Cyflwyniad

Students in a CAD lab

Mae tîm Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA) yn darparu gwasanaethau diduedd a chyfrinachol i'n holl fyfyrwyr presennol a graddedigion diweddar, ac rydym yn ymrwymedig i gyfle cyfartal, yn unol â Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol.

Rydym yn ymdrechu i addasu ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigolion, ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau proffesiynol eraill ar draws y campws i'n helpu i gyflawni hyn. Mae'r adran hon yn cynnwys adnoddau a grëwyd gan y Swyddfa Anableddau er mwyn helpu myfyrwyr anabl i oresgyn yr hyn sy'n ymddangos yn heriau ac i ymdopi â symud o'r Brifysgol i fyd gwaith.

Dyma ychydig enghreifftiau o sut gallwn helpu:

  • Yma yn ACA mae gennym Raglen Hwb Gyrfaoedd sy'n darparu cyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr a allai wynebu heriau i sicrhau profiad gwaith. Felly, mae mewn sefyllfa dda i helpu myfyrwyr anabl i ddod o hyd i leoliadau gwaith.
  • Mae'r Parth Cyflogaeth yn darparu gwybodaeth a chyngor ar chwilio am swydd a dod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith. Mae rhywfaint o gyllid ar gael ar ffurf bwrsariaethau i helpu gyda chostau sy'n ymwneud â chyflogadwyedd; gallai hyn gynnwys pethau i wneud lleoliadau gwaith/interniaethau yn fwy hygyrch i fyfyrwyr ag anableddau.

Fel y nodwyd uchod, mae gwasanaethau ACA ar gael i unrhyw fyfyriwr presennol neu rywun sydd wedi graddio'n ddiweddar, felly darllenwch am yr holl adnoddau sydd ar gael ar ein tudalennau gwe ACA.