eich manylion:

  • Mewngofnodwch i'r Fewnrwyd 
  • Dewiswch Personol Details o’r ddewislen ar yr ochr chwith
  • Newidiwch eich manylion personol gan gynnwys eich cyfeiriad cartref ac yn ystod y tymor

Bydd y Brifysgol yn anfon gohebiaeth electronig ffurfiol i'ch cyfeiriad e-bost yn y Brifysgol, ac ar adegau, i'ch cyfeiriad e-bost personol. Felly, mae'n bwysig eich bod yn gwirio'ch cyfrif e-bost yn y Brifysgol bob dydd ac yn diweddaru'ch cyfeiriad e-bost personol ar y fewnrwyd, yn enwedig ychydig cyn y cyfnodau arholi/asesu, yn ystod y cyfnodau arholi/asesu ac ar eu hôl.