Coronafeirws: y diweddaraf

1.     Cefndir

1.1    

Mae Colegau’n gyfrifol (ar ran y Senedd) am gyflwyno cynlluniau gradd ac am gadarnhau bod myfyrwyr yn bodloni deilliannau dysgu'r cynlluniau astudio. Yn ogystal, rhaid i’r Colegau sicrhau bod myfyrwyr yn cydymffurfio â gofynion y Brifysgol ac unrhyw gorff proffesiynol perthnasol hefyd.

1.2       

Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb penodol o ran myfyrwyr sy'n dilyn rhaglen astudio sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol a gofrestrir gyda chorff rheoleiddio statudol. Yn ogystal â dyfarnu'r cymhwyster priodol, rhaid bod y Brifysgol wedi'i bodloni y byddai'r myfyriwr yn aelod newydd diogel ac addas y proffesiwn dan sylw, ac felly'n addas i ymarfer.

1.3    

Mae'r Rheoliadau hyn yn amlygu'r weithdrefn ar gyfer ymdrin â honiadau neu bryderon ynghylch addasrwydd myfyriwr i ymarfer.

1.4       

Atgoffir myfyrwyr bod y Rheoliadau’r un mor berthnasol i’w hymddygiad y tu allan i'r Brifysgol a'r cyffiniau, gan gynnwys unrhyw leoliadau lle aiff myfyrwyr fel rhan o’u haddysg. Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol y gall eu hymddygiad y tu allan i'r Brifysgol, gan gynnwys eu bywydau personol, gael effaith ar eu haddasrwydd i ymarfer.

1.5       

NNid yw'r Rheoliadau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sydd eisoes wedi ennill cymhwyster proffesiynol y gellir ei gofrestru gyda chorff proffesiynol, statudol, neu reoleiddiol, oni bai eu bod hefyd wedi cofrestru ar raglen astudio sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol arall. Fodd bynnag, nid oes dim byd yn y Rheoliadau a fydd yn rhwystro'r Brifysgol rhag hysbysu corff proffesiynol, statudol, neu reoleiddiol am fyfyriwr sydd eisoes wedi’i gofrestru gyda’r corff dan sylw os bydd cwestiwn yn codi ynghylch addasrwydd y myfyriwr i gofrestru ac i ymarfer.

1.6       

Bydd yr egwyddorion canlynol yn berthnasol wrth ymdrin ag achos o Addasrwydd i Ymarfer:

  • Rhagdybir y bydd myfyriwr yn ddieuog hyd nes y profir fel arall, saif baich y prawf (y ddyletswydd o brofi’r cyhuddiad) gyda’r Brifysgol a dylai safon y prawf fod ar ‘gydbwysedd y tebygolrwydd’ (gweler 10.6);
  • Tybir bod euogfarnau troseddol, dyfarniadau a chanfyddiadau Cyrff Proffesiynol, Llysoedd Sifil y Deyrnas Unedig, a Gwasanaethau Cymdeithasol y Deyrnas Unedig yn dystiolaeth ddiymwad o'r ffeithiau yr ymchwiliwyd iddynt yn y fath achosion - gweler 6.5;
  • Hefyd, tybir bod canfyddiadau blaenorol y Pwyllgor Ymarfer Annheg neu'r Pwyllgor Disgyblu yn dystiolaeth ddiymwad o'r ffeithiau yr ymchwiliwyd iddynt yn y fath achosion. Ni chaiff y myfyriwr na'r Pwyllgor herio'r fath ganfyddiadau, oni bai fod y canfyddiadau eisoes wedi'u gwyrdroi trwy Adolygiad Terfynol;
  • Bydd yr holl weithdrefnau'n cydymffurfio a Deddf Cydraddoldeb 2010.

1.7   

Mae dyletswydd gofal ar y Brifysgol o ran diogelwch ei myfyrwyr, ei staff a'i hymwelwyr a, lle bo’n berthnasol, i'r bobl y gall myfyriwr ddod i gysylltiad â nhw ar leoliadau. O ganlyniad, mae’r Brifysgol yn gweithredu protocol rhannu gwybodaeth gyda Heddlu De Cymru, lle gall Heddlu De Cymru ddatgelu collfarnau myfyrwyr i’r Brifysgol; a bydd y Brifysgol, ar yr amod y bodlonir gofynion Diogelu Data Cyffredinol 2018, yn darparu gwybodaeth bersonol, megis ffotograffau a chyfeiriadau, i Heddlu De Cymru o dan gylch gwaith atal neu ganfod troseddau.

1.8   

Fel arfer, ni chaniateir i fyfyriwr raddio o'r Brifysgol os bydd yn destun ymchwiliad addasrwydd i ymarfer, neu Bwyllgor, ac os yw'r broses heb ei chwblhau.

1.9        

Hyd yn oed os yw myfyriwr yn tynnu'n ôl o'i wirfodd o'i raglen astudio cyn bod Pwyllgor Ymchwilio wedi penderfynu ynghylch pryderon o ran addasrwydd i ymarfer, gall y Brifysgol barhau i benderfynu ar y pryderon hyn ynghylch addasrwydd i ymarfer yn unol â'r Gweithdrefnau hyn. Felly, dylai unrhyw fyfyrwyr sy'n ystyried tynnu'n ôl o'u rhaglen o'u gwirfodd drafod hyn â'u Coleg cyn penderfynu tynnu'n ôl.

1.10

Atgoffir myfyrwyr y gall Canolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr darparu cymorth a chyngor cyfrinachol iddynt ar faterion addasrwydd i ymarfer a gall eu cynrychioli mewn Pwyllgor Ymchwilio i Addasrwydd i Ymarfer. Mae'r Ganolfan Gyngor yn wasanaeth rhad ac am ddim i fyfyrwyr.

2.     Rhwymedigaethau Myfyrwyr

2.1    

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr hysbysu'r Brifysgol yn brydlon am fanylion unrhyw gyhuddiad, euogfarn, arestiad neu rybuddiad troseddol a dderbynnir ganddynt yn ystod eu cyfnod fel myfyrwyr cofrestredig y Brifysgol. Mae gan fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen broffesiynol gyfrifoldeb ychwanegol i hysbysu'r Brifysgol yn brydlon os byddant yn derbyn hysbysiad o gosb penodedig gan yr heddlu neu os byddant yn destun ymchwiliad gwasanaethau cymdeithasol yn ystod eu cyfnod fel myfyrwyr cofrestredig y Brifysgol. Mae'r cyfrifoldebau hyn yr un mor ddilys yn achos myfyrwyr sydd wedi'u hatal dros dro o'u hastudiaethau.

2.2   

Cyfrifoldeb myfyriwr yw sicrhau bod ei fanylion cyswllt yn gywir ar y system cofnodion canolog. Nid oes gan y Brifysgol unrhyw gyfrifoldeb am lythyrau neu gyfathrebiadau eraill nad ydynt yn cyrraedd myfyriwr oherwydd nad yw ei gofnod wedi’i ddiweddaru.

3.     Diffiniad o “Anaddas i Ymarfer”

3.1       

Lle mae myfyriwr wedi cofrestru ar gwrs sy’n arwain yn uniongyrchol (neu’n rhannol) at gymhwyster proffesiynol neu’r hawl i ymarfer proffesiwn neu alwedigaeth benodol, os bydd ei ymddygiad neu ei iechyd yn codi pryder difrifol neu barhaus ynghylch ei allu i barhau ar gwrs, neu i ymarfer yn y proffesiwn neu’r alwedigaeth honno, ystyrir ei fod yn “Anaddas i Ymarfer”. Mae hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y posibilrwydd y gall myfyriwr beri risg i gleifion neu'r cyhoedd, neu y gall danseilio ymddiriedaeth yn y proffesiwn.

