COFIWCH y canlynol...

Green tick
  • Cyrhaeddwch y lleoliad mewn da bryd cyn dechrau'r arholiad.
  • Rhowch eich cerdyn adnabod ar y ddesg. Dylai bod modd gweld hwn yn hawdd a dylai fod â'i wyneb i fyny
  • Gwiriwch ddalen flaen y papur arholiad i sicrhau eich bod yn sefyll yr arholiad cywir
  • Ysgrifennwch yn glir yn Saesneg (oni nodir y dylech ddefnyddio iaith arall ar gyfer yr arholiad)
  • Gwnewch eich holl waith drafftio yn y llyfrynnau a ddarperir a rhowch groes trwyddo os nad ydych am i'r gwaith drafftio gael ei farcio
  • Codwch eich llaw ac aros am oruchwylydd os oes gennych ymholiad, os ydych yn teimlo'n dost, os ydych am fynd i’r tŷ bach neu os oes angen rhagor o ddeunydd ysgrifennu arnoch
  • Os penderfynwch adael eich arholiad yn gynnar (ar ôl 45 munud a chyn y 15 munud olaf yn unig) mae'n rhaid i chi sicrhau eich  bod wedi cwblhau'r holl fanylion angenrheidiol ar y llyfr atebion.  Codwch eich llaw ac aros nes y bydd goruchwylydd wedi casglu'ch llyfr atebion. Rhaid i chi adael lleoliad yr arholiad yn dawel a chofiwch fynd â'ch eiddo personol gyda chi
  • Sicrhewch fod eich manylion wedi'u cwblhau ar eich llyfr atebion
  • Arhoswch wrth eich desg tan y bydd goruchwylydd wedi casglu'ch papur atebion a'ch bod wedi cael caniatâd i adael
  • Gadewch leoliad yr arholiad yn gyflym ac yn dawel a chofiwch fynd â'ch eiddo personol gyda chi. 

PEIDIWCH Â...

Red cross
  • Dod ag unrhyw nodiadau/deunydd anawdurdodedig gyda chi
  • Ceisio cyfathrebu ag unrhyw un yn lleoliad yr arholiad, heblaw am y goruchwylydd
  • Agor y papur cwestiynau tan y cewch ganiatâd i wneud hynny. Cewch ddarllen y clawr i sicrhau eich bod yn sefyll y papur arholiad cywir.
  • Dod ag UNRHYW ddyfeisiau electronig i mewn i'r lleoliad, hyd yn oed yn eich pocedi
  • Dod ag unrhyw fwyd i mewn i leoliad yr arholiad
  • Mynd i mewn i'r lleoliad os bu'r arholiad ymlaen am 30 munud (e.e. os ydych yn hwyr am yr arholiad)
  • Gadael y lleoliad hyd nes y bu'r arholiad ymlaen am 45 munud neu'n ystod y 15 munud olaf (gan gynnwys mynd i'r tŷ bach)
  • Tarfu ar fyfyrwyr eraill sy'n dal i fod yn gweithio. 
  • Achosi unrhyw fath o aflonyddwch
  • Parhau i ysgrifennu ar ôl i'r arholiad orffen
  • Mynd â'r papur arholiad neu unrhyw lyfrau atebion sydd wedi'u defnyddio/heb eu defnyddio i ffwrdd o'r lleoliad
  • Siarad nes y byddwch y tu allan i leoliad yr arholiad

Absenoldeb o Arholiad

Cyn arholiad...

Mae'r Brifysgol yn cydnabod weithiau na fyddwch yn gallu sefyll arholiad am resymau y tu hwnt i'ch rheolaeth, megis salwch, damwain neu brofedigaeth. Fe'ch cynghorir i roi gwybod i’r Brifysgol cyn gynted ag y bo modd os cewch eich rhwystro rhag sefyll arholiad, er mwyn cyflwyno cais am ohirio'r arholiad hwnnw. Bydd angen i chi gefnogi'ch cais gyda thystiolaeth o'ch amgylchiadau, gan ddilyn y gweithdrefnau a amlinellir yn y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol.

Yn ystod arholiad...

Os byddwch yn dechrau arholiad ond na allwch ei orffen oherwydd salwch neu amgylchiadau eraill, fe'ch cynghorir i roi gwybod i oruchwylydd ar unwaith a chyn i chi adael lleoliad yr arholiad. Yna dylech gael tystiolaeth ategol (e.e. tystysgrif feddygol) a dilyn y cyfarwyddiadau yn y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol

Tywydd Garw

Os bydd y Brifysgol ar gau yn ystod cyfnodau arholi oherwydd tywydd garw, caiff arholiadau eu canslo. Mae'r Brifysgol wedi ychwanegu diwrnodau wrth gefn at gyfnod asesu mis Ionawr rhag ofn y bydd hyn yn digwydd.  Rhoddir gwybod am unrhyw ohiriadau arholiadau ar wefan y Brifysgol, eich cyfrif mewnrwyd myfyriwr, cyfryngau cymdeithasol (Facebook/Twitter), Blackboard a newyddion lleol/radio.

Os bydd y Brifysgol yn parhau i fod ar agor, bydd arholiadau'n para fel arfer. Os cewch eich effeithio'n bersonol gan dywydd garw, fe'ch cynghorir i roi gwybod i'r Brifysgol yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol.

Rhagor o wybodaeth am Argymhellion Tywydd Garw

Amgylchiadau Esgusodol

Diffiniad amgylchiadau esgusodol yw problemau neu ddigwyddiadau difrifol sydd y tu hwnt i'ch gallu i'w rheoli neu eu rhagweld, a allai effeithio ar eich perfformiad neu'ch gallu i fynychu, i gwblhau neu i gyflwyno asesiad yn brydlon.

Os ydych wedi'ch effeithio gan amgylchiadau esgusodol cyn arholiad i’r fath raddau bod yr amgylchiadau hynny’n debygol o effeithio'n sylweddol ar eich perfformiad, mae'n bosibl y byddwch yn dymuno ystyried gohirio sefyll yr arholiad tan ddyddiad arall. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch Coleg i wneud cais i ohirio ar ôl yr arholiad. Rhaid gwneud hyn cyn yr arholiad neu o fewn 5 niwrnod gwaith i'r arholiad gael ei gynnal. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ategol gyda'ch cais.

Os byddwch yn mynd yn sâl yn ystod arholiad RHAID i chi roi gwybod i'r Prif Oruchwylydd naill ai yn ystod neu'n syth ar ôl yr arholiad a CHYN gadael lleoliad yr arholiad. Yna dylech gyflwyno amgylchiadau esgusodol i'ch Coleg Cartref o fewn 5 NIWRNOD GWAITH i'r arholiad a gafodd ei effeithio gael ei gynnal.

Am ragor o wybodaeth gweler yr adran ynghylch arholiadau yn y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol.