CYMORTH I ORESGYN CALEDI
Sylwch NAD yw dyfarniadau o'r gronfa wedi'u gwarantu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â hardshipfunds@swansea.ac.uk
Ddim yn siŵr a allwch chi wneud cais? Gweler ein canllawiau cyflym isod:
I fod yn gymwys, rhaid eich bod:
- Wedi cofrestru ar gwrs amser llawn neu ran-amser (ni all myfyrwyr allanol gyflwyno cais).
- Yn fyfyriwr cartref neu’n fyfyriwr o’r UE â statws ffioedd cartref
- Gall myfyrwyr cymwys o’r DU neu’r UE sydd wedi gohirio eu hastudiaethau wneud cais i’r gronfa galedi ar yr amod’ iddynt fod yn gofrestredig yn y flwyddyn academaidd bresennol cyn gohirio eu hastudiaethau
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, ewch at ein tudalen we Cronfa Argyfwng Myfyrwyr Rhyngwladol
Beth yw ystyr bod mewn caledi ariannol?
Wrth asesu ceisiadau byddwn yn ystyried a ydy myfyriwr yn methu talu ei gostau presennol a hanfodol oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Mae disgwyl i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu ceisiadau.
Enghreifftiau o bryd na ddylech chi wneud cais.
- Nid ydych chi wedi manteisio ar yr HOLL gyllid statudol y mae gennych hawl iddo
- Gallwch dalu eich costau uniongyrchol a hanfodol
- Mae arian ar gael i chi mewn cyfrifon cynilo megis ISAs neu Gymorth i Brynu
- Nid ydych chi wedi defnyddio gorddrafft a drefnwyd – dylai cais i’r gronfa fod yn opsiwn olaf
- Talu tuag at ffioedd dysgu – nid dyna ddiben y gronfa
- Ni wnaethoch chi gynllun ariannol rhesymol i dalu eich costau cyn dechrau eich cwrs
- Yn anffodus, ni allwn helpu tuag at gost therapi neu gwnsela preifat. Dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Lles
Os oes gennych ymholiadau eraill ynghylch gwneud cais, e-bostiwch hardshipfunds@abertawe.ac.uk
Rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost myfyriwr wrth gysylltu ag unrhyw gyfeiriad e-bost neu staff Arian@BywydCampws.
Beth sydd ar gael?
Mae gennym dri chais* ar gael i chi, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
- Grant Cymorth Tymor Byr. Proses ymgeisio fyrrach yw hon i bobl y mae angen swm cyfyngedig o gymorth ariannol arnynt. Uchafswm dyfarniadau o'r gronfa hon fydd £500 neu £800 os oes gennych ddibynyddion. Gallwch gyflwyno cais i'r gronfa hon unwaith y flwyddyn academaidd yn unig. Caiff unrhyw geisiadau pellach eu dileu, ac fe'ch cynghorir i wneud cais am Ddyfarniad Cyfle Prifysgol Abertawe er mwyn i ni ystyried eich amgylchiadau yn fanwl. Sylwer, bydd hyn yn berthnasol hyd yn oed os cafodd eich cais cyntaf ei wrthod.
- Dyfarniad o Gronfa Cyfle Prifysgol Abertawe. Mae'r broses ymgeisio hon yn ein galluogi ni i ddeall eich sefyllfa ariannol gyffredinol yn well drwy asesiad mwy manwl. Nid oes uchafswm ond sylwer nad yw gwneud cais am Ddyfarniad o Gronfa Cyfle Prifysgol Abertawe yn gwarantu swm mwy na’r hyn sydd ar gael gan y Grant Cymorth Tymor Byr.
-Cymorth gyda Phrawf Diagnostig. Dyfarniad cyfyngedig yw hwn ar gyfer cost Asesu Diagnostig am Anghenion Dysgu Penodol mewn achosion o galedi ariannol yn unig. Argymhellir bod myfyrwyr yn cysylltu â hardshipfunds@abertawe.ac.uk cyn cyflwyno cais.
Rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost myfyriwr wrth gysylltu ag unrhyw gyfeiriad e-bost neu staff Arian@BywydCampws.
