Caiff ffurflenni cais eu defnyddio'n eang, o fusnesau bach i frandiau byd-eang. Cyn dechrau cais, sicrhewch eich bod chi'n gwneud digon o ymchwil!

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n deall y rôl ac yn llunio eich cais ar sail y sgiliau sy'n ofynnol. Cwblhewch BOB adran. Rydym ni'n gwybod bod hyn yn swnio'n amlwg, ond gall fod yn rhwydd colli adran pan fydd sawl rhan i gwestiwn, er enghraifft. Darllenwch bob cwestiwn yn ofalus a chynnig enghreifftiau sy'n dangos eich gallu i wneud y swydd.

Os ydych chi'n cyflwyno cais am astudiaethau ôl-raddedig, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cais sy'n cynnwys datganiad personol. Dylech gynnwys enghreifftiau o sut mae eich astudiaethau israddedig ac unrhyw brofiad gwaith perthnasol wedi'ch helpu i baratoi am astudiaethau pellach. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys sut y bydd y cwrs ôl-raddedig yn eich helpu i gyflawni eich nodau gyrfaol.

Rhowch gynnig ar yr uned 'Ffurflenni cais a datganiadau personol' yn y Cwrs Datblygu Gyrfa am ragor o wybodaeth ac arweiniad.

Ble gallaf gael cymorth gyda ffurflenni cais?

Pan fyddwch chi wedi llenwi'r ffurflen gais, rydym ni yma i'ch helpu! Trefnwch apwyntiad gyrfaoedd  i gael adborth gan ein Hymgynghorwyr Gyrfaoedd cyn i chi gyflwyno eich cais.

Profion Seicometrig

Mae profion seicometrig yn cael eu defnyddio'n fwyfwy gan gyflogwyr i asesu gallu, agwedd a phersonoliaeth yn ogystal â'ch perfformiad mewn amrywiaeth o dasgau. Maent yn gyfle i ddangos eich sgiliau, gan gynnwys cyfathrebu, rheoli amser a gwaith tîm, yn ogystal â nodweddion personol megis ysgogiad.

Efallai y bydd gofyn i chi fynd i ganolfan asesu, neu weithiau gellir gwneud y rhain o bell. Bydd hyn yn dibynnu ar y cyflogwr unigol.

Gellir defnyddio profion seicometrig ar adegau gwahanol yn ystod y broses dethol graddedigion:

  • Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen gais ar-lein. Fel arfer, anfonir dolenni i'ch galluogi i sefyll profion ar-lein
  • Ochr yn ochr â chyfweliad cyntaf
  • Ar adeg ddiweddarach, o bosib ar y cyd ag ail gyfweliad neu fel rhan o ganolfan asesu. Gellir eich profi eto ar yr adeg hon er mwyn cadarnhau canlyniadau'r profion cynharach

Rhowch gynnig ar yr uned 'Llwyddo mewn profion seicometrig ar y Cwrs Datblygu Gyrfa am ragor o wybodaeth a chanllawiau.

Gall holl fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Abertawe* gyrchu ein hofferyn Proffilio ar gyfer Llwyddiant. Profion sgiliau rhesymu ar-lein a phecyn datblygiad personol.

*Rhaid i raddedigion Abertawe gofrestru ar gyfer y Rhaglen Cymorth i Raddedigion i gael mynediad.