3.2       

Mae’r Brifysgol yn cyfeirio at ganllawiau Cyrff Proffesiynol a Statudol penodol wrth benderfynu a yw myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer.

3.3       

Rhestrir enghreifftiau a allai olygu, prima facie, bod myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer yn Atodiad 1.

4.     Cychwyn Gweithdrefnau ac Ymchwiliad y Coleg i Addasrwydd i Ymarfer

4.1       

Gallai unrhyw fyfyriwr, aelod o staff, claf/defnyddiwr gwasanaeth neu aelod o’r cyhoedd godi pryder am addasrwydd myfyriwr i ymarfer gyda Choleg y myfyriwr naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig. Dylid cyfeirio unrhyw bryder at sylw Pennaeth y Coleg os nad yw'n hysbys pwy yw'r unigolyn perthnasol i glywed am y pryder.

4.2    

Bydd y Coleg yn cyfeirio’r mater at sylw Pennaeth y Coleg, neu ei enwebai, cyn gynted â phosibl.

4.3    

Ar ôl cyfeirio'r achos at sylw Pennaeth y Coleg neu ei enwebai [y cyfeirir ato o hyn allan fel "enwebai'r Coleg"], bydd yr unigolyn hwnnw'n trefnu ymchwilio i'r pryder ac yn hysbysu'r myfyriwr, yn ysgrifenedig, am:

  • Manylion yr honiadau/pryderon am y myfyriwr;
  • Enw'r swyddog ymchwilio;
  • Unrhyw gyfyngiadau neu amodau a roddwyd ar allu'r myfyriwr i barhau i astudio neu i ymarfer yn ystod cyfnod yr ymchwiliad;
  • Manylion am y cymorth bugeiliol priodol sydd ar gael yn y Brifysgol a thrwy Undeb y Myfyrwyr.

4.4       

Fel arfer, bydd yn ofynnol i'r myfyriwr roi ymateb ysgrifenedig cychwynnol i enwebai'r Coleg o fewn 7 niwrnod gwaith i ddyddiad llythyr enwebai'r Coleg yn manylu ar yr honiadau/pryderon (caiff enwebai'r Coleg dybio nad yw hyn yn angenrheidiol os bydd yn cwrdd â’r myfyriwr yn unol â 4.6 isod). Os nad yw'r myfyriwr yn ymateb, gallai enwebai’r Coleg/y Panel asesu’r achos ar sail y dystiolaeth sydd ar gael.

4.5    

Wrth ymchwilio i'r achos, bydd enwebai'r Coleg yn casglu tystiolaeth sy'n ategu neu sy'n gwrth-ddweud yr honiad neu'r pryder. Gall hyn gynnwys cyfweld ag unigolion perthnasol, gan gynnwys y myfyriwr ei hun.

4.6       

Os trefnir cyfweliadau wyneb yn wyneb, bydd enwebai'r Coleg yn trefnu bod cofnod ysgrifenedig o'r cyfweliad yn cael ei gadw. Bydd gan y sawl sy'n cael ei gyfweld (gan gynnwys y myfyriwr dan sylw) hawl i ddod â chyfaill neu gydweithiwr (sy'n aelod o'r Brifysgol) i'r cyfweliad, neu gynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr. Rôl unrhyw unigolyn sy'n dod gyda'r sawl sy'n cael ei gyfweld bydd cefnogi'r unigolyn hwnnw, ac ni chaniateir iddo ateb cwestiynau ar ran y myfyriwr.

4.7    

Bydd gan enwebai'r Coleg hawl i gysylltu ag unrhyw unigolyn (gan gynnwys y myfyriwr dan sylw), a gofyn am wybodaeth ganddo, dros y ffôn, drwy'r post, neu drwy e-bost, neu i ofyn am un neu fwy o gyfweliadau gydag unrhyw unigolyn (gan gynnwys y myfyriwr dan sylw) er mwyn ceisio eglurhad neu fwy o fanylion am unrhyw fater.

4.8    

Ym mhob achos lle codir pryderon mewn perthynas ag iechyd neu anabledd y myfyriwr, bydd enwebai’r Coleg yn cyfeirio’r myfyriwr at Iechyd Galwedigaethol a/neu at ymarferydd cymwys addas (fel y'i pennir gan y Coleg) am asesiad a barn bosibl am addasrwydd y myfyriwr i ymarfer. Caiff adroddiad ysgrifenedig am y fath asesiad ei lunio ac fel rheol caiff ei ddatgelu i’r myfyriwr, i enwebai’r Coleg, i Banel y Coleg [os sefydlwyd y fath banel] ac i unrhyw Bwyllgor Ymchwilio a sefydlir yn nes ymlaen i benderfynu ar ganlyniad yr achos.

 4.9    

Os bydd y myfyriwr yn gwrthod cydweithredu â'r fath asesiad, neu'n gwrthod caniatáu rhyddhau'r adroddiad am yr asesiad i enwebai'r Coleg/y Panel ac unrhyw Bwyllgor Ymchwilio, fel arfer bydd yn ofynnol i'r myfyriwr ohirio ei astudiaethau nes caiff y fath asesiad ei wneud a'i ryddhau a/neu tan gyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio (gweler 7 isod).

4.10   

Gallai enwebai’r Coleg fod o dan rwymedigaeth i roi gwybod i’r corff proffesiynol perthnasol am y cyhuddiad/pryder cyn gynted ag y caiff wybod am y mater, er mwyn sicrhau diogelwch cleifion neu ddefnyddwyr y gwasanaeth.

4.11    

Pan fydd ymchwiliad troseddol neu brosesau cyfreithiol yn yr arfaeth, caiff yr achos ei ystyried yn unol â’r gweithdrefnau a amlinellir yn 6 isod.

4.12    

Os yw enwebai'r Coleg o'r farn bod angen atal y myfyriwr neu ei atal yn rhannol o'i astudiaethau nes y daw ymchwiliad/Gweithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer y Coleg i ben, bydd yn dwyn y mater i sylw'r Is-ganghellor (neu ei enwebai) cyn gynted â phosib, yn unol â'r gweithdrefnau a amlinellir isod yn 7.

5.     Cwblhau Ymchwiliad y Coleg

5.1       

Pan fydd enwebai'r Coleg wedi cwblhau ei ymchwiliad i'r honiad/pryder a, lle bynnag y bo modd gan ystyried cymhlethdod y cais, o fewn 8 wythnos ar ôl i'r honiad/pryder gael ei ddwyn i sylw'r Coleg, bydd enwebai'r Coleg (neu Banel lle y'i penodwyd yn unol â'r gweithdrefnau ar lefel y Coleg) yn penderfynu pa gamau y dylid eu cymryd ynghylch yr honiad/pryder o ran addasrwydd i ymarfer. Dim ond yr achosion hynny lle mae enwebai'r Coleg, neu'r Panel, wedi penderfynu, yng ngoleuni difrifoldeb y mater a chryfder y dystiolaeth, bod achos prima facie bod y myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer [hynny yw, bod ymddygiad neu iechyd y myfyriwr (neu'r ddau) yn codi pryder difrifol neu barhaus am ei allu i barhau ar gwrs neu i ymarfer ar ôl graddio] gaiff eu cyfeirio at sylw Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y posibilrwydd y gall y myfyriwr beri risg i gleifion neu'r cyhoedd, neu y gall danseilio ymddiriedaeth yn y proffesiwn.

