GWYBODAETH

Os yw bwrdd arholi wedi cynnig cyfle i chi gofrestru fel myfyriwr allanol (edrychwch ar y penderfyniad ar ddilyniant yn eich cofnod myfyriwr), bydd rhaid i chi gwblhau'r broses gofrestru i ymgeiswyr allanol.

Nid oes angen i fyfyrwyr ar y cwrs Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer y Gyfraith (LPC) gwblhau'r broses hon, ond bydd Ysgol y Gyfraith yn eu cofrestru'n awtomatig.

Dylai myfyrwyr ar raglenni nyrsio gysylltu y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd (assessment-medicinehealthlifescience@abertawe.ac.uk) fydd yn cadarnhau a oes angen iddynt gwblhau'r broses gofrestru i ymgeiswyr allanol.

Fel arfer, ni chaniateir i fyfyrwyr tramor â Fisa Llwybr Myfyrwyr gofrestru fel myfyriwr allanol oherwydd amodau a bennir gan Asiantaeth Ffiniau'r DU. Os ydych yn fyfyriwr tramor sy'n ymgymryd ag asesiadau ar y campws ac os oes rhaid i chi gofrestru fel myfyriwr allanol, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr (studentcompliance@abertawe.ac.uk), a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar wneud cais am fisa Ymwelwyr Safonol.

Y BROSES GOFRESTRU

Mae'r broses gofrestru i ymgeiswyr allanol fel a ganlyn:

  1. Mae'n rhaid i fyfyrwyr gwblhau eu hadran ar y Ffurflen Gofrestru Ymgeiswyr Allanol.
  2. Yna, bydd rhaid iddynt gyflwyno'r ffurflen i'w Cyfadran/Ysgol, y bydd angen iddi gymeradwyo'r cais i gofrestru fel ymgeisydd allanol.
  3. Os caiff y ffurflen ei chymeradwyo, bydd y myfyriwr neu ei Gyfadran/Ysgol yn ei hanfon ymlaen at MyUniHub myunihub@abertawe.ac.uk.
  4. Yna, bydd yn anfon e-bost at y myfyriwr i gadarnhau cyfanswm y ffi a gofyn iddo dalu'r ffi. Nid oes angen i fyfyrwyr gysylltu â ni cyn yr adeg hon gan y byddwn yn cysylltu â nhw'n uniongyrchol pan fydd y ffurflen gofrestru wedi cael ei chymeradwyo.
  5. Gellir talu'r ffioedd drwy'r adran “trafodion ariannol” ym mhroffil mewnrwyd y myfyrwyr neu drwy MyUniHub yn uniongyrchol drwy ffonio +44 (0)1792 606000. Os byddant yn talu drwy broffil ar fewnrwyd y myfyrwyr, byddwn ni'n gofyn iddynt gadarnhau hynny drwy anfon e-bost i myunihub@abertawe.ac.uk cyn gynted â phosib er mwyn peidio ag arafu'r broses gofrestru.
  6. Ar ôl i fyfyrwyr gwblhau eu taliad, bydd MyUniHub yn gofyn i'r gwasanaeth Cofnodion Myfyrwyr gwblhau'r broses o'u cofrestru fel ymgeisydd allanol. Yna, bydd myfyrwyr yn gallu gweld amserlen eu harholiadau drwy eu proffil ar y fewnrwyd.

Sylwer dylech chi ymgofrestru’n allanol cyn gynted â phosib. Rhaid eich bod wedi ymgofrestru fel myfyriwr allanol cyn eich asesiad allanol. 

Mae'r ffioedd cofrestru allanol ar gyfer sesiwn academaidd 2023/24 fel a ganlyn (mae hyn yn cynnwys arholiadau a gwaith cwrs neu asesiadau eraill).

Credydau102030405060708090100110120
Ffi i'w Thalu £75 £150 £225 £300 £375 £450 £525 £600 £675 £750 £825 £900