Myfyrwyr y mae Angen Darpariaeth Ychwanegol Arnynt

Er mwyn i chi allu derbyn darpariaeth ychwanegol ar gyfer arholiadau, mae'n rhaid i  chi gysylltu â'r Gwasanaethau Lles ac Anabledd yn gyntaf i gael eich asesu.Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd darpariaeth ychwanegol ar gael i chi yn Abertawe hyd yn oed os oedd ar gael i chi yn yr ysgol neu gan eich darparwr addysg blaenorol

Ar hyn o bryd, rydym yn treialu system lle mae pobl yn optio allan o ddarpariaethau ychwanegol, a bydd y rhain ar gael yn awtomatig ar gyfer unrhyw arholiadau wyneb yn wyneb yr ydych yn eu sefyll yn ystod eich amser yn Abertawe, oni bai eich bod yn ein hysbysu fel arall. Yn dilyn eich asesiad gan y gwasanaeth Anabledd/Lles, byddwch yn derbyn e-bost sy’n cadarnhau manylion yr argymhellion ynghylch eich darpariaethau ychwanegol ar gyfer arholiadau, a gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer pob un o’r darpariaethau ychwanegol mewn arholiadau ar y safle.

Bydd cyfle hefyd i chi drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb os byddwch am drafod eich darpariaethau. Sylwch fod yn rhaid cynnal  unrhyw gyfarfod wyneb yn wyneb i drafod eich darpariaethau cyn hanner dydd ar y dyddiadau isod.

SesiwnDyddiadau
Ionawr 2024 Dydd Iau 7 Rhagfyr 2022
Mai/Mehefin 2024 Dydd Iau 18 Ebrill 2023
Awst Atodol Dydd Iau 25 Gorfennaf 2023

Rhaid i chi fynd i’r lleoliad ar gyfer darpariaethau ychwanegol a fanylir ar eich amserlen ar y fewnrwyd, gan na fydd sedd ar gael i chi mwyach yn y prif leoliad. Os oes darpariaethau nad ydych am eu defnyddio ar gyfer arholiadau ar y safle, neu os ydych am wrthod eich darpariaethau yn gyfan gwbl ac eistedd yn y prif leoliadau, rhowch wybod i ni.

Pan gaiff yr amserlen arholiadau personol ei chyhoeddi ar eich cyfrif mewnrwyd, bydd yn dangos y lleoliad ar gyfer arholiadau sydd â darpariaethau ychwanegol, ynghyd â manylion byr trefniadau eich darpariaeth. Sylwer, ni fydd hyd yr arholiad a nodir ar eich amserlen yn cynnwys  amser ychwanegol/seibiannau, ond bydd y goruchwylwyr yn ymwybodol o'ch hawliau.