5.2    

Gellir penderfynu bod achos prima facie i'w ateb ynghylch anaddasrwydd y myfyriwr i ymarfer ar sail un digwyddiad difrifol neu batrwm ymddygiad, a gall hefyd ddilyn camau adfer sydd wedi methu datrys y broblem.

5.3   

Gall enwebai'r Coleg neu'r Panel ystyried sut gallai ymddygiad neu iechyd y myfyriwr effeithio ar ddiogelwch cleifion a'r cyhoedd, neu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y proffesiwn meddygol. Gall enwebai'r Coleg neu'r Panel fyfyrio ar ddifrifoldeb yr ymddygiad, aeddfedrwydd y myfyriwr a'r flwyddyn astudio, yn ogystal â'r tebygolrwydd y bydd yn ailadrodd yr ymddygiad a pha mor dda y bydd y myfyriwr yn ymateb i gymorth. Rhaid i enwebai’r Coleg neu'r Panel weithredu’n gymesur trwy bwyso a mesur buddiannau cleifion/defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau’r cyhoedd yn erbyn rhai’r myfyriwr, a bydd yn ystyried a ddylid ymdrin â’r pryder trwy roi cymorth a gwersi adferol i’r myfyriwr neu a yw'r ymddygiad yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cyfeirio'r mater at sylw Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer ffurfiol y Brifysgol. Hefyd, dylai enwebai'r Coleg neu'r Panel roi sylw i unrhyw gyfarwyddyd a ddarperir gan y corff proffesiynol perthnasol am gosbau.

5.4    

Gall enwebai'r Coleg neu'r Panel geisio cyngor cyfreithiol annibynnol neu gyngor arbenigol arall yn ôl yr angen gan gynnwys, os yw hynny'n briodol, gan Iechyd Galwedigaethol neu aelodau o Bwyllgor Amgylchiadau Arbennig y Coleg.

5.5       

Ar ôl cwblhau'r ymchwiliad, caiff enwebai'r Coleg neu'r Panel ddod i un o'r penderfyniadau canlynol, neu gyfuniad ohonynt:

a) Gwrthod yr achos os penderfynir nad oes sail i'r honiad.

b) Penderfynu gwneud ymholiadau neu ymchwiliadau ychwanegol ac ailystyried yr achos wedi hynny.

c) Cyfeirio’r achos i gael ei drin trwy weithdrefnau mewnol y Coleg (h.y. lle ceir tystiolaeth bod ymddygiad y myfyriwr islaw'r safonau disgwyliedig ond na thybir ei fod mor ddifrifol i wneud y myfyriwr yn anaddas i ymarfer. Ymhlith camau eraill, gall hyn gynnwys cyfeirio'r myfyriwr i gael cymorth gan ei fentor academaidd, gan Wasanaethau Myfyrwyr neu Iechyd Galwedigaethol a mynnu bod y myfyriwr yn derbyn addysg adferol, megis cwblhau darn o ysgrifennu myfyriol.

ch) Cyfeirio'r myfyriwr am asesiad o'i iechyd neu ei anabledd, yn unol â 4.9 a 4.10.

d) Cyfeirio'r achos at sylw'r Gwasanaethau Academaidd i ymdrin ag ef dan Weithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol, naill ai yn ogystal â'r canlyniadau eraill yn 5.5 neu yn eu lle.

dd) Gohirio'r achos nes bod yr heddlu wedi cwblhau ymchwiliad, gydag amodau neu'n ddiamod. Dim ond gyda chytundeb y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd y gellir pennu'r fath amodau (megis gorfodi'r myfyriwr i ymrwymo i Gontract Ymddygiadol).

e) Cyfeirio’r achos at sylw'r Is-ganghellor (neu ei enwebai) i atal y myfyriwr dros dro neu ei atal yn rhannol nes y cwblheir ymchwiliad pellach, neu y cynhelir Pwyllgor Ymchwilio, yn unol â'r gweithdrefnau a amlinellir yn 7 isod.

f) Rhoi rhybudd anffurfiol, ar lafar neu ysgrifenedig, i'r myfyriwr i nodi bod ymddygiad islaw'r safonau disgwyliedig. Cedwir cofnod ysgrifenedig o'r rhybudd anffurfiol ar ffeil y myfyriwr o fewn y Coleg, a byddai'n cael ei ddatgelu i unrhyw Bwyllgor Ymchwilio arall yn y dyfodol. Fodd bynnag, ni fyddai unrhyw eirda a ddarperir yn cyfeirio at y fath rybudd anffurfiol.

g) Rhoi rhybudd ysgrifenedig ffurfiol i'r myfyriwr am ei ymddygiad lle mae ymddygiad y myfyriwr ymhell islaw'r safonau disgwyliedig. Mae gwybodaeth am rybuddion ffurfiol a'r ffaith y gall fod angen eu datgelu i'r corff proffesiynol perthnasol ar gael yn Atodiad 2. Gall myfyriwr ofyn am adolygiad o'r penderfyniad i roi rhybudd ffurfiol, yn unol â'r Gweithdrefnau Adolygiad Terfynol.

ng) Cytuno ar Ymrwymiadau gyda'r myfyriwr. Gall ymrwymiadau fod yn briodol lle canfyddir bod achos prima facie i'w ateb ynghylch anaddasrwydd y myfyriwr i ymarfer, ond mae'r myfyriwr yn cydnabod hyn ac yn dangos ei fod yn deall y pryderon a'i fod yn ceisio ffyrdd i ddatrys y problemau sy'n sail iddynt. Ceir gwybodaeth am Ymrwymiadau yn Atodiad 2.

h) Lle canfyddir bod achos prima facie bod y myfyriwr yn Anaddas j Ymarfer, cyfeirio’r achos at sylw Pwyllgor Ymchwilio i wrando ar yr achos. Gellir cyfeirio'r achos at sylw Pwyllgor Ymchwilio wrth i ymchwiliadau ychwanegol gael eu cynnal.

5.6       

Yn ogystal, gall enwebai’r Coleg neu'r Panel fod o dan rwymedigaeth i roi gwybod i’r corff proffesiynol perthnasol am ganlyniad ei ymchwiliadau – hyd yn oed os bydd yr achos wedi’i wrthod neu heb ei gyfeirio at sylw Pwyllgor Ymchwilio.

5.7    

Hysbysir y myfyriwr yn ysgrifenedig am y penderfyniad, cyn gynted â phosib ac fel rheol ymhen 3 diwrnod gwaith i ddod i benderfyniad. Darperir copi o'r llythyr hwn neu'r neges e-bost hon i Wasanaethau Academaidd (a fydd yn gyfrifol am drefnu'r Pwyllgor Ymchwilio).

5.8       

Pan benderfynir cyfeirio'r achos at sylw Pwyllgor Ymchwilio, disgwylir i enwebai'r Coleg lunio adroddiad gyda thystiolaeth ategol (a all fod mewn un neu fwy o ddogfennau ar wahân) i gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i'r eitemau hyn:

  • amlinelliad o'r honiadau neu'r pryderon;
  • manylion tystiolaeth y Coleg (gan atodi copïau o unrhyw gofnodion perthnasol o gyfweliadau, gohebiaeth a dogfennau);
  • enwau a, lle bo modd, datganiadau'r tystion y mae'r Coleg yn bwriadu eu galw i roi tystiolaeth yng nghyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio;
  • y rhesymau pam y mae'r ymddygiad a/neu'r amgylchiadau personol yn peri pryder difrifol neu barhaus am allu'r myfyriwr i barhau â'i gwrs, neu i ymarfer ar ôl graddio;
  • y Codau perthnasol sy'n rheoli'r proffesiwn y mae'r myfyriwr yn dyheu ei ymarfer;
  • argymhelliad y Coleg am ganlyniadau a chosbau addas.

