GWYBODAETH AR GYFER SESIWN MAI/MEHEFIN 2023

Mae dyddiadau'r prif gyfnod arholiadau atodol i'w gweld yn yr adran Dyddiadau Arholiadau.

Gall myfyrwyr gydag amgylchiadau esgusodol cymwys gyflwyno cais i’w Hysgol i ohirio asesiadau Semester 2 mis Mai/Mehefin.

Os caiff ei gymeradwyo, rhaid i fyfyrwyr sy’n gohirio asesiadau BA2 ymgymryd â’r asesiadau yn ystod cyfnod asesu atodol mis Awst 2023.

Cyhoeddir yr amserlen o leiaf bythefnos cyn dechrau'r cyfnod arholiadau atodol. Ni ellir newid yr amserlen ar gyfer gofynion unigol, rhwymedigaethau crefyddol neu wyliau.

Os oes gennych gwestiynau am eich arholiadau atodol, cysylltwch â'ch Ysgol/Coleg yn y lle cyntaf.

DARPARIAETHAU YCHWANEGOL

Os ydych wedi derbyn darpariaethau ychwanegol o'r blaen, darllenwch yr adran Cymorth ar gyfer eich Arholiadau.