Mae gradd ôl-raddedig yn gymhwyster lefel uwch a fydd yn datblygu eich gwybodaeth ymhellach mewn maes pwnc penodol. Fel arfer mae'n rhaid eich bod wedi cwblhau gradd israddedig cyn y gallwch barhau i astudio ar lefel ôl-raddedig.
Fel arfer, rhennir astudiaethau ôl-raddedig yn ddau faes eang; rhaglenni a addysgir ac ymchwil.

Pam dewis astudiaethau ôl-raddedig?

Gall astudio ar lefel ôl-raddedig fod yn brofiad buddiol iawn os byddwch yn dilyn y cwrs cywir am y rhesymau cywir. 
Gall astudiaethau ôl-raddedig:

  • Fod yn hanfodol ar gyfer rhai meysydd gyrfa fel addysgu, gwaith cymdeithasol, meddygaeth a llawer o rai eraill
  • Arwain at yrfa mewn ymchwil ac addysgu academaidd
  • Eich helpu i sefyll allan yn y farchnad swyddi
  • Eich helpu i newid cyfeiriad eich gyrfa

 

Wrth i chi ystyried astudiaethau ôl-raddedig, byddwch yn sicr ynghylch beth rydych eisiau ei astudio, y rhesymau pam, a sut y bydd hyn yn cyd-fynd â'ch cynlluniau gyrfa. 

Sut gall Academi Cyflogadwyedd Abertawe helpu i gefnogi fy nhaith astudio ôl-raddedig?

Mae gan ein Cwrs Datblygu Gyrfa lawer o fodiwlau a allai fod o gymorth wrth gynllunio eich gyrfa a thrwy gydol y broses ymgeisio ôl-raddedig. 

Rhowch gynnig ar unedau canlynol y Cwrs Datblygu Gyrfa  am ragor o wybodaeth ac arweiniad: Ffurflenni Cais A Datganiadau Personol a Opsiynau Gyrfa.  

Mae ein Hymgynghorwyr Gyrfa arbenigol hefyd ar gael ar gyfer apwyntiadau un-i-un i'ch helpu chi ar eich taith astudio ôl-raddedig. P'un a ydych yn chwilio am arweiniad ar ba brifysgol i wneud cais amdani, y broses ymgeisio ôl-raddedig neu'ch camau nesaf tra byddwch yn astudio eich gradd meistr, rydym yma i chi.