5.9        

Bydd enwebai'r Coleg yn darparu copi o'r fath adroddiad a dogfennau ategol i Wasanaethau Academaidd cyn gynted ag y bo modd, ac fel arfer o fewn 20 niwrnod gwaith ar ôl y penderfyniad i gyfeirio'r achos at sylw Pwyllgor Ymchwilio. Os na fydd yn ymarferol i'r Coleg ddarparu ei adroddiad a dogfennau ategol o fewn 20 niwrnod gwaith, hysbysir y myfyriwr yn ysgrifenedig am yr amserlen ar gyfer darparu'r rhain. Ar ôl derbyn yr adroddiad a'r dogfennau ategol, bydd Gwasanaethau Academaidd yn trefnu i gopïau gael eu darparu i'r myfyriwr ac aelodau Panel y Pwyllgor.

5.10   

Lle nad yw'n ymarferol i enwebai'r Coleg ddarparu ei holl dystiolaeth (er enghraifft datganiadau tystion, dogfennau ac yn y blaen) i'r Ysgrifennydd yn unol â 5.9 uchod, bydd fel arfer yn darparu adroddiad cychwynnol, a thystiolaeth ychwanegol wedi hynny yn unol ag amserlen a bennir gan Wasanaethau Academaidd. Fodd bynnag, os cyfeirir y myfyriwr ar gyfer asesiad meddygol, efallai na fydd modd darparu adroddiad neu adroddiad cychwynnol tan ar ôl i'r adroddiad ar yr asesiad gael ei dderbyn. Pan fydd ymchwiliad troseddol neu brosesau cyfreithiol ar y gweill, caiff yr achos ei ystyried yn unol â’r gweithdrefnau a amlinellir yn 6. isod.

6.     Beth sy’n Digwydd pan fydd yr Ymddygiad Dan Sylw yn Drosedd Hefyd?

6.1       

Fel rheol, lle mae’r ymddygiad dan sylw yn drosedd hefyd, ni fydd penderfyniad yn cael ei wneud o dan y rheoliadau hyn nes bod yr ymchwiliad troseddol/gweithrediadau cyfreithiol dan sylw wedi’u cwblhau. Yn hytrach, cyfeirir at yr achos fel arfer fel ‘achos sydd wedi'i ohirio nes y ceir canlyniad yr ymchwiliad troseddol/gweithrediadau cyfreithiol’. Fodd bynnag, gall enwebai’r Coleg fod o dan rwymedigaeth i roi gwybod i’r Corff Proffesiynol perthnasol am yr achos o’r cychwyn a chyn y bydd canlyniad yr ymchwiliad troseddol/gweithrediadau cyfreithiol yn hysbys.

6.2       

Gan ddibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd, gallai’r gohiriad hwn fod yn destun amodau penodol megis gosod Contract Ymddygiadol neu waharddiad rhannol neu lawn o’r Brifysgol a’i mangreoedd, gan gynnwys unrhyw leoliad gwaith. Ni ellir gosod unrhyw amodau (megis gosod Contract Ymddygiadol) ond â chytundeb ymlaen llaw'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd. Yn ogystal, ni chaiff neb ond yr Is-ganghellor (neu ei enwebai) osod unrhyw waharddiad rhannol neu dros dro.

6.3       

Adolygir yr achos pan fydd unrhyw ddatblygiad o ran ymchwiliadau'r heddlu neu'r achos cyfreithiol. Atgoffir myfyrwyr eu bod o dan rwymedigaeth i roi gwybod i’r Brifysgol am statws eu hachos ac am unrhyw amodau mechnïaeth a osodwyd arnynt.

6.4       

Pan fydd ymchwiliadau’r heddlu/y gweithrediadau cyfreithiol wedi’u cwblhau a naill ai mae'r myfyriwr wedi’i erlyn, neu penderfynwyd peidio ag erlyn, bydd enwebai’r Coleg yn penderfynu a ddylid parhau i gymryd camau o dan y rheoliadau hyn.

6.5   

Pan fydd euogfarn am drosedd yn erbyn myfyriwr, tybir bod yr euogfarn yn dystiolaeth ddiymwad bod y drosedd wedi'i chyflawni - hynny yw, ni ddylai'r Coleg/Pwyllgor Ymchwilio geisio 'dehongli' yr amgylchiadau na dod i gasgliad gwahanol am y materion a arweiniodd at yr euogfarn. Tybir bod dyfarniadau a chanfyddiadau Cyrff Proffesiynol, Llysoedd Sifil y Deyrnas Unedig, a Gwasanaethau Cymdeithasol y Deyrnas Unedig yn dystiolaeth ddiymwad o'r ffeithiau yr ymchwiliwyd iddynt yn y fath achosion.

6.6    

Lle penderfynir bod y myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer ac mae'r myfyriwr wedi’i ddedfrydu gan lys troseddol hefyd mewn perthynas â’r un ffeithiau, bydd cosb y llys yn cael ei hystyried wrth bennu’r gosb o dan y rheoliadau hyn.

6.7       

Fel rheol, bydd yn ofynnol i fyfyriwr sy’n cael dedfryd o garchar ohirio ei astudiaethau am gyfnod y ddedfryd honno neu am gyfnod hwy.

6.8       

Lle mae’r ddedfryd o garchar yn para 12 mis, neu’n hwy na gweddill cyfnod ymgeisyddiaeth y myfyriwr, bydd Gwasanaethau Academaidd, ar ran y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd, fel arfer yn gofyn i'r myfyriwr dynnu’n ôl o’r Brifysgol. Bydd Gwasanaethau Academaidd yn cadarnhau'r penderfyniad hwn yn ysgrifenedig i’r myfyriwr. Fodd bynnag, caiff y myfyriwr ofyn i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd am adolygiad ffurfiol o'r penderfyniad hwn dan y Weithdrefn Adolygiad Terfynol o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad penderfyniad Gwasanaethau Academaidd.

6.9        

Mewn unrhyw achos lle mae’r myfyriwr wedi gohirio ei astudiaethau yn sgil dedfryd o garchar, byddai dychweliad y myfyriwr i’r Brifysgol a/neu leoliad yn amodol ar ganlyniad boddhaol asesiad risg. Gellir gosod amodau a chyfyngiadau ar symudiadau ac ymddygiad y myfyriwr os caniateir iddo/iddi ailafael yn ei astudiaethau.

7.    Ataliad neu Ataliad Rhannol Hyd Nes y Ceir Ymchwiliadau Pellach neu Bwyllgor Ymchwilio

7.1

Yn achos myfyriwr sy’n destun:

  • ymchwiliad i amgylchiadau, a allai ei atal rhag cael cynnig lleoliad neu rhag parhau ar leoliad; neu
  • gŵyn ddifrifol bod y myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer; neu
  • achos troseddol;  neu
  • ymchwiliad gan yr heddlu,

gael ei atal neu ei atal yn rhannol gan yr Is-ganghellor neu ei enwebai tan gyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio, neu’r achos troseddol, neu asesiad meddygol y myfyriwr (gweler 4.9 uchod).

