Croeso i dudalen gymorth gyrfa myfyrwyr rhyngwladol Academi Cyflogadwyedd Abertawe!

Gwnaethom gasglu pob adnodd cyflogadwyedd i fyfyrwyr rhyngwladol mewn un lle i'ch helpu i feithrin eich sgiliau gyrfa yn hwylus ac yn hyderus.

Ceir llawer o adnoddau y gallwch eu defnyddio i feithrin eich sgiliau cyflogadwyedd a pharatoi ar gyfer dechrau yn y farchnad swyddi i raddedigion. Cymerwch un cam ar y tro a byddwch chi'n iawn! Fel myfyriwr rhyngwladol, mae gennych lawer i'w gynnig i gyflogwyr. Defnyddiwch yr adnoddau a manteisiwch ar gyfleoedd fel digwyddiadau a gweminarau i ddisgleirio ymhlith ymgeiswyr eraill.

Mae gennym adnoddau wedi'u teilwra i fyfyrwyr rhyngwladol fel Student Circus ac eCareersGrad, yn ogystal ag adnoddau eraill a fydd yn amhrisiadwy wrth feithrin eich sgiliau, fel ShortlistMe a Forage.

Dyma ein hargymhellion ar gyfer dy gamau nesaf i gynllunio dy yrfa.

Adnoddau ar-lein a fydd yn dy alluogi i gynllunio dy yrfa, meithrin dy sgiliau a dod o hyd i gyfogwyr sy’n awyddus i gyfogi myfyrwyr a graddedigion rhyngwladol.

Llwybrau a fisâu

Bydd gwybodaeth dda am dy fisa a dy lwybrau posibl i aros yn y DU i weithio yn dy alluogi i gael sgyrsiau effeithiol gyda chyfogwyr yn y dyfodol. Mae gan lawer o reolwyr sy’n recriwtio brofad o recriwtio’n rhyngwladol, ond bydd eraill yn dibynnu ar dy wybodaeth di am system fewnfudo’r DU i sicrhau’r opsiwn gorau i ti. Gwna’n siwˆr dy fod yn edrych ar wefan y llywodraeth i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am fisâu.

Bydd gan y rhan fwyaf o bobl y ddau opsiwn canlynol

UKCISA logo