Darlun graffig o bobl yn defnyddio rhaglenni amrywiol o'r pecyn Office 365

Microsoft Office 365 am ddim

Gall yr holl aelodau staff a fyfyrwyr presennol lawrlwytho copïau am ddim o Microsoft Office 365 ar eich cyfrifiaduron personol a dyfeisiau symudol (ar hyd at 5 dyfais).

Mae manteision Microsoft Office 365 yn cynnwys:

  • Fersiwn lawn Office ProPlus ar gyfer cyfrifiadur personol neu Mac sy'n cynnwys Word, Excel, PowerPoint, OneNote ayyb.
  • Gallwch osod ar hyd at 5 dyfais bersonol gytûn, gan gynnwys cyfrifiadur, Mac, a dyfeisiau symudol megis ffonau a thabledi.
  • Defnyddio OneNote i drefnu'ch ffeiliau ac i gydweithredu ag eraill.
  • Cyd-drefnu ffeiliau'n awtomatig ar draws eich dyfeisiau â OneDrive.
  • Fersiynau diweddaraf o gynnyrch Office yn cynnwys nodweddion newydd drwy ddiweddariadau rheolaidd.

Beth ddylwn ei wybod?

Bydd y meddalwedd yn ddilys drwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr neu staff ym Mhrifysgol Abertawe. Efallai y gofynnir i chi ei gadw'n weithredol trwy fewngofnodi yn achlysurol. Sylwer y byddwch yn lawrlwytho o Microsoft, nid o Brifysgol Abertawe.

Sut allaf gael Office 365?

I gael eich copi o Office 365 am ddim gallwch chi glicio ar y cyswllt isod, mewngofnodi a lawrlwytho:

Lawrlwytho Microsoft Office 365

Wrth fewngofnodi byddwch chi’n gweld apiau Office. Mae’r rhain yn fersiynau ar‑lein o’r meddalwedd a gallwch chi eu defnyddio er mwyn darllen neu fân olygu eich ffeiliau. Fodd bynnag, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n lawrlwytho’r fersiwn bwrdd gwaith lawn.

Ar ôl i chi fewngofnodi:

  • Cliciwch ar Gosod Office ar gornel frig ochr dde y sgrîn.

    Sgrinlun o'r botwm Gosod Office

  • Cliciwch ar Apiau Office 365

    Sgrinlun o gwymplen sy'n dangos yr opsiynau 'Apiau Office 365' a 'Dewisiadau gosod eraill.' Mae'r opsiwn 'Apiau Office 365' wedi'i dethol.
  • Yna, rhedwch y ffeil a lawrlwythwyd.

  • Os bydd angen i chi osod fersiwn 32-did o’r meddalwedd, cliciwch ar Dewisiadau gosod eraill

    Sgrinlun o gwymplen sy'n dangos yr opsiynau 'Apiau Office 365' a 'Dewisiadau gosod eraill.' Mae'r opsiwn 'Dewisiadau gosod eraill' wedi'i dethol.

  • Ar y tab 'My Account', yn 'Office apps & devices', cliciwch ar 'View apps & devices'

    Sgrinlun o'r sgrîn 'Office Apps and Devices' sy'n dangos yr opsiwn 'View Apps and Devices.'

  • Dewiswch y fersiwn 32-did a chliciwch ar Install Office

    Sgrinlun o'r tudalen 'Apiau a Dyfeisiau' sy'n dangos opsiynau gosod Office gan gynnwys dwy gwymplen gyda'r penawdau 'Iaith' a 'Fersiwn'. Mae'r opsiwn '32-did' wedi'i dethol ar y gwymplen 'Fersiwn'. Dangosir y botwm Gosod Office i'r dde o'r cwymplenni.

 

Meddalwedd Arall

Mae meddalwedd arall ar gael hefyd, megis MatLab i Fyfyrwyr. Dysgwch ragor yma am y feddalwedd sydd ar gael i fyfyrwyr a staff.