7.2

a) Mae Ataliad yn golygu cyfyngiad llwyr ar bresenoldeb yn, neu fynediad i gyfleusterau'r Brifysgol, y cwrs (sy’n cynnwys lleoliad myfyriwr) a chyfranogi yn unrhyw un o weithgareddau’r Brifysgol. Gallai gynnwys hefyd gofyniad nad oes gan y myfyriwr unrhyw gysylltiad ag unigolyn neu unigolion a enwir. Ni ddefnyddir ataliad llwyr oni fernir bod ataliad rhannol neu ataliad rhag gweithgareddau penodol yn annigonol.

b) Mae Ataliad rhannol yn golygu cyfyngiad ar fynediad i rai o gyfleusterau, rhaglenni neu gyrsiau astudio (gan gynnwys lleoliad myfyriwr) y Brifysgol a gwaharddiad rhag ymarfer rhai o swyddogaethau neu ddyletswyddau unrhyw swydd neu aelodaeth o bwyllgor yn y Brifysgol. Bydd yr union fanylion yn cael eu nodi’n ysgrifenedig. Gallai gynnwys hefyd gofyniad nad oes gan y myfyriwr unrhyw gysylltiad ag unigolyn neu unigolion a enwir.

7.3

Ni ddefnyddir ataliad nac ataliad rhannol fel cosb nes y ceir gwrandawiad. Pwrpas y grym i atal neu i atal yn rhannol o dan y ddarpariaeth hon yw diogelu aelodau’r Brifysgol yn gyffredinol, neu aelod penodol, neu unigolion eraill gan gynnwys cleifion, disgyblion, cleientiaid, neu aelodau’r cyhoedd, ac ni fydd y grym yn cael ei ddefnyddio ond lle mae’r Is-ganghellor o’r farn bod angen cymryd y cam hwnnw. Cedwir cofnod ysgrifenedig o’r rhesymau am y penderfyniad a bydd ar gael i’r myfyriwr. Gallai enwebai’r Coleg fod dan ddyletswydd hefyd i ddarparu copi o’r rhesymau ysgrifenedig am y penderfyniad i’r Corff Proffesiynol perthnasol.

7.4

Fel rheol, ni fydd unrhyw fyfyriwr yn cael ei atal neu ei atal yn rhannol oni bai fod y myfyriwr wedi cael cyfle i wneud sylwadau yn bersonol i’r Is-ganghellor neu ei enwebai. Lle mae’n ymddangos am unrhyw reswm i’r Is-ganghellor neu ei enwebai nad yw’n bosib neu’n addas cwrdd â’r myfyrwyr ymhen amserlen y tybir gan yr Is-ganghellor neu ei enwebai ei bod yn briodol i amgylchiadau’r achos, bydd gan y myfyriwr hawl i wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn cyfnod amser a bennir gan yr Is-ganghellor neu ei enwebai.

7.5

Mewn achosion y tybir eu bod o frys mawr, bydd gan yr Is-ganghellor neu ei enwebai hawl i atal myfyriwr ar unwaith, ar yr amod bod y cyfleoedd a nodwyd yn 7.4 uchod yn cael eu cynnig wedi hynny, a chaiff y mater ei adolygu ymhen 7 niwrnod gwaith.

7.6

Lle ceir datblygiadau sylweddol, trefnir adolygiad o’r ataliad neu’r ataliad rhannol gan Wasanaethau Academaidd cyn gynted â phosib. Ni fydd adolygiad o’r fath yn cynnwys cyfarfod neu gyfle i'r myfyriwr gyflwyno sylwadau'n bersonol, ond bydd gan y myfyriwr hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Yr Is-ganghellor neu ei enwebai fydd yn penderfynu ar unrhyw gynnig i godi’r ataliad neu’r ataliad rhannol.

7.7

Pan fydd canlyniad ymchwiliadau'r heddlu a (lle bo'n berthnasol) yr achos llys yn hysbys, bydd Gwasanaethau Academaidd yn trefnu i'r achos gael ei benderfynu cyn gynted ag y bo modd. Os bydd y Coleg a Gwasanaethau Academaidd yn cytuno y gall y Pwyllgor Ymchwilio fynd yn ei flaen yn gynharach, ceisir cydsyniad ysgrifenedig y myfyriwr.

8.    Pwyllgor Ymchwilio

8.1

Pan fydd Gwasanaethau Academaidd yn derbyn llythyr gan enwebai'r Coleg neu'r Panel yn cadarnhau penderfyniad i gyfeirio'r achos at sylw Pwyllgor Ymchwilio, bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor (a gaiff ei benodi gan Wasanaethau Academaidd) yn trefnu i Bwyllgor Ymchwilio priodol gael ei alw ynghyd cyn gynted â phosib, fel arfer ymhen 7 wythnos waith i’r dyddiad y derbyniwyd adroddiad y Coleg gan Wasanaethau Academaidd.

8.2

Bydd Panel y Pwyllgor Ymchwilio yn cynnwys pedwar aelod (a ddewisir gan Ysgrifennydd y Pwyllgor), sef:

(i) dau aelod o blith y canlynol: Dirprwy Is-gangellorion, aelodau Pwyllgorau/Byrddau'r Brifysgol â phrofiad/arbenigedd perthnasol; uwch aelodau'r staff addysgu academaidd a chlinigol (h.y. Uwch-ddarlithydd; Uwch Diwtor Clinigol); Staff anrhydeddus ac Athrawon Emeritws; a

(ii) chynrychiolydd y myfyrwyr (o Brifysgol Abertawe neu Brifysgol arall) neu Swyddog Amser Llawn Undeb y Myfyrwyr. Lle nad yw'n ymarferol i'r Ysgrifennydd drefnu i gynrychiolydd y myfyrwyr neu Swyddog Undeb y Myfyrwyr fod yn aelod o'r Panel heb beri oedi sylweddol wrth drefnu dyddiad y Pwyllgor, caiff yr Ysgrifennydd ddewis trydydd aelod o'r staff o'r rhai a restrir yn 8.2(i) uchod yn lle cynrychiolydd y myfyrwyr neu Swyddog o Undeb y Myfyrwyr.

(iii) ymarferydd perthnasol, cyn-ymarferydd neu rywun sy’n gyfarwydd â’r codau ymddygiad, codau moeseg neu godau ymarfer sy’n rheoli’r proffesiwn/proffesiynau sy’n berthnasol i’r achos.

8.3

Ni fydd Panel y Pwyllgor Ymchwilio’n cynnwys aelodau o staff o'r adran lle mae’r myfyriwr yn astudio nac aelodau sydd wedi ymwneud â'r achos dan sylw mewn unrhyw ffordd. Bydd un aelod o Banel y Pwyllgor Ymchwilio yn cael ei benodi gan yr Ysgrifennydd i fod yn Gadeirydd. Gwneir penderfyniad Panel y Pwyllgor trwy bleidlais y mwyafrif. Ymdrinnir â phleidleisiau'r aelodau unigol yn gyfrinachol. Os bydd y bleidlais yn gyfartal, caiff y Cadeirydd bleidlais fwrw, yn ychwanegol.

8.4

Mewn achosion sy'n ymwneud â materion cyfreithiol neu iechyd cymhleth, neu achosion difrifol iawn, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i benodi pumed aelod i'r Panel, nad oes rhaid iddo/iddi fod yn aelod o Brifysgol Abertawe. Fel arfer, ni fydd gan y fath aelod hawl i bleidleisio wrth benderfynu a yw'r myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer nac ychwaith wrth benderfynu ar y canlyniad neu'r gosb, ond bydd yn penderfynu ar faterion sy'n ymwneud â phroses cyfarfod y Pwyllgor a'r dystiolaeth a gyflwynir. Yn ogystal, caiff gynghori'r Panel ynghylch materion cyfreithiol, iechyd neu faterion arbenigol eraill. Hysbysir y myfyriwr os penodir pumed aelod i’r Panel.

