1.    Rheoliadau Cyffredinol

 1.1        

Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gall myfyrwyr deimlo eu bod dan orfodaeth, am wahanol resymau, i ohirio eu hastudiaethau yn ystod sesiwn academaidd neu am sesiwn gyfan. Mewn achosion o’r fath, gall myfyrwyr gyflwyno cais i ohirio eu hastudiaethau. Dylid nodi nad oes hawl gan myfyrwyr i ohirio eu hastudiaethau; yn hytrach, rhaid gwneud cais i ohirio astudiaethau a rhaid cael cymeradwyaeth y Brifysgol.

1.2        

Dim ond yn ystod cyfnod hwyaf posibl eu hymgeisiaeth y caniateir i fyfyrwyr israddedig wneud cais i ohirio eu hastudiaethau. Dylid trin unrhyw gais y tu allan i’r cyfnod hwn fel cais am ymestyn ymgeisyddiaeth. Yn yr un modd, ni chaiff myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir gyflwyno cais i ohirio eu hastudiaethau ond yn ystod cyfnod byrraf posibl eu hymgeisiaeth. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr yn Rhan Dau Gradd Meistr a Addysgir. Ni chaiff myfyrwyr sy’n dilyn tystysgrif neu ddiploma ôl-raddedig wneud cais i ohirio eu hastudiaethau ond yn ystod y cyfnod astudio byrraf posibl ar gyfer y rhaglen.

2.    Ceisiadau i Ohirio Astudiaethau

2.1        

Bydd angen i ymgeiswyr sy’n gwneud cais i ohirio eu hastudiaethau gyflwyno cais i'r Gyfadran/Ysgol. Dylai ceisiadau o'r fath gynnwys y rhesymau dros gyflwyno'r cais a thystiolaeth i'w gefnogi. Fel rheol, dylai myfyrwyr gael cyfweliad ag aelod o staff y Gyfadran/Ysgol a chysylltu ag aelod staff Gwasanaethau Addysg er mwyn cael cyngor. Os yw’r Gyfadran/Ysgol yn cefnogi cais y myfyriwr, rhaid i gynrychiolydd y Gyfadran/Ysgol lenwi’r cais newid amgylchiadau ar lein a’i gyflwyno i Wasanaethau Addysg i’w ystyried. Bydd Gwasanaethau Addysg yn gwirio'r ddogfennaeth, y terfynau amser ac at ac yn ystyried y cais ar ran y Bwrdd Achosion Myfyrwyr. Caiff unrhyw achosion/ceisiadau cymhleth eu cyfeirio at Gadeirydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr.

2.2        

Gall myfyriwr wneud cais i ohirio ei astudiaethau am y rhesymau canlynol:

Sylwer: Heblaw am gyflyrau difrifol, sydd wedi'u hategu gan dystiolaeth feddygol, caniateir i Wasanaethau Addysg/Cadeirydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr wrthod cais i ohirio astudiaethau.

  • Amgylchiadau personol eithriadol;
  • Ariannol;
  • Pan fydd yr ymgeisydd yn bwriadu trosglwyddo i raglen arall.

2.3        

Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy’n gwneud cais i ohirio eu hastudiaethau yn ystod y ddau dymor cyntaf a chyn diwrnod cyntaf tymor yr haf, oni bai fod y cais yn cael ei gyflwyno am resymau iechyd neu resymau cymhellol eraill. 

2.4        

Caniateir i fyfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni nad ydynt yn rhai traddodiadol, ac nad yw’r dyddiadau cau hyn yn berthnasol iddynt, gyflwyno cais i ohirio eu hastudiaethau gyda chefnogaeth y Gyfadran/Ysgol. Fel rheol, ni chaniateir i'r fath fyfyrwyr ohirio eu hastudiaethau yn union cyn y cyfnod arholi oni bai fod y cais yn cael ei gyflwyno am resymau iechyd neu resymau cymhellol eraill. 

