Dysgwch mwy am y meddalwedd sydd ar gael am ddim i staff a myfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe.

logo Office 365

Mae gan holl fyfyrwyr cofrestredig a staff presennol Prifysgol Abertawe hawl i lawrlwytho copïau am ddim o Microsoft Office 365 i'w gosod ar eu cyfrifiaduron personol neu ddyfeisiau symudol eu hunain.

Bydd y meddalwedd yn ddilys drwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr neu aelod staff ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r meddalwedd ar gael ar gyfer defnyddwyr Windows a Mac, a gellir ei osod ar hyd at bum dyfais.

Gellir lawrlwytho Microsoft Office 365 o'r dudalen hon.

Y Bwrdd Gwaith Unedig/Zenworks

Bwrdd gwaith unedig Prifysgol Abertawe

Mae gan staff a myfyrwyr presennol fynediad at ystod o feddalwedd drwy'r Bwrdd Gwaith Unedig/Zenworks. 

Gellir cael mynediad i'r bwrdd gwaith unedig/Zenworks drwy gyfrifiadur personol ar rwydwaith Prifysgol Abertawe neu liniadur staff yn unig. Bydd yn llwytho pan fyddwch yn mewngofnodi neu gellir chwilio drwy'r ddewislen Cychwyn. Mae nifer o gynhyrchion technoleg gynorthwyol ar gael drwy'r bwrdd gwaith unedig hefyd.

Meddalwedd arall sydd ar gael i fyfyrwyr

Meddalwedd arall ar gael i'w lawrlwytho:

Sylwer: rydyn ni’n argymell defnyddio porwr Firefox neu Chrome i osod meddalwedd sy’n ymddangos ar y dudalen hon.