TRAMGWYDDAU MEWN CYSYLLTIAD AG ARHOLIADAU

Tramgwyddau Mewn Cysylltiad ag Arholiadau

Mae tramgwydd, y cyfeirir ato'n aml fel 'arfer annheg' neu 'gamymddygiad academaidd', yn golygu unrhyw weithred lle rydych yn cael - neu'n ceisio cael - mantais nas caniateir, boed ar eich rhan eich hun neu ar ran rhywun arall.

Dyma rai enghreifftiau
  • Mynd ag eitemau nas caniateir i mewn i ystafell yr arholiad
  • Twyllo, ceisio twyllo neu helpu ymgeisydd arall i dwyllo
  • Esgus bod yn ymgeisydd arall mewn arholiad neu ganiatáu i rywun wneud yr un peth ar eich rhan chi
  • Bod ag ysgrifen ar ran o'ch corff neu ar eich dillad
  • Cyfathrebu neu geisio cyfathrebu ag ymgeiswyr eraill
  • Llên-ladrad, h.y. cyflwyno gwaith rhywun arall gan esgus mai chi yw'r awdur
  • Parhau i ysgrifennu ar ôl diwedd yr arholiad
  • Cyflwyno amgylchiadau esgusodol ffug