Beth y gallwn ei wneud i chi
Angen help i ystyried dewisiadau gyrfa?
Mae ein gwasanaethau i fyfyrwyr yn cynnwys:
- Rhaglen o weithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd;
- Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol gymwysedig;
- Gwobr Gyflogadwyedd Abertawe (myfyrwyr presennol yn unig);
- Cymorth chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli;
- Mynediad at adnoddau gwybodaeth am ystod eang o bynciau rheoli gyrfa;
- Cyngor ac arweiniad ar astudio ac ariannu i fyfyrwyr ôl-raddedig.
Rydym hefyd yn darparu help a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl graddio.
Cysylltu â ni:
Gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:
- E-bostio careers@abertawe.ac.uk
- Gwelwch ein tudalen ar sesiynau galw heibio gydag ymgynghorydd gyrfaoedd
- Mynd i'n tudalen gwasanaethau i Raddedigion
Ein horiau gwasanaeth yw dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm.
Datganiad Gwasanaethau:
Nod y Datganiad Gwasanaethau yw rhoi gwybodaeth am yr ystod o wasanaethau a gynigiwn i'n cleientiaid, gan gynnwys myfyrwyr, cyflogwyr a staff academaidd:
Datganiad Gwasanaeth: Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe, 27/02/2018