8.5

Cyn gynted ag bo'n ymarferol ar ôl i Wasanaethau Academaidd dderbyn adroddiad a dogfennau ategol gan enwebai'r Coleg (fel y nodir yn 5.6 uchod), bydd yr Ysgrifennydd yn:

  • Anfon copi o adroddiad enwebai'r Coleg, y dogfennau ategol, ac unrhyw ddogfennau eraill sydd i'w cyflwyno i'r Pwyllgor Ymchwilio at y myfyriwr.
  • Gwahodd y myfyriwr i ddarparu i'r Ysgrifennydd, erbyn dyddiad a bennir, ei ymateb ysgrifenedig i achos y Coleg ac unrhyw dystiolaeth, datganiadau tystion, neu ddogfennau eraill y mae'r myfyriwr yn bwriadu dibynnu arnynt wrth ymateb i achos y Coleg. Dylai ymateb ysgrifenedig y myfyriwr gyfeirio at unrhyw ddatganiadau neu ddogfennau yn nhystiolaeth y Coleg y mae'r myfyriwr yn anghytuno â hwy. Dylid caniatáu o leiaf 20 niwrnod gwaith i'r myfyriwr baratoi ei ymateb. Bydd yr Ysgrifennydd yn darparu copïau o ymateb y myfyriwr ac unrhyw ddogfennau ategol i enwebai'r Coleg ac i Banel y Pwyllgor cyn cyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio. Os bydd y myfyriwr yn cyflwyno unrhyw ddogfennaeth ar ôl y dyddiad a bennwyd gan yr Ysgrifennydd, gallai olygu bod angen gohirio cyfarfod y Pwyllgor er mwyn rhoi amser i aelodau'r Panel a'r sawl sy'n cyflwyno'r achos ar ran y Coleg ddarllen y cynnwys.
  • Gwahodd y myfyriwr i hysbysu Ysgrifennydd y Pwyllgor am unrhyw anghenion arbennig.
  • Rhoi gwybod i’r myfyriwr, enwebai’r Coleg ac aelodau’r Pwyllgor Ymchwilio am ddyddiad, lleoliad ac amser y cyfarfod a rhoi iddynt gopïau o’r honiad a’r dystiolaeth/dogfennau a gyflwynwyd gan y Coleg a’r myfyriwr.

8.6

Bydd yr Ysgrifennydd yn trefnu dyddiad, lleoliad ac amser i'r Pwyllgor Ymchwilio gwrdd. Hysbysir y myfyriwr bod ganddo/ganddi hawl i fynychu’r cyfarfod. Os bydd y myfyriwr yn cadarnhau na fydd yn gallu bod yn bresennol ar y dyddiad hwnnw, bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor yn aildrefnu’r cyfarfod unwaith, oni bai fod y myfyriwr yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw’n dymuno mynychu’r cyfarfod. Bydd angen i’r myfyriwr roi gwybod i’r Ysgrifennydd a yw’n bwriadu mynychu cyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio ai peidio. Os bydd y myfyriwr yn nodi nad yw’n dymuno mynychu’r cyfarfod, bydd y Pwyllgor Ymchwilio yn cyfarfod yn ei absenoldeb. Fel arfer, ni chaiff myfyriwr anfon rhywun arall i’r cyfarfod yn ei le, oni bai fod y Cadeirydd yn awdurdodi hynny fel eithriad cyn y cyfarfod.

8.7

Dylid cynnal cyfarfodydd y Pwyllgor ym Mhrifysgol Abertawe oni chytunwyd ar drefniadau amgen.

8.8

Caiff y myfyriwr ddod â chydweithiwr/cyfaill (sy'n aelod o Brifysgol Abertawe), neu gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr, i gyfarfod y Pwyllgor, a/neu caiff ei gynrychioli. Bydd gan y myfyriwr hawl i glywed yr holl dystiolaeth, i gael cynrychiolydd i siarad ar ei ran, i alw ar dystion a’u holi, ac i dynnu sylw’r Panel at dystiolaeth arall a gyflwynwyd erbyn y terfyn amser a bennwyd. Hyd yn oed os caiff myfyriwr ei gynrychioli yng nghyfarfod y Pwyllgor, bydd y Panel am glywed yn uniongyrchol gan y myfyriwr, yn ei eiriau ei hun, a bydd yn mynnu mai'r myfyriwr (ac nid ei gynrychiolydd) sy'n ateb cwestiynau.

8.9

Bydd myfyriwr sy’n bwriadu dod â rhywun i'r cyfarfod neu gael ei gynrychioli’n hysbysu'r Ysgrifennydd ymlaen llaw yn ysgrifenedig am enw’r person a fydd yn dod i'r cyfarfod gyda'r myfyriwr a/neu yn ei gynrychioli a bydd yn nodi a oes cymwysterau cyfreithiol gan y person hwnnw. Os bydd myfyriwr yn bwriadu cael ei gynrychioli gan gyfreithiwr yng nghyfarfod y Pwyllgor, rhaid iddo roi rhybudd i'r Ysgrifennydd heb fod yn llai na 3 wythnos cyn dyddiad cyfarfod y Pwyllgor, gan y byddai'r Coleg yn disgwyl cael digon o amser i benodi ei gynrychiolydd cyfreithiol ei hun (os yw'n dymuno) ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor. Ni fydd gan y Coleg gynrychiolydd cyfreithiol yn y cyfarfod os nad oes cynrychiolydd cyfreithiol gan y myfyriwr.

8.10

Bydd gan y myfyriwr hawl i ddod â chyfieithydd os nad Cymraeg na Saesneg yw ei iaith gyntaf. Y myfyriwr sy’n gyfrifol am drefnu cyfieithydd os oes angen, a’r myfyriwr sy’n gyfrifol am dalu ei ffioedd. Bydd y myfyriwr yn hysbysu’r Ysgrifennydd am enw’r cyfieithydd cyn y cyfarfod.

8.11

Gallai myfyriwr ddewis bod gwrandawiad y Pwyllgor Ymchwilio'n cael ei gynnal yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd myfyrwyr sy’n dymuno i'r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg yn hysbysu'r Ysgrifennydd, ar adeg derbyn hysbysiad am ddyddiad y gwrandawiad, er mwyn i Swyddfa Iaith Gymraeg y Brifysgol drefnu gwasanaeth cyfieithu. Bydd y gwasanaeth hwnnw’n cael ei ddarparu’n rhad ac am ddim i’r myfyriwr.

8.12

Os na fydd myfyriwr yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio heb esboniad rhesymol, ar ôl nodi i’r Ysgrifennydd yn flaenorol y byddai’n dod, ac os cymerwyd pob cam rhesymol i gysylltu â’r myfyriwr, bydd y cyfarfod yn bwrw yn ei flaen yn ei absenoldeb. Y Cadeirydd fydd yn penderfynu, yn ei ddoethineb, beth yw 'esboniad rhesymol'.

8.13

Os bydd unrhyw dyst ar ran y naill ochr neu'r llall yn methu dod i gyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio, bydd gan y Cadeirydd hawl i benderfynu, yn ei ddoethineb, a ddylid gohirio cyfarfod y Pwyllgor.