*Bydd pob dolen yn mynd â chi i'r un dudalen. Rhaid i chi ddewis y broses ymgeisio gywir o gwymplen y 'Gronfa'.
Cwestiynau Cyffredin am Gronfeydd Caledi
Pryd caiff penderfyniad ei wneud ynghylch fy nghais?
Gall gymryd hyd at 15 o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad cyflwyno i asesiad cychwynnol gael ei wneud. Os oes angen i chi ddarparu rhagor o wybodaeth, bydd y penderfyniad terfynol ynghylch eich cais yn cymryd mwy o amser. Yn ystod cyfnodau prysur, gall gymryd mwy o amser i gwblhau’r asesiad. Mae'n bosibl y gall ceisiadau am yr ail dro gymryd hyd at 20 niwrnod gwaith fel ein bod yn gallu blaenoriaethu ymgeiswyr sy'n cyflwyno cais am y tro cyntaf.
Sut byddaf yn gwybod a ydw i wedi darparu digon o wybodaeth/tystiolaeth?
Os nad yw'r wybodaeth yn eich cais sydd ei hangen arnom i gwblhau asesiad, byddwch yn derbyn e-bost awtomataidd yn gofyn am ragor o wybodaeth o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno cais. Bydd gennych 5 niwrnod gwaith i lanlwytho'r dystiolaeth y gofynnwyd amdani ac ailgyflwyno'r cais. Ni wneir penderfyniad terfynol tan y bydd yr holl dystiolaeth ofynnol wedi'i darparu. Os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth ofynnol o fewn 5 niwrnod gwaith, mae'n bosibl y caiff eich cais ei ganslo.
Allaf gyflwyno cais i'r gronfa galedi i helpu tuag at gost fy llety?
Gallwch, gall ymgeiswyr nodi'r angen am gymorth tuag at gostau llety. Fodd bynnag, caiff yr holl geisiadau eu hasesu yn unol â'n meini prawf cyffredinol. Os asesir bod ymgeisydd yn gymwys i dderbyn dyfarniad o'r gronfa galedi, mae'n bosib y bydd yr aseswr yn cynghori'r myfyriwr i neilltuo ei ddyfarniad fel taliad at gostau llety.
Ydw i'n gallu gwneud cais i'r gronfa galedi am gymorth tuag at gostau atgyweirio offer megis gliniadur?
Ydych. Bydd dal angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn profi caledi ariannol ac efallai na fyddwch yn derbyn cost lawn yr atgyweiriadau. Os oes angen cymorth ar frys arnoch, mae'r llyfrgell yn cynnig cynllun benthyg gliniadur. Byddwn fel arfer yn eich cyfeirio at y Grant Cymorth Tymor Byr, ond os ydych eisoes wedi gwneud cais am y cymorth hwn yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd angen i chi gyflwyno cais am Ddyfarniad Cyfle Prifysgol Abertawe.
Rydw i yn fy mlwyddyn olaf, ydw i'n gallu ymgeisio beth bynnag?
Rhaid cyflwyno cais o leiaf 5 wythnos cyn dyddiad gorffen eich cwrs. Caiff pob cais ei asesu yng nghyd-destun y ffaith bod yr ymgeisydd yn nesáu at ddyddiad gorffen ei gwrs. Os ydy'ch dyddiad gorffen wedi ei estyn, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn cyn i ni allu parhau i asesu eich cais.
Mae'r cynnydd yng nghostau byw wedi effeithio ar fy ngallu i fforddio costau graddio - Gaf i gyflwyno cais?
Cewch gyflwyno cais i'r gronfa galedi am gymorth gyda chostau graddio. Mae hyn wedi'i gyfyngu i gostau uniongyrchol megis hurio gŵn a thocynnau seremoni. Gallwch gyflwyno cais yn eich blwyddyn olaf ond rhaid gwneud hynny 5 wythnos cyn dyddiad gorffen eich cwrs er mwyn cymhwyso i gael eich asesu.
Sylwer, NI ellir gwarantu y byddwch yn derbyn dyfarniad o'r gronfa galedi.