Bydd ceisiadau gan fyfyrwyr, sy'n gorfod atal eu hastudiaethau am resymau iechyd y tu hwnt i ddiwrnod cyntaf tymor yr haf, yn cael eu hystyried ar sail unigol a rhaid cael dogfennau priodol gyda hwy.

2.5        

Disgwylir i fyfyrwyr hysbysu’r Gyfadran/Ysgol neu'r Brifysgol am y dyddiad y maent yn bwriadu dychwelyd i astudio.

2.6        

Fel arfer, bydd disgwyl i fyfyrwyr amser llawn ailgydio yn eu hastudiaethau ar ddechrau'r sesiwn academaidd ddilynol h.y. dychwelyd yn y mis Medi canlynol (gyda chaniatâd eu Cyfadran/Ysgol) ac ailddechrau'r flwyddyn/lefel astudio (bydd myfyrwyr yn fforffedu'n awtomatig unrhyw gredyd a enillwyd yn ystod y flwyddyn academaidd o ohirio). Rhaid i gais i gadw credyd presennol gael ei gefnogi gan y Gyfadran/Ysgol ac mewn achosion priodol, UKVI, a chaiff ei gyflwyno i'r Gwasanaethau Addysg i'w ystyried. Dim ond credyd presennol ar gyfer modiwlau wedi'u cwblhau y gellir eu cadw. Bydd marciau rhannol yn cael eu fforffedu.Mewn rhai achosion e.e. myfyrwyr sy'n gohirio eu hastudiaethau ar ôl cwblhau Bloc Addysgu Un yn llwyddiannus neu fyfyrwyr rhan-amser, efallai y bydd hi'n fwy priodol i fyfyrwyr ailgydio yn eu hastudiaethau ar ddechrau Bloc Addysgu Dau y sesiwn ganlynol. Mewn achosion o'r fath, rhaid i fyfyrwyr fod wedi llwyddo yn yr holl fodiwlau dros dro ym Mloc Addysgu Un a bydd hawl ganddynt gadw'r credyd a enillwyd.

 

Sylwer na fydd yr opsiwn hwn ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio modiwlau sy'n rhychwantu'r ddau floc addysgu - bydd modiwlau bloc addysgu dau yn cael eu cyflwyno ym mloc addysgu un yn y sesiwn academaidd ddilynol. Gwneir y penderfyniad hwn yn ôl disgresiwn yr Gyfadran/Ysgol a'r Gwasanaethau Addysg.

2.7        

Caiff ceisiadau i ohirio a gymeradwywyd eu hanfon i Wasanaethau Addysg a fydd yn diweddaru cofnod y myfyriwr ac yn hysbysu’r Myfyriwr/yr Awdurdod Addysg Lleol/y Noddwr/Swyddfa Teithebau a Mewnfudo'r DU am y gohiriad. 

3.     Mynnu bod Ymgeisydd yn Gohirio Astudiaethau

3.1        

Yn unol â pholisïau a rheoliadau’r Brifysgol (gan gynnwys rheoliadau asesu), gall y Brifysgol mynnu bod ymgeisydd yn gohirio ei astudiaethau neu gynghori myfyriwr i ohirio fel a ganlyn:

i)  Yn achos apeliadau academaidd, gall y Bwrdd Apeliadau fynnu bod ymgeisydd yn gohirio ei astudiaethau pan dybir y byddai cynghori'r myfyriwr i adael yn amhriodol.

ii) Mewn achosion difrifol dan weithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer/Disgyblu, gall fod yn ofynnol i ymgeiswyr atal eu hastudiaethau nes y gellir cynnal ymchwiliadau pellach.

iii) Mewn achosion o ddedfryd carchar, mae’n debygol y bydd yn ofynnol i’r myfyriwr ohirio ei astudiaethau yn ystod y cyfnod yn y carchar. Fel rheol, byddai’n rhaid cynnal asesiad risg â chanlyniad boddhaol, cyn caniatáu i'r myfyriwr ailgydio yn ei astudiaethau.

iv) Pan fydd ymgeisydd mewn dyled i’r Brifysgol ac nad yw'n talu'r ddyled honno, ar ôl ail rybudd gan y Brifysgol, bydd yn ofynnol i’r myfyriwr ohirio ei astudiaethau.

v) Fel rhan o ganlyniad/cosb a weithredir gan Bwyllgor Ymchwilio'r Brifysgol lle cadarnheir anaddasrwydd i ymarfer, camymddwyn academaidd neu dramgwydd disgyblu, gellir cynghori myfyriwr i atal astudiaethau neu fynnu ei fod yn eu gohirio.

3.2     

Yn ogystal, gellir gofyn i fyfyrwyr ohirio ei astudiaethau os yw’r Brifysgol yn tybio, am resymau’n ymwneud ag iechyd, nad yw’n briodol i'r myfyriwr barhau â'i astudiaethau, naill ai wrth arfer dyletswydd gofal y Brifysgol tuag at eraill neu le tybir nad yw parhau er lles y myfyriwr dan sylw. Amlinellir y broses i'w dilyn mewn amgylchiadau o'r fath yn y Weithdrefn Addasrwydd i Ymarfer.

4.    Dychwelyd i Astudio/Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol

4.1      

Pan fydd myfyriwr wedi gohirio ei astudiaethau oherwydd rhesymau iechyd, fel amod ailgofrestru, bydd rhaid i'r myfyriwr ddarparu i Gofnodion Myfyrwyr cadarnhad ysgrifenedig gan yr ymarferydd meddygol sy'n ei drin, neu gan ei feddyg teulu, bod y myfyriwr yn ddigon iach i ddychwelyd i astudio a/neu unrhyw dystiolaeth arall y gofynnir amdani gan Gofnodion Myfyrwyr/Gwasanaethau Addysg.

4.2       

Dylai myfyrwyr sy'n dychwelyd ar ôl gohirio astudiaethau sicrhau eu bod yn gallu ailgydio yn eu hastudiaethau a:

  • Lle bo myfyriwr wedi gohirio ei astudiaethau oherwydd amgylchiadau personol, dylai sicrhau nad yw'r amgylchiadau personol yn effeithio ar ei astudiaethau bellach;
  • lle bo astudiaethau wedi'u gohirio oherwydd pryderon ariannol, dylai'r myfyriwr sicrhau ei fod wedi bodloni ei rwymedigaethau ariannol a'i fod yn gallu parhau i'w bodloni.

4.3      

Ni fydd cyfnod hwyaf posibl yr ymgeisiaeth yn cael ei estyn yn awtomatig ar gyfer myfyrwyr sy’n gohirio eu hastudiaethau. Gall myfyrwyr estyn eu cais i ohirio eu hastudiaethau ar yr amod eu bod yn gallu cwblhau eu rhaglen astudio o fewn cyfnod hwyaf posibl eu hymgeisiaeth. Os yw myfyriwr yn dymuno estyn cyfnod hwyaf posibl ei ymgeisyddiaeth, bydd rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno cais dan y rheoliadau penodol.

4.4      

Os nad yw myfyrwyr yn dychwelyd i astudio erbyn y dyddiad a nodwyd, ac os na cheir ymateb i unrhyw ymgais gan y Gyfadran/Ysgol neu'r Brifysgol i gyfathrebu â'r myfyriwr erbyn y dyddiad a bennwyd, bydd y Brifysgol yn cymryd yn ganiataol ei fod wedi tynnu’n ôl o’r Brifysgol. Bydd y myfyriwr yn cael ei hysbysu’n ysgrifenedig ei fod wedi cael ei dynnu’n ôl o’r Brifysgol, a chaiff ei gofnod ei ddiwygio. Bydd hawl gan y myfyriwr i apelio yn erbyn y penderfyniad yn unol â'r Rheoliadau Apeliadau Academaidd.