8.14

Caiff y Pwyllgor dderbyn datganiad ysgrifenedig tyst ymlaen llaw yn dystiolaeth os bydd y ddwy ochr yn cytuno nad oes angen i'r tyst fynychu'r cyfarfod, neu os bydd yn anymarferol i'r tyst fynychu'r cyfarfod, neu os, ym marn y Cadeirydd, bydd er lles cyfiawnder i'w dderbyn.

8.15

Cyn neu yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio, caiff y Panel ofyn i ymholiadau eraill gael eu cynnal, a chaiff alw ar dystion ychwanegol. Caiff ohirio'r cyfarfod os bydd o'r farn bod gweithredu felly er lles cyfiawnder.

8.16

Os bydd dau neu fwy o fyfyrwyr yn ymwneud ag achosion perthynol, caiff y Pwyllgor, yn noethineb y Cadeirydd, ymdrin â'r achosion gyda'i gilydd.

8.17

Caiff Cadeirydd y Pwyllgor osod terfyn amser ar gyflwyniadau llafar neu ar holi tystion.

8.18

Bydd yr Ysgrifennydd yn trefnu i gofnod ysgrifenedig a/neu gofnod sain o'r cyfarfod gael ei gadw. Ni chaniateir defnyddio unrhyw beiriant arall i recordio sain neu ddelweddau.

8.19

Atgoffir myfyrwyr bod cadw mewn cysylltiad â’r Brifysgol er eu lles nhw. Os nad yw’r myfyriwr yn ymateb i ohebiaeth, neu os bydd yn gofyn am ohirio cyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio ar fwy nag un achlysur, bydd y Brifysgol yn cynnal y cyfarfod yn absenoldeb y myfyriwr ar yr amod y gwnaed pob ymdrech resymol i gysylltu â’r myfyriwr a/neu ddarparu ar ei gyfer.

9.    Swyddogaethau’r Pwyllgor

9.1

Bydd swyddogaethau’r Pwyllgor Ymchwilio fel a ganlyn:

  • Ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo;
  • Lle bo'n berthnasol, penderfynu a ddigwyddodd unrhyw un o'r digwyddiadau honedig;
  • Penderfynu, ar sail unrhyw ddigwyddiadau y penderfynir eu bod wedi digwydd, neu unrhyw bryderon ynghylch iechyd, a brofwyd yr honiad bod y myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer;
  • Pennu, os yw'n briodol, y canlyniad neu’r gosb i’w gosod.

10.  Y Drefn yn Ystod Cyfarfod y Pwyllgor

10.1

Cynhelir cyfarfod y Pwyllgor ar ffurf pwyllgor ffurfiol, ac nid ar ffurf gwrandawiad lled-gyfreithiol. Ni fydd rheolau tynn tystiolaeth yn rhwymo'r Pwyllgor. Yn amodol ar weithdrefnau a amlinellir isod, bydd proses cyfarfod y Pwyllgor yn ôl doethineb Ysgrifennydd a Chadeirydd y Pwyllgor.

10.2

Os bydd dau neu fwy o fyfyrwyr yn ymwneud ag achosion perthynol, caiff y Pwyllgor, yn noethineb yr Ysgrifennydd/Cadeirydd, ymdrin â'r achosion gyda'i gilydd.

10.3

Caiff yr achos yn erbyn y myfyriwr ei gyflwyno gan aelod o staff Coleg y myfyriwr neu gynrychiolydd ar ei ran (a chyfeirir at yr unigolyn hwn, o hyn allan, fel 'Cyflwynydd y Coleg'). 

10.4

Bydd Cyflwynydd y Coleg yn cyflwyno’r achos, gan alw tystion a chan gyflwyno tystiolaeth, fel y gwêl yn dda. Caiff holi'r myfyriwr a’r tystion. Ar ôl cyflwyno’r achos, bydd y myfyriwr yn cyflwyno ei ymateb gan alw ar dystion a chyflwyno tystiolaeth fel y gwêl yn addas.

10.5

Ni chaiff tystion ymwneud ond â’r dystiolaeth sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r achos ac fel rheol, byddant yn cilio ar ôl rhoi eu tystiolaeth. Fel arfer, byddant yn dod i'r cyfarfod i roi eu tystiolaeth yn unigol. Felly, ni all tyst fynychu fel tyst yn ogystal â fel cynrychiolydd. Efallai y bydd Cadeirydd y Panel yn dymuno caniatáu i dystion aros yn y gwrandawiad trwy gydol y trafodaethau os bydd y ddwy ochr yn cytuno ar hynny ymlaen llaw neu os bydd y Cadeirydd o'r farn ei bod yn berthnasol i'r achos i dyst aros yn y gwrandawiad.

10.6

Pan fydd y gwaith o gyflwyno tystiolaeth a holi tystion wedi’i gwblhau, bydd pob person, ar wahân i aelodau’r Pwyllgor ac Ysgrifennydd y Pwyllgor, yn cilio.

10.7

Wedyn, bydd Panel y Pwyllgor Ymchwilio’n ystyried a yw’r achos wedi’i brofi. Saif baich y prawf (y ddyletswydd i brofi’r cyhuddiad) gyda’r Brifysgol. Dylai safon y prawf fod ar “gydbwysedd y tebygolrwydd”; sefydlir ffaith os yw’n fwy tebygol o fod wedi digwydd na pheidio.

10.8

Os daw'r Panel i'r casgliad fod yr achos wedi'i brofi, caniateir i'r ddwy ochr wneud sylwadau ynghylch y canlyniad a chyflwyno gwybodaeth am unrhyw amgylchiadau esgusodol, cyn i'r Panel benderfynu ar gosb neu ganlyniad addas.

11.   Y Canlyniadau sydd ar gael i’r Pwyllgor Ymchwilio

11.1

Fel rheol, ni chaiff Panel y Pwyllgor ei hysbysu, cyn penderfynu ar yr honiadau/pryderon dan sylw, am unrhyw dystiolaeth o ganfyddiadau a gadarnhawyd yn flaenorol sy’n ymwneud ag addasrwydd y myfyriwr i ymarfer. Ond dylid hysbysu'r Panel am hynny cyn pennu’r gosb neu'r canlyniad. Fodd bynnag, gallai tystiolaeth o ganfyddiadau a gadarnhawyd yn flaenorol sy’n ymwneud ag addasrwydd y myfyriwr i ymarfer gael eu datgelu cyn i'r Panel benderfynu a yw'r myfyriwr yn anaddas i ymarfer lle mae’r dystiolaeth honno’n gwrthbrofi honiad o gymeriad da blaenorol a wnaed gan y myfyriwr.

11.2

Mae cadarnhau cyhuddiad bod myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer yn bwrw amheuaeth ddifrifol ar addasrwydd myfyriwr i ymarfer yn broffesiynol. Felly, dylai’r Pwyllgor Ymchwilio ystyried yn gwbl ddifrifol argymhelliad y Coleg o ran p’un a ganiateir i'r myfyriwr, ym marn y Coleg, barhau i astudio ar y cynllun gradd ac yn dilyn hynny i gymhwyso am y proffesiwn y mae’n dyheu ei ymarfer.

11.3

Os bydd Panel y Pwyllgor yn dod i'r casgliad nad yw'r honiad bod y myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer wedi'i brofi, rhaid i'r Pwyllgor wrthod yr achos a naill ai peidio â chymryd unrhyw gamau pellach yn erbyn y myfyriwr neu roi rhybudd ffurfiol i’r myfyriwr lle canfuwyd y bu gwahaniaeth sylweddol rhwng ymddygiad y myfyriwr a'r safonau disgwyliedig (ceir gwybodaeth am rhybuddion ffurfiol yn Atodiad 2).

