Beth sy'n digwydd?

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA) yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau i’ch helpu chi i wneud cysylltiadau â chyflogwyr, ynghyd â chynnig hyfforddiant datblygu sgiliau, gweithdai a rhaglenni cyflogadwyedd.

O’n ffair yrfaoedd unigryw flynyddol i sesiynau sgiliau unigol a magu hyder a sesiynau galw heibio gyda chyflogwyr, mae rhywbeth at ddant pawb, waeth ble fyddant ar eu taith yrfa.

Caiff ein calendr llawn o ddigwyddiadau ei gynnal ar ein Parth Cyflogaeth. Bydd angen i fyfyrwyr fewngofnodi i gofrestru am ddigwyddiadau. Gall graddedigion Abertawe barhau i gyrchu’r Parth Cyflogaeth. Yr unig beth bydd angen i chi ei wneud fydd cofrestru am gyfrif cyn-fyfyriwr gan ddefnyddio eich e-bost personol.

*Os byddwch chi'n colli mynediad at eich cyfrif, e-bostiwch ni  employmentzone@abertawe.ac.uk i gael mynediad eto.

Pam dylwn ni ddod i ddigwyddiadau gyrfaoedd? Sut bydd yn fy helpu?

Trefnwyd ein calendr o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’ch helpu chi i archwilio eich opsiynau gyrfa, gan ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd, pontio i’r gweithle fel gweithiwr proffesiynol hyderus a chreu cysylltiadau â chyflogwyr.

Ffair Yrfaoedd

Mae ein ffair yrfaoedd unigryw flynyddol yn ffordd wych o archwilio amrywiaeth eang o sefydliadau sy’n awyddus i recriwtio myfyrwyr. Rhwydweithio a chreu cysylltiadau â chyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Gofyn cwestiynau a chael blas ar sut mae cyflogwyr yn recriwtio i rolau sydd o ddiddordeb i chi, mewn amgylchedd cefnogol.

Yn unol â’r calendr recriwtio i lawer o recriwtwyr graddedigion, cynhelir ein ffair yrfaoedd flynyddol ym mis Hydref bob blwyddyn.

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/2024, cynhelir ein Ffair Yrfaoedd ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Mawrth 17 Hydref - Campws Singleton

Dydd Mercher 18 Hydref - Campws y Bae

Tudalen gofrestru yn dod yn fuan!

 

Image of an employer talking to a student at the careers fair