11.4

Os bydd Panel y Pwyllgor yn dod i gasgliad y profwyd yr honiad bod y myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer, bydd yn ystyried y camau gweithredu priodol i'w cymryd, ar ôl i’r myfyriwr ac enwebai’r Coleg gael cyfle i wneud sylwadau ynghylch hyn. Wrth ystyried y camau i'w cymryd, bydd y Panel yn rhoi sylw i unrhyw ffactorau gwaethygu neu liniarol ac bydd yn cofio'r cydbwysedd rhwng diogelwch cleifion/defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd, buddiannau’r myfyriwr, a’r angen i gynnal ymddiriedaeth yn y proffesiwn. Diben cosbau yw amddiffyn cleifion a'r cyhoedd, cynnal ymddiriedaeth yn y proffesiwn a sicrhau y cymerir camau effeithiol ynghylch myfyriwr sy'n anaddas i ymarfer, yn hytrach na chosbi'r myfyriwr.

11.5

Wrth ystyried y camau i'w cymryd, dylai’r Panel ystyried y dewisiadau sydd ar gael, gan ddechrau gyda’r un lleiaf difrifol a symud ymlaen i’r un nesaf os yw’n fodlon nad yw’r canlyniad neu'r gosb yn ddigonol dan amgylchiadau’r achos.

12.   Pan brofir yr honiad bod Myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer

12.1

Lle profwyd yr honiad bod y myfyriwr yn anaddas i ymarfer, nid yw'n briodol fel arfer i Banel y Pwyllgor beidio â gweithredu ymhellach (peidio â rhoi cosb) neu gyflwyno rhybudd ffurfiol. Gall Panel y Pwyllgor:

(1) Mynnu bod y myfyriwr yn darparu Ymrwymiad(au), sef cytundeb ysgrifenedig gan y myfyriwr i'r Pwyllgor na fydd yn ymddwyn mewn modd penodol yn y dyfodol, neu y bydd yn cymryd camau gweithredu penodol (gweler Atodiad 2 am fanylion).

(2) Gosod un neu fwy o Gosbau. Gan ddechrau gyda'r un lleiaf difrifol, y cosbau posibl yw:

              (i) Amodau;

              (ii) Ataliad (gan gynnwys Ataliad Rhannol) o'r rhaglen;

              (iii) Diarddel y myfyriwr o'r Brifysgol.

              Ceir manylion am y cosbau hyn yn Atodiad 2.

(3) Lle mae Panel y Pwyllgor yn penderfynu bod y canlyniadau/cosbau uchod yn amhriodol, bydd ganddo hawl i benderfynu ar unrhyw ganlyniad(au) neu gosb(au) amgen neu wahanol y mae’n tybio ei fod yn briodol dan amgylchiadau’r achos.

(4) Gosod unrhyw gyfuniad o’r canlyniadau neu'r cosbau uchod lle mae’n ystyried bod hyn yn briodol dan amgylchiadau’r achos (er enghraifft atal y myfyriwr gydag amodau am gyfnod yr ataliad ac yn dilyn dychweliad y myfyriwr i’r rhaglen).

12.2

Os daw Panel y Pwyllgor i'r casgliad bod y myfyriwr yn anaddas i ymarfer, bydd Pennaeth y Coleg (neu ei enwebai) fel arfer dan rwymedigaeth i hysbysu'r corff neu'r cyrff proffesiynol a rheoleiddiol am ganlyniad y Pwyllgor ac i gyfeirio at y canlyniad mewn unrhyw lythyr cymeradwyaeth at gorff proffesiynol neu mewn unrhyw eirda. Caiff Pennaeth y Coleg neu ei enwebai hysbysu darparwr lleoliad a/neu gyflogwr y myfyriwr am y canlyniad hefyd.

12.3

Mewn rhai achosion, gallai’r corff neu'r cyrff proffesiynol perthnasol benderfynu gwneud eu penderfyniad annibynnol eu hun. Er enghraifft, hyd yn oed os bydd y Pwyllgor Ymchwilio'n gwrthod yr achos, gall corff proffesiynol perthnasol benderfynu bod y penderfyniad hwnnw’n anghywir, a dadgofrestru neu wrthod cofrestru’r myfyriwr. Dan amgylchiadau felly, ni fydd y myfyriwr yn gallu cwblhau’r cymhwyster proffesiynol.

12.4

Os bydd y myfyriwr yn methu cydymffurfio ag unrhyw ganlyniad a bennwyd gan Banel y Pwyllgor o fewn unrhyw amserlenni a bennwyd gan Banel y Pwyllgor, gellir gofyn i Banel y Pwyllgor (neu Banel Pwyllgor newydd) ailystyried y camau i'w cymryd. Fel arall, gellir ystyried bod y diffyg cydymffurfio â'r canlyniad  yn gamymddygiad digon cyfrifol i'w gyfeirio at sylw ymchwiliad newydd i addasrwydd i ymarfer.

13.   Camau i'w Cymryd yn Dilyn y Pwyllgor Ymchwilio

13.1

Bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor yn cadarnhau i'r myfyriwr yn ysgrifenedig, fel arfer o fewn 7 niwrnod gwaith ar ôl diwedd cyfarfod y Pwyllgor, a brofwyd yr honiad ai peidio, am unrhyw ganlyniad neu gosb, a bod gan y myfyriwr hawl i ofyn am adolygiad ffurfiol o'r penderfyniad yn unol â Gweithdrefnau Adolygiad Terfynol y Brifysgol. Ar ôl i adroddiad neu gofnodion cyfarfod y Pwyllgor gael eu llunio a'u cymeradwyo gan y Cadeirydd, darperir copi o benderfyniadau'r Panel a'r rhesymau drostynt i'r myfyriwr.

13.2

Os mai canfyddiad y Pwyllgor yw bod achos heb ei brofi, gall Cadeirydd y Pwyllgor Ymchwilio hysbysu'r myfyriwr am hyn ar lafar.

13.3

Os mai canfyddiad y Pwyllgor yw bod yr honiad wedi’i brofi, gall Cadeirydd y Pwyllgor Ymchwilio hysbysu'r myfyriwr ar lafar am hyn ac am y canlyniad neu'r gosb hefyd, ond ni fydd yn trafod penderfyniad y Panel â'r myfyriwr.

14.   Adolygiad Terfynol o Benderfyniadau a Wnaed gan y Pwyllgor Ymchwilio

Caiff myfyrwyr sy’n anfodlon ar benderfyniad y Pwyllgor Ymchwilio Addasrwydd i Ymarfer ofyn yn ysgrifenedig am adolygiad terfynol o'r penderfyniad trwy gyflwyno ffurflen cais am Adolygiad Terfynol i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd ymhen 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y penderfyniad.

I gael gwybodaeth am sut i gyflwyno cais am adolygiad terfynol a'r seiliau perthnasol am y fath adolygiad, gweler Gweithdrefn Adolygiad Terfynol Prifysgol Abertawe.

15.  Adrodd, Monitro, Gwerthuso ac Adolygu

15.1

Bydd Gwasanaethau Academaidd yn cyflwyno adroddiad am wybodaeth ystadegol bob blwyddyn ynghylch achosion Addasrwydd i Ymarfer i'r Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd. Cyfrifoldeb y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd yw monitro'r data a gwneud argymhellion fel y bo'n briodol.

15.2

Cyfrifoldeb y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd hefyd yw adolygu'r Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer a'u heffeithiolrwydd a gwneud argymhellion o ran newidiadau, lle y bo'n briodol, i'w hystyried gan y Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd a'r Senedd